Neidio i'r prif gynnwy

Enillydd Cerdyn Nadolig y Prif Weinidog yw…

Mae’r diwrnod yr wyf yn beirniadu fy nghystadleuaeth cerdyn Nadolig blynyddol bob amser yn un cyffrous ond heriol i mi fel Prif Weinidog. Bob blwyddyn rwy’n anfon miloedd o gardiau Nadolig i bobl o bob cwr o’r byd, gan gynnwys i’r Frenhines, ac i Arlywydd ac Is-arlywydd yr Unol Daleithiau. Rwy’n hoffi sicrhau bod y cerdyn Nadolig yn un arbennig iawn, felly rwy’n gofyn am gymorth gan blant ysgolion Cymru.

Ar ôl bod yn COP26 yn Glasgow – lle clywais yn uniongyrchol gan bobl ar y rheng flaen ym maes newid hinsawdd am yr effaith y mae eisoes yn ei chael – penderfynais mai “Nadolig Gwyrdd” fyddai thema’r cerdyn eleni. Roeddwn eisiau i blant ddangos sut y gall pob un ohonom chwarae ein rhan i dorri llygredd, a diogelu ein natur a’n hinsawdd.

Mae wedi bod yn ardderchog gweld ymrwymiad plant ar draws Cymru. Mae eu dychymyg yn fy rhyfeddu bob blwyddyn. Rwyf bob amser yn edrych ymlaen at weld y cynlluniau Nadoligaidd lliwgar y maen nhw wedi’u creu. Gan mai Nadolig Gwyrdd oedd y thema eleni gallwch ddychmygu’r amrywiaeth o gynlluniau ddaeth i law – popeth o ailgylchu i gerbydau trydan; fe fyddech chi’n synnu o weld beth y gall Siôn Corn deithio arno mewn byd gwyrdd!

Neges gan y Prif Weinidog yn cyhoeddi’r cystadleuaeth.

Fel bob blwyddyn, denodd y gystadleuaeth ymateb aruthrol ac roedd yn anodd iawn dod i benderfyniad terfynol. Ond yn y diwedd, llwyddais i ddewis enillydd – Taliesin Bryant, o Ysgol Llannon.

Llongyfarchiadau Taliesin!

Dyma ddarlun Nadoligaidd hardd, ond gyda dwylo o amgylch y byd yn dangos mai dim ond drwy gydweithio y gallwn fynd i’r afael â phroblemau newid hinsawdd.

Llongyfarchiadau enfawr i Taliesin a diolch i bawb a gymerodd ran yn y gystadleuaeth.

Nadolig Llawen. Gobeithio y bydd pob un ohonoch yn cael Nadolig heddychlon a chyfle i orffwys.

Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru

Read this page in English.

1 sylwadau

  1. Hysbysiad: Find out the winner of the First Minister’s Christmas card competition… | Welsh Government

Gadael ymateb

Discover more from Llywodraeth Cymru

Subscribe now to keep reading and get access to the full archive.

Continue reading