Neidio i'r prif gynnwy

Blog Menywod mewn Seiber

Nôl ym mis Chwefror, cyhoeddom flog ‘Seiber: Cynllunio heddiw ar gyfer dyfodol llewyrchus’ ar ein blog Digidol a Data er mwyn rhoi gwybod ichi am y gwaith o ddatblygu Cynllun Gweithredu Seiber i Gymru.

Mae CyberUK yn cael ei gynnal yr wythnos hon, sef digwyddiad seiberddiogelwch blaenllaw y DU a gynhaliwyd gennym ni yma yng Nghymru y llynedd. Mae gan Gymru amryw o gryfderau mewn perthynas â seiber, ac un ohonynt yw ein cysylltiadau a’n clystyrau agos sy’n annog amrywiaeth ar draws y sector.

Fe wnaethom wahodd Clare Johnson, o Glwstwr Seiber Menywod yng Nghymru, i ysgrifennu blog am amrywiaeth yn y sector seiber.

Amrywiaeth rhwng y rhywiau yn y sector seiber

Yn 2022, amcangyfrifodd yr Adran Wyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg (yr Adran Ddigidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon gynt) fwlch blynyddol yn y gweithlu seiber o oddeutu 14,100 o bobl. Mae’r swm hwn yn ystyried y gweithlu presennol, y nifer sy’n mynd i mewn i’r gweithlu a’r nifer sy’n ei adael yn ogystal â’r cynnydd a amcangyfrifir mewn rolau sy’n gysylltiedig â’r maes seiber. Serch hynny, ymhlith y gweithlu hwn â’i fylchau sy’n destun pryder, dim ond 16% o’r gweithlu sy’n fenywod (Y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol, 2022). Ychwanegwch at hynny swm o oddeutu 70% o fenywod sy’n gweithio yn y byd technoleg sy’n teimlo bod rhaid iddynt weithio’n galetach a phrofi eu hunain oherwydd eu rhyw (McKinsey, 2023) ac mae’n amlwg felly fod cryn bellter i fynd eto. Er hynny, gallai cynyddu nifer y menywod sy’n dod i mewn i’r sector (ac yn bwysig, aros ynddo) leihau’r bwlch yn y gweithlu hwn yn sylweddol.

Mae’r rhesymau dros gael gweithlu amrywiol yn rhai grymus. Mae KPMG (2022) yn awgrymu bod amrywiaeth yn cynyddu cynhyrchiant a pherfformiad, yn gwella arloesi, yn arwain at wneud penderfyniadau gwell ac yn denu doniau gwell. Fodd bynnag, nid yw cael cyfran gyfartal o ddynion a menywod yn eich busnes yn ddigon. Rhaid i’r rolau a’r buddion fod yn gyfartal hefyd. Os yw eich gweithlu technegol neu eich uwch dîm yn cynnwys dynion yn bennaf, gallai fod yn amser ichi felly ystyried sut y gallwch wella amrywiaeth. Mae rhwydweithiau cefnogi yn hanfodol o ran yr ymdrech hon, gan hwyluso cysylltiadau i fusnesau sy’n awyddus i recriwtio rhagor o fenywod i’w timau, i ofyn am gyngor ynghylch amrywiaeth rhwng y rhywiau ac i dynnu sylw at gyfleoedd a allai fod o ddiddordeb megis cyllid, cystadlaethau a digwyddiadau. Yn ddiweddar, rydyn ni wedi dechrau gweithio gyda rhwydwaith Menywod Ifanc mewn Seiber Cymru. Gobeithiwn y bydd hyn yn fodd o bontio’r bwlch rhwng ysgolion, prifysgolion a’r byd gwaith. Mae nifer o fenywod yn gadael y diwydiant gan eu bod yn teimlo nad ydynt yn cael eu cefnogi. Gellir lleihau hyn yn sylweddol drwy sicrhau bod rhwydweithiau addas ar waith, bod cyfleoedd da i ddatblygu ar gael yn ogystal ag amodau gweithio hyblyg, pethau rydyn ni o hyd yn hapus i drafod â busnesau yn eu cylch.

Rhwydwaith Menywod mewn Seiber Cymru

Sefydlwyd rhwydwaith Menywod mewn Seiber Cymru yn 2018 a hynny mewn ymateb i’r diffyg amlwg o fenywod mewn digwyddiadau seiber. Daeth ond 16 o fenywod i’n cyfarfod cyntaf ond bellach mae gennym dros 200 o aelodau. Mae’r mwyafrif ohonynt o Gymru, ond pan gynhaliwyd ein cyfarfodydd ar-lein yn ystod COVID, llwyddom i estyn ein cefnogaeth i’r DU gyfan a thu hwnt. Mae’r rhwydwaith yn darparu llwyfan i ddathlu’r gwaith y mae menywod yn ei gyflawni yn y sector a hynny drwy wahodd siaradwyr benywaidd sy’n gweithio ar lefelau uwch. Ar adegau, rydyn ni’n trafod yr heriau rydyn ni’n eu hwynebu, ond mae’n well gennym ganolbwyntio ar y pethau cadarnhaol. Pan fo materion wedi codi, rydyn ni’n trafod sut y cafodd y rhain eu datrys a’r hyn wnaethom ddysgu.

Un o’r cryfderau mawr yng Nghymru yw’r ecosystem gref sy’n bodoli o fewn y sector hwn. Dim ond ychydig o gamau sydd angen eu cymryd cyn y gellir dod o hyd i’r person iawn i drafod unrhyw fater sy’n ymwneud â seiber, boed hynny o safbwynt materion sy’n ymwneud â seiberddiogelwch technegol neu gwestiynau mwy cyffredinol ynglŷn â recriwtio neu ddatblygu sgiliau. Rydyn ni’n falch o’r modd rydyn ni’n llwyddo i gyrraedd eraill, nid yn unig yng Nghymru ond hefyd yn rhyngwladol.

Llynedd, roedd Menywod mewn Seiber Cymru yn hynod o falch o’r cyfle i gynnal brecwast rhwydweithio yn CyberUK yng Nghasnewydd ac rydyn ni’n edrych ymlaen at ddatblygu’r digwyddiad hwn yn CyberUK 2023 yn Belfast. Yn wir, mae Cymru yn arwain y ffordd ar dynnu sylw at yr angen am amrywiaeth rhwng y rhywiau yn y sector seiberddiogelwch ac rydyn ni’n falch iawn o hyn.  

Yn ystod CyberUK, byddwn yn tynnu sylw at rai o’r cryfderau sy’n ymwneud â seiber yng Nghymru felly i gael gweld y rhain, dilynwch ni ar @LlCEconomi. Byddwn hefyd yn cyhoeddi diweddariad am y Cynllun Gweithredu Seiber ar y blog Digidol a Data yn ystod yr wythnosau nesaf.

Read this page in English.

Ffynonellau

DCMS, (2022), Cyber security skills in the UK labour market 2022

NCSC, (2022), Leading women in tech urge schoolgirls to take on the UK’s flagship cyber security contest

McKinsey & Company (2023), Women in tech: The best bet to solve Europe’s talent shortage

KPMG (2022), Inclusion, Diversity and Equity

Ffynonellau gyda lincs

DCMS (2022), https://assets.publishing.service.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/1072767/Cyber_security_skills_in_the_UK_labour_market_2022_-_findings_report.pdf

NCSC (2022), https://www.ncsc.gov.uk/news/schoolgirls-urged-to-take-on-the-uks-flagship-cyber-security-contest

McKinsey & Company (2023), https://www.mckinsey.com/capabilities/mckinsey-digital/our-insights/women-in-tech-the-best-bet-to-solve-europes-talent-shortage

KPMG (2022), https://assets.kpmg.com/content/dam/kpmg/ie/pdf/2022/04/ie-inclusion-diveristy-equity-YM.pdf

Gadael ymateb

Discover more from Llywodraeth Cymru

Subscribe now to keep reading and get access to the full archive.

Continue reading