Neidio i'r prif gynnwy

Hysbysiad preifatrwydd gwefan

Sut ydym yn defnyddio eich gwybodaeth a gesglir gan llywodraethcymru.blog.llyw.cymru

Y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR y DU)

O dan GDPR y DU, mae gennych hawliau fel unigolyn y gallwch eu harfer mewn perthynas â’r wybodaeth sydd gennym amdanoch.

Eich rhyngweithiad â’r wefan hon

WordPress

Rydym yn defnyddio gwasanaeth trydydd parti, WordPress.com i gyhoeddi blogiau. Mae’r blogiau hyn yn cael eu cadw ar WordPress.com sy’n berchen i Automattic Inc. Rydym yn defnyddio WordPress i gasglu gwybodaeth dienw am weithgarwch defnyddwyr ar y wefan. I wirio pa mor effeithiol yw’r wefan a’n helpu i’w wella, mae WordPress yn gofyn i ymwelwyr sy’n rhannu sylw i nodi eu enw a’u cyfeiriad e-bost. Am ragor o wybodaeth am sut y mae WordPress yn prosesu data, gweler polisi preifatrwydd Automattic.

Dolenni i wefannau a gwasanaethau eraill Llywodraeth Cymru

Os ydych yn dilyn dolen i wasanaeth a gynhelir gan llyw,cymru neu wefan a ddarperir gan adran arall yn y Llywodraeth, asiantaeth neu awdurdod lleol, bydd y sefydliad hwnnw:

  • yn gyfrifol am brosesu unrhyw data a rannwch gydag ef
  • yn cyhoeddi a rheoli ei hysbysiad preifatrwydd ei hun ynghyd â manylion ynghylch sut i gysylltu ag ef

Manylion am gwcis ar LLYW.CYMRU

Manylion am gwcis ar LLYW.CYMRU.

Newidiadau i’r hysbysiad preifatrwydd hwn

Wrth adolygu’r dudalen hon, rydych yn sicrhau eich bod o hyd yn ymwybodol o ba wybodaeth a gasglwn, sut ydym yn ei defnyddio ac o dan ba amgylchiadau, os oes unrhyw rai, y byddwn yn ei rhannu gydag eraill.

Diweddarwyd yr hysbysiad preifatrwydd hwn ddiwethaf ar 21 Ionawr 2021.

Gwybodaeth bellach

Mae modd cysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru drwy:

Y Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ. 
E-bost: swyddogdiogeludata@llyw.cymru