Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan, yn myfyrio ar ei blwyddyn gyntaf fel Prif Weinidog

Mae heddiw yn nodi blwyddyn ers i Eluned Morgan ddod yn Brif Weinidog Cymru.

Yn ystod y cyfnod hwn, mae hi wedi teithio ledled Cymru i wrando a dysgu mwy am y pethau sy’n bwysig i chi.

Gofynnon ni iddi sôn am ei phrofiadau yn y swydd a’r pethau mae hi wedi eu cyflawni…

Flwyddyn yn ôl, pan ddes i’n Brif Weinidog Cymru, wnes i addewid: i wrando, dysgu, a chyflawni’r pethau sydd bwysicaf i chi.

Yn yr wythnosau cyntaf, fues i’n teithio ledled Cymru. Dywedoch chi wrtha’i beth sy’n gweithio, beth sydd ddim yn gweithio, a ble mae angen newid fwyaf.

Ac roeddech chi’n glir: mae angen gweithredu, nid mwy o eiriau – ar bedwar peth mawr: Iechyd, Swyddi, Cartrefi a thrafnidiaeth.

Felly gadewch i ni edrych ar be ni wedi’i gyflawni dros y flwyddyn ddiwethaf.

Gofal iechyd yw asgwrn cefn pob cymuned; ry’n ni wedi buddsoddi y symiau uchaf erioed yn yr NHS – a ni eisoes yn gweld y gwahaniaeth.

Ry’n ni’n  darparu miloedd mwy o driniaethau a phrofion ar draws y Gwasanaeth Iechyd, gan sicrhau bod pobl yn cael y gofal sydd angen arnynt, ac yn gyflymach.

Mae nifer y bobl sy’n aros dros ddwy flynedd am driniaeth wedi cwympo mwy na 50% dros y flwyddyn ddiwethaf.

Ry’n ni wedi blaenoriaethu iechyd menywod, gyda £3 miliwn ar gyfer Canolfan Ymchwil newydd, a Chanolfannau Iechyd Menywod ym mhob bwrdd iechyd erbyn 2026.

A ni wedi arwain y ffordd ar ofal cymdeithasol, gan weithio gydag undebau a chyflogwyr i wella cyflogau a thelerau – achos mae gofal tecach i staff yn golygu gofal gwell i bawb.

Mae economi gref yn newid bywydau. Ry’n ni wedi helpu creu dros 40,000 o swyddi yn ystod tymor y Senedd yma. Ry’n ni wedi cefnogi busnesau Cymru ac wedi sicrhau’r  mwyaf o fuddsoddiad mewnol o dramor i gymharu â bron pob lle arall  yn y Deyrnas Unedig.

Yng Ngogledd-ddwyrain Cymru, bydd Investment Zone gwerth  biliwn o bunnau yn sbarduno twf economaidd ac yn creu 6,000 o swyddi.

Ac ar draws y wlad, mae prosiectau adfywio yn trawsnewid canol trefi.

Ry’n ni’n cefnogi’n diwydiannau creadigol hefyd gydag arian ychwanegol – a tair gwaith mwy o fuddsoddiad mewn lleoliadau celfyddydol i gymharu gyda degawd yn ôl.

Mae cartref gweddus yn golygu diogelwch, urddas, a bywyd gwell. Ry’n ni wedi rhyddhau tir, wedi cefnogi adeiladu tai newydd, ac wedi amddiffyn dros 4,600 o gartrefi a busnesau rhag llifogydd.

Ac ry’n ni wedi cyflawni ar gyfer teuluoedd.

Mae pob disgybl ysgol gynradd yng Nghymru bellach yn cael cinio ysgol am ddim, gan arbed £800 i bob teulu, a ni wedi rhoi arian ychwanegol i ysgolion – i roi’r dechrau gorau posib i ein plant ni.

Mae Cymru’n symud – yn llythrennol!

Mae uwchraddio Heol Blaenau’r Cymoedd – gwerth £2 biliwn – y prosiect mwyaf ers datganoli – wedi’i gwblhau, gan gyflymu teithiau a helpu datgloi buddsoddiad newydd i mewn i un o ardaloedd tlotaf Cymru.

Ry’n ni wedi trwsio miloedd o dyllau yn ein ffyrdd ac wedi  buddsoddi cannoedd o filiynau i wneud ein ffyrdd yn fwy diogel.

Ar y rheilffyrdd, mae’r rhan fwyaf o deithiau nawr ar drenau newydd sbon. Yn ogystal, ry’n ni’n gweithio gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar 5 gorsaf newydd, ac mae Metro Gogledd Cymru yn gwneud gwelliannau gwirioneddol.

Ry’n ni hefyd wedi buddsoddi £110 miliwn i wella trafnidiaeth leol, gyda bysiau gwell, llwybrau ysgol mwy diogel, a tocynnau bws am £1 i’n plant ni.

Ry’n ni’n adeiladu system fodern, gydgysylltiedig  sy’n gweithio i bawb.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, dwi wedi glynu at fy addewid i wrando, dysgu a chyflawni.

Ond dydyn ni ddim wedi gorffen eto. Dim ond y dechrau yw hwn, achos mae mwy i wneud, mwy o leisiau i’w clywed, a mwy o gymunedau i’w cefnogi.

Wnawn ni barhau i fynd. Gyda’n gilydd, gallwn adeiladu Cymru sy’n gryfach, yn decach ac yn fwy cysylltiedig.

First Minister Eluned Morgan’s message on a year as First Minister.

Dilynwch fi ar XFacebookInstagramThreads and Bluesky am y diweddaraf.

Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan 

Gadael ymateb

Discover more from Llywodraeth Cymru

Subscribe now to keep reading and get access to the full archive.

Continue reading