
Mae heddiw’n nodi 100 diwrnod cyntaf ein Prif Weinidog newydd, Eluned Morgan. Yn ystod y cyfnod hwn, mae hi wedi bod ar daith wrando o amgylch Cymru, yn gofyn am eich barn am y pethau sydd bwysicaf i chi. Yn dilyn yr adborth hwn, cyhoeddodd ei blaenoriaethau ar gyfer y llywodraeth hon. Wrth i ni gyrraedd y garreg filltir 100 diwrnod hon, gwnaethom ei gwahodd i fyfyrio ar ei hamser yn y swydd hyd yn hyn a’r hyn y mae wedi’i gyflawni…
Pan ddes i’n Brif Weinidog wnes i deithio ar draws Cymru yn clywed beth oedd bwysicaf i chi.
Dywedais i fod i yma i wrando a nawr dwi’n canolbwyntio ar gyflawni i chi.
Dyma rai o brif bethau fy nghant diwrnod cyntaf yn y swydd:
Chi di dweud bod gwasanaethau cyhoeddus fel iechyd ac addysg yn bwysig iawn – felly ni wedi sicrhau codiad cyflog dros chwyddiant i’r miloedd o bobl sy’n gweithio yn ein gwasanaethu cyhoeddus bob dydd.
Ni wedi helpu i ddod â dros 1 biliwn o bunnoedd mewn buddsoddiad, gan greu cannoedd o swyddi o safon ledled Cymru.
Mae costau byw yn golygu bod hi’n anodd i lot iawn o bobl – felly ni wedi gwneud bywyd yn haws i’r rhai sydd â phlant ifanc – gan gwblhau’r broses o gyflwyno prydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol Gynradd.
Ar ein Gwasanaeth iechyd, ni wedi gwrando a buddsoddi £30m yn ychwanegol i leihau yr amseroedd aros hiraf.
Ni wedi sicrhau ein bod wedi cysylltu miloedd o fusnesau a chymunedau drwy ein Cronfa Band Eang Lleol gwerth £12miliwn.
Ni wedi cymeradwyo pum prosiect ynni adnewyddadwy newydd, gyda’r potensial i ddarparu pŵer cyfesur a 180,000 o gartrefi yng Nghymru.
Ac rydym wedi agor ysgol feddygol newydd sbon yng Ngogledd Cymru i greu’r genhedlaeth nesaf o feddygon yng Nghymru.
Mae hyn yn ychwanegol at lu o gyhoeddiadau eraill yr ydym wedi’u gwneud, y gallwch eu gweld ar ein tudalen hysbysiadau.
Mae llawer mwy ar y rhestr o bethau ni wedi gwneud yn barod ac mae mwy i ddod. Mae hyn yn ddechrau da, ond fi’n gwybod bod fwy i ni wneud!
Dilynwch fi ar X, Facebook, Instagram, Threads and Bluesky am y diweddaraf.
Prif Weinidog Cymru
Eluned Morgan