
Rydyn ni’n chwilio am Swyddogion Cymorth Tîm newydd yma yn Llywodraeth Cymru. Mae’r rolau hyn yn gyffrous, yn gyflym ac yn amrywiol eu natur, ond peidiwch â chymryd ein gair ni… darllenwch hanesion rhai o’n cydweithwyr a ddechreuodd fel Swyddogion Cymorth Tîm a chael gwybod i ble mae eu taith gyrfa wedi mynd â nhw…
O fod yn amheus yn y lle cyntaf i arwain adran Rheoli Cyfleusterau Llywodraeth Cymru!
Cefais fy ngeni yng nghefn gwlad Kashmir ac ymfudo i Birmingham gyda fy nheulu pan oeddwn yn 18 mis oed. Es i i’r brifysgol yn Aberystwyth cyn symud i Lundain, ac yna symud i gefn gwlad gorllewin Cymru ger Tregaron. Bellach, rwy’n byw ym Mhort Talbot ac yn gweithio gartref ac yn ein swyddfa ym Mhenlle’r-gaer.
Dechreuodd fy nhaith Llywodraeth Cymru yn Aberaeron un diwrnod pan ddywedais wrth fy ffrind fy mod yn awyddus i symud i’r De. Awgrymodd fy ffrind fy mod yn gwneud cais i weithio i Lywodraeth Cymru. Roeddwn i’n amheus, gan feddwl, “dwi’n ddynes Asiaidd, dwi ddim yn siarad Cymraeg, on’d yw e jest ar gyfer y Cymry?”. Gwnaeth fy ffrind fy sicrhau bod lle i bawb yn y Gwasanaeth Sifil, felly es i amdani a gwneud cais.
Ymlaen â ni at yr adeg pan gefais swydd mewn gwasanaeth ymgynghoriaeth recriwtio yn y sector preifat, ac ar y diwrnod y cefais y swydd honno, cefais gynnig swydd gan Lywodraeth Cymru. Gan fy mod yn awyddus i symud i’r sector cyhoeddus, dewisais ymuno â Llywodraeth Cymru. Er gwaethaf fy amheuon ar y dechrau, 21 mlynedd yn ddiweddarach, rwy’ yma o hyd – bellach yn Bennaeth Rheoli Cyfleusterau ac yn gyfrifol am dimau ledled y wlad.
Ym mis Tachwedd 2003, dechreuais yn y Gyfarwyddiaeth Ystadegol ar gontract dros dro a sylweddoli’n gyflym fy mod eisiau aros. Ym mis Mai 2004, llwyddais i gael swydd barhaol fel Swyddog Cymorth Tîm. Fy rôl barhaol gyntaf oedd gweithio ar y Strategaeth Leoli, a oedd yn ymwneud â datganoli swyddogaethau o bencadlys Caerdydd i wahanol ranbarthau yng Nghymru. Ehangodd y swydd hon fy nealltwriaeth o Gymru a dibenion amrywiol Llywodraeth Cymru, a’r cysylltiadau oedd gan y rhain â’r gwahanol ranbarthau.
Drwy gydol fy ngyrfa yn Llywodraeth Cymru, rwy’ wedi gwneud ffrindiau oes ac rwy’ hefyd wedi cael fy mentora a chael cymorth sydd wedi fy helpu imi ddatblygu fy hun yn ystod rhai cyfnodau heriol iawn. Un o’m huchafbwyntiau pennaf oedd mynd i Arddwest Frenhinol ym Mhalas Buckingham am y gwaith rwy’ wedi’i gyflawni ar Fwrdd Cysgodol Llywodraeth Cymru – rhywbeth na fyddwn i erioed wedi disgwyl cael fy enwebu amdano!
Mae fy nghyngor i unrhyw un sy’n ystyried ymuno â Llywodraeth Cymru yn syml: ewch amdani. Rhowch gynnig arni. Mae gennych werth, ac mae lle i bawb yma. Rydyn ni angen pobl sy’n frwdfrydig ac sy’n llawn syniadau. Mae gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu hysgogi gan y dyhead i sicrhau canlyniadau cadarnhaol i bobl Cymru – os yw hynny’n taro tant â chi, rydyn ni eisiau clywed gennych!
Zakhyia, Pennaeth Rheoli Cyfleusterau

Gweithle lle rwy’n gallu bod yn fi fy hun.
Dechreuais ar fy nhaith gyda Llywodraeth Cymru fel gweithiwr achlysurol ym mis Mai 2008, gan symud i rôl Swyddog Cymorth Tîm yn llawn amser ym mis Mawrth 2009. Fy swydd gyntaf oedd gyda’r tîm Tir Gofal ym Mhenrhyndeudraeth. Gan fod gen in ddiddordeb mewn gwasanaethau cyhoeddus, roedd y cyfle gyda Llywodraeth Cymru yn cyd-fynd yn berffaith â’r llwybr gyrfa roeddwn i’n awyddus i’w ddilyn.
Dros y blynyddoedd, rwy’ wedi gweithio mewn rolau amrywiol, gan ddechrau yn Taliadau Gwledig Cymru, ac yn ddiweddarach, symud i’r Gwasanaethau Gwybodaeth, Llyfrgelloedd ac Archifau. Yno, roeddwn i’n canolbwyntio ar ganfod cofnodion Llywodraeth Cymru i’w cadw’n barhaol yn yr Archifau Gwladol, yn ogystal â threialu’r broses ar gyfer trosglwyddo cofnodion yn ddigidol. Ar hyn o bryd, rwy’n gyfrifol am ganfod cofnodion sy’n berthnasol i ymchwiliad COVID-19 a gweithio gyda chyfreithwyr ac ymgynghorwyr allanol.
Rwy’n mwynhau natur uchel ei broffil ac amrywiol fy ngwaith a’r cyfleoedd mae’n ei roi i feithrin perthynas ag eraill yn y sefydliad a thu hwnt. Er fy mod wedi fy lleoli yng Nghaernarfon a bod y tîm ar wasgar yng Nghaerdydd, Merthyr Tudful ac Aberystwyth, mae technoleg fodern yn golygu bod modd cydweithio’n hwylus a chynnal cysylltiadau cymdeithasol yn hawdd.
Cyn ymuno, roeddwn i’n dychmygu bod y Gwasanaeth Sifil yn lle eitha’ llym, heb fod yn amrywiol iawn, na llawer o gyfleoedd i fod yn greadigol. Ond mae fy mhrofiadau wedi bod i’r gwrthwyneb yn llwyr. Rydych chi’n dod i ddeall yn sydyn bod y sefydliad yn cynnwys pobl amrywiol o bob math o gefndiroedd. Yn rhan o PRISM, ein rhwydwaith staff LHDTQ+, rwy’n teimlo fy mod yn cael fy annog i ddod â fi fy hun i’r gwaith, ac mae presenoldeb amlwg Uwch Weision Sifil a Gweinidogion LHDTQ+ yn meithrin diwylliant cynhwysol o’r brig i lawr.
Yr hyn rwy’n ei garu fwyaf am weithio i Lywodraeth Cymru yw ei hyblygrwydd a’r pwyslais ar ddatblygiad personol. Mae cyfrannu at wasanaethau cyhoeddus sydd o fudd i bobl Cymru yn rhoi boddhad mawr imi. Mae fy nghyngor i ddarpar ymgeiswyr yn syml: peidiwch ag oedi cyn gwneud cais a gofynnwch am help os oes angen!
Jamie, Pennaeth e-Ddarganfod

O Adnoddau Dynol i addysg, o Dubai i’r diwydiannau creadigol – gyrfa amrywiol o dwf a chyfleoedd.
Dechreuais ar fy nhaith gyda Llywodraeth Cymru yn 2012 pan oeddwn i’n 21 oed, gan symud o fy rôl fel derbynnydd mewn Clwb Iechyd. Fy swydd gyntaf oedd ar Ddesg Gymorth Adnoddau Dynol, lle’r oeddwn i’n ymdrin ag ymholiadau dros y ffôn, wyneb yn wyneb ac ar e-bost. Gwnaeth y swydd gyntaf hon agor y drws i yrfa amrywiol iawn.
Ers hynny, rwy’ wedi gweithio yn Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, yr Adran Addysg, ac amryw o dimau Adnoddau Dynol, lle gwnaeth y sefydliad ariannu a’m helpu i ennill fy nghymwysterau Adnoddau Dynol ffurfiol. Un o’r penodau mwyaf cyffrous oedd lleoliad 13 mis o hyd yn Dubai, lle roeddwn i’n gweithio yn rhan o’r adran Cysylltiadau Rhyngwladol.
Bellach, rwy’n rhan o Cymru Greadigol, yr asiantaeth datblygu economaidd ar gyfer y sector creadigol yng Nghymru. Rwy’n arwain ac yn cynnal digwyddiadau, yn ymdrin â cheisiadau am nawdd, ac yn helpu’r tîm marchnata a chyfathrebu i ysgogi twf yn ein diwydiannau creadigol. Er fy mod wedi fy lleoli yn Llundain, mae gweddill fy nhîm yng Nghaerdydd.
Pam Llywodraeth Cymru? Mae’r sefydliad yn rhoi llawer o bwyslais ar weithio o bell a gweithio’n hyblyg, ac mae ystod enfawr o lwybrau gyrfa a chyfleoedd datblygu ar gael i bobl sy’n barod i archwilio a dysgu. Rwy’n hoff iawn o’r cyswllt â sectorau gwahanol a’r cyfle i ddilyn fy niddordebau personol fy hun yn y gwaith.
Pan ymunais i, roeddwn i’n disgwyl sefydliad mwy ‘statig’, ond cefais fy synnu ar yr ochr orau gan yr amgylchedd egnïol, nifer y cyfleoedd a’r amcanion sy’n newid, gan gynnwys rolau rhyngwladol ac adrannau newydd.
Un o uchafbwyntiau fy ngyrfa oedd byw a gweithio yn Dubai am gyfnod o 13 mis, gan gyfrannu at weithgareddau Llywodraeth Cymru yn Expo Dubai 2020.
Mae fy nhaith yn profi nad oes angen gradd arnoch i gael gyrfa lwyddiannus ac amrywiol. Ymunais gyda chymwysterau TGAU a Safon Uwch, a chefais fy ysgogigan barodrwydd i fanteisio ar heriau newydd ac achub ar gyfleoedd. Mae Llywodraeth Cymru yn lle gwych i archwilio sectorau gwahanol a darganfod eich diddordebau. Drwy fod yn rhagweithiol ac yn ymroddedig, gallwch ddatblygu a manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd sydd ar gael. Rydych chi’n sicr yn elwa ar yr hyn rydych chi’n ei roi!
Charlotte, Rheolwr Ymgysylltu â Rhanddeiliaid, Partneriaethau a Digwyddiadau (Cymru Greadigol)

O reolwr cartref gofal i ddod o hyd i’m hangerdd mewn gwasanaethau cyhoeddus.
Yn ôl yn 2006, dechreuais bennod newydd yn fy nhaith gyrfa gan ymuno â Llywodraeth Cymru a symud o fy rôl fel rheolwr cartref gofal preswyl i oedolion ifanc ag anableddau. Roeddwn i’n chwilio am sefydlogrwydd a dyma ddod ar draws llwybr annisgwyl yn y gwasanaethau cyhoeddus. Er imi gael fy nenu yn y lle cyntaf at swydd benodol ym maes amaethyddiaeth, derbyniais swydd ran amser gydag Arolygiaeth Gofal Cymru gan ddechrau ar fy ngyrfa yn Llywodraeth Cymru.
Dechreuodd fy nhaith gyda’r sefydliad yn Aberystwyth, man cychwyn a wnaeth fy arwain yn y pen draw i Gaerdydd yn 2018. Gan fod fy nhîm presennol ar wasgar yng Nghaerdydd, Abertawe a Merthyr Tudful, rwy’ wedi profi amrywiaeth Cymru yn uniongyrchol, o ran rolau a lleoliadau.
Gan ddechrau fel Swyddog Cymorth Tîm yn Arolygiaeth Gofal Cymru, roedd fy swydd yn cynnwys trefnu cyfweliadau ar gyfer darparwyr gwasanaethau gofal, rheoli data, ac ymwneud â rhanddeiliaid. Symudais o gwmpas o un swydd i’r llall, o gymorth TG i ddatblygu polisïau. Cefais gyfle mewnol i gwblhau prentisiaeth NVQ Lefel 4 i gael dyrchafiad a wnaeth agor drysau at gyfleoedd newydd imi. Rwy’ bellach yn Rheolwr Llywodraethu a Busnes Cenedl Noddfa gan ganolbwyntio ar faterion mudo a chymorth i geiswyr lloches, yn enwedig y rhai o Wcráin. Mae’n rôl sy’n cyd-fynd â’m hangerdd i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl.
Pam Llywodraeth Cymru? Mae’r amodau gweithio hyblyg a’r ystod eang o rolau sydd ar gael yn wych, ond y prif reswm pam fy mod wrth fy modd yn gweithio yma yw cael y cyfle i gyfrannu at newid ystyrlon, boed hynny drwy gymorth TG, datblygu polisïau neu wasanaeth uniongyrchol i’r gymuned.
Un o adegau fy ngyrfa a roddodd y boddhad mwyaf imi oedd y gwaith a wnes i ar grantiau tai, a wnaeth helpu dros 1,000 o aelwydydd, gan gynnwys ceiswyr lloches o Wcráin, i symud o’r strydoedd i lety addas.
Os ydych chi’n ystyried gyrfa gyda Llywodraeth Cymru, yna mae fy nghyngor yn syml: ewch amdani. Mae’r sefydliad yn llawer mwy amrywiol nag yr oeddwn i erioed wedi’i ddisgwyl, gan gynnig digon o gyfleoedd ar gyfer twf personol a phroffesiynol – ac ynghyd â’r trefniant gweithio hybrid hefyd, nid oes cyfyngiad ar ble rydych chi’n byw, cyn belled â bod gennych gysylltiad â’r rhyngrwyd gartref. Mae’n amgylchedd cefnogol sydd â diwylliant sy’n meithrin hyder a datblygiad. Mae Llywodraeth Cymru yn darparu gofod diogel a chynhwysol gyda rhwydweithiau cefnogol i’ch helpu i archwilio a dod o hyd i’ch maes arbenigol. Gall eich gyrfa newid a datblygu gyda chi wrth i’ch gwerthoedd, eich angerdd a’ch diddordebau newid dros amser, ac mae’r sefydliad yn sicr yn cefnogi hynny.
Szy, Rheolwr Llywodraethu a Busnes (Cenedl Noddfa)

Datblygu fy hun yn y proffesiwn cyfathrebu a marchnata.
Yn wreiddiol o Ferthyr Tudful a bellach yn byw ym Mhontypridd, es i i ysgol Gymraeg. Dechreuais weithio gyda Llywodraeth Cymru fel rhan o garfan brentisiaid 2018. Cyn hyn, cefais brofiad mewn amryw o swyddi yn y sector preifat ym meysydd marchnata a’r gyfraith ar ôl cwblhau fy ngradd mewn Saesneg ym Mhrifysgol Abertawe.
Fy swydd gyntaf oedd fel Swyddog Cymorth Tîm yn nhîm y Gymraeg. Fy mhrif gyfrifoldeb oedd cynorthwyo gyda’r ymgyrch Cymraeg 2050. Dros amser, symudais ymlaen i ganolbwyntio mwy ar weithgareddau seiliedig ar gyfathrebu fel drafftio cynnwys ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol a rheoli cynnwys y we. Roedd amgylchedd cefnogol y tîm yn allweddol o ran fy helpu i gael profiad ym maes cyfathrebu, i gyd-fynd â’m dyheadau gyrfa.
Ar ddechrau’r pandemig COVID-19, cefais ddyrchafiad i’r tîm Iechyd, Gofal Cymdeithasol a’r Blynyddoedd Cynnar. Ers hynny, rwy’ wedi cael dyrchafiad eto ac rwy’ bellach yn Rheolwr Cyfathrebu Digidol. Yn y swydd hon, rwy’n rheoli sianeli cyfryngau cymdeithasol y Prif Swyddog Meddygol a’r Prif Swyddog Nyrsio, yn ogystal â thudalennau newydd Teulu Cymru. Ymhlith fy nghyfrifoldebau mae drafftio cynnwys ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol, rheoli tîm bach, a golygu fideo. Mae ailgysylltu â’r Gymraeg drwy fy swydd wedi bod yn brofiad gwerth chweil.
Er bod fy nhîm wedi’i leoli yng Nghaerdydd, rydyn ni’n gweithio gartref yn bennaf, gan fwynhau cydbwysedd gwych rhwng bywyd a gwaith. Rwy’n teimlo fy mod yn cael fy ngwerthfawrogi yn fy swydd o fewn Llywodraeth Cymru, ac rwy’ wedi cael nifer o gyfleoedd i ddefnyddio fy ngradd Saesneg a’m sgiliau siarad Cymraeg.
Rwy’n teimlo fy mod wedi datblygu’n bersonol ac yn broffesiynol ers dechrau gyda Llywodraeth Cymru ac rwy’n ddiolchgar am yr amgylchedd cefnogol a’r cyfle i fynd ar drywydd fy angerdd am gyfathrebu a marchnata.
Richard, Rheolwr Cyfathrebu Digidol

Hysbysiad: Come Work with Us! | Welsh Government