Neidio i'r prif gynnwy

Ar Ddiwrnod Alzheimer’s y Byd, mae’r Prif Weinidog, Eluned Morgan yn myfyrio ar fod yn ofalwr i’w mam ag Alzheimer’s

Bob blwyddyn ar 21 Medi rydym yn nodi Diwrnod Alzheimer’s y Byd, mewn ymdrech fyd-eang i godi ymwybyddiaeth a herio’r stigma ynghylch clefyd Alzheimer a dementia arall.

Fe wnaethon ni siarad â’r Prif Weinidog am fod yn ofalwr i’w mam ag Alzheimer’s.

Mae fy mam bellach yn 93. Mae hi bob amser wedi bod yn gefnogwr mwyaf i mi ac wedi helpu i siapio fy mywyd cyfan. Ei chymhelliant i ni pan oeddem yn tyfu i fyny oedd ‘creu cof’. Roedd ein plentyndod cyfan yn egnïol – yn creu atgofion – felly heddiw, mae’n drist ac eironig nad oes gan y fenyw a’n hanogodd i greu atgofion bron unrhyw atgofion ei hun ar ôl i ddal arnynyt.  .

Cafodd ddiagnosis o Alzheimer’s fwy na phum mlynedd yn ôl bellach. Er gwaethaf creulondeb y clefyd, mae’n dod â llawenydd i mi allu rhoi yn ôl iddi. Rwy’n gwerthfawrogi’r amser  rwy’n ei dreulio gyda hi.

Ond os ydw i’n onest, mae hefyd yn aml yn fy ngyrru i. Mae’r newid cyflymder yn her, yn enwedig i rywun fel fi sy’n byw bywyd ar 100 milltir yr awr. Mae’n rhaid i mi arafu i bwynt o bron stopio.

Mae hynny’n anodd iawn, ac wrth i’w chyflwr waethygu ac mae angen mwy o gefnogaeth agos arni, mae’n her gwneud hyn wrth anrhydeddu a pharchu ei urddas. Mae’n wrthdroi rolau o’i gymharu â phan oeddwn i’n blentyn. Ond yr hyn sy’n hyfryd, ac sy’n gwneud yr amser mor arbennig, yw pan fydd y cip hwnnw o fy Mam, fel yr oedd hi, yn disgleirio drwodd ac yn dal yno.

Mae hi’n dal i rannu unrhyw beth sydd ganddi yn gyson ac yn ceisio gwasanaethu mewn unrhyw ffordd y gall. Felly, mae’n rhaid i ni adael ychydig o olchi llestri iddi ei wneud fel ei bod hi’n teimlo ymdeimlad o bwrpas ac yn dal i gael rôl yn y teulu.

Mae’n heriol iawn ond mae hefyd yn hyfryd. Rwy’n ceisio dychwelyd i Sir Benfro gymaint ag y gallaf i wneud yn siŵr fy mod yn treulio amser gyda hi.

Rwy’n gwerthfawrogi ein hamser gyda’n gilydd. Rwy’n gwybod bod degau o filoedd fel fi i fyny ac i lawr y wlad yn rhoi cefnogaeth i’w hanwyliaid.

Ar Ddiwrnod Alzheimer’s y Byd rwyf am ddweud diolch i’r holl ofalwyr cyflogedig a di-dâl yn ein gwlad. Diolch ichi gyd am y gwaith anhygoel rydych chi’n ei wneud.

Eluned Morgan, yn myfyrio ar ei blwyddyn gyntaf fel Prif Weinidog

Mae heddiw yn nodi blwyddyn ers i Eluned Morgan ddod yn Brif Weinidog Cymru.

Yn ystod y cyfnod hwn, mae hi wedi teithio ledled Cymru i wrando a dysgu mwy am y pethau sy’n bwysig i chi.

Gofynnon ni iddi sôn am ei phrofiadau yn y swydd a’r pethau mae hi wedi eu cyflawni…

Flwyddyn yn ôl, pan ddes i’n Brif Weinidog Cymru, wnes i addewid: i wrando, dysgu, a chyflawni’r pethau sydd bwysicaf i chi.

Yn yr wythnosau cyntaf, fues i’n teithio ledled Cymru. Dywedoch chi wrtha’i beth sy’n gweithio, beth sydd ddim yn gweithio, a ble mae angen newid fwyaf.

Ac roeddech chi’n glir: mae angen gweithredu, nid mwy o eiriau – ar bedwar peth mawr: Iechyd, Swyddi, Cartrefi a thrafnidiaeth.

Felly gadewch i ni edrych ar be ni wedi’i gyflawni dros y flwyddyn ddiwethaf.

Gofal iechyd yw asgwrn cefn pob cymuned; ry’n ni wedi buddsoddi y symiau uchaf erioed yn yr NHS – a ni eisoes yn gweld y gwahaniaeth.

Ry’n ni’n  darparu miloedd mwy o driniaethau a phrofion ar draws y Gwasanaeth Iechyd, gan sicrhau bod pobl yn cael y gofal sydd angen arnynt, ac yn gyflymach.

Mae nifer y bobl sy’n aros dros ddwy flynedd am driniaeth wedi cwympo mwy na 50% dros y flwyddyn ddiwethaf.

Ry’n ni wedi blaenoriaethu iechyd menywod, gyda £3 miliwn ar gyfer Canolfan Ymchwil newydd, a Chanolfannau Iechyd Menywod ym mhob bwrdd iechyd erbyn 2026.

A ni wedi arwain y ffordd ar ofal cymdeithasol, gan weithio gydag undebau a chyflogwyr i wella cyflogau a thelerau – achos mae gofal tecach i staff yn golygu gofal gwell i bawb.

Mae economi gref yn newid bywydau. Ry’n ni wedi helpu creu dros 40,000 o swyddi yn ystod tymor y Senedd yma. Ry’n ni wedi cefnogi busnesau Cymru ac wedi sicrhau’r  mwyaf o fuddsoddiad mewnol o dramor i gymharu â bron pob lle arall  yn y Deyrnas Unedig.

Yng Ngogledd-ddwyrain Cymru, bydd Investment Zone gwerth  biliwn o bunnau yn sbarduno twf economaidd ac yn creu 6,000 o swyddi.

Ac ar draws y wlad, mae prosiectau adfywio yn trawsnewid canol trefi.

Ry’n ni’n cefnogi’n diwydiannau creadigol hefyd gydag arian ychwanegol – a tair gwaith mwy o fuddsoddiad mewn lleoliadau celfyddydol i gymharu gyda degawd yn ôl.

Mae cartref gweddus yn golygu diogelwch, urddas, a bywyd gwell. Ry’n ni wedi rhyddhau tir, wedi cefnogi adeiladu tai newydd, ac wedi amddiffyn dros 4,600 o gartrefi a busnesau rhag llifogydd.

Ac ry’n ni wedi cyflawni ar gyfer teuluoedd.

Mae pob disgybl ysgol gynradd yng Nghymru bellach yn cael cinio ysgol am ddim, gan arbed £800 i bob teulu, a ni wedi rhoi arian ychwanegol i ysgolion – i roi’r dechrau gorau posib i ein plant ni.

Mae Cymru’n symud – yn llythrennol!

Mae uwchraddio Heol Blaenau’r Cymoedd – gwerth £2 biliwn – y prosiect mwyaf ers datganoli – wedi’i gwblhau, gan gyflymu teithiau a helpu datgloi buddsoddiad newydd i mewn i un o ardaloedd tlotaf Cymru.

Ry’n ni wedi trwsio miloedd o dyllau yn ein ffyrdd ac wedi  buddsoddi cannoedd o filiynau i wneud ein ffyrdd yn fwy diogel.

Ar y rheilffyrdd, mae’r rhan fwyaf o deithiau nawr ar drenau newydd sbon. Yn ogystal, ry’n ni’n gweithio gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar 5 gorsaf newydd, ac mae Metro Gogledd Cymru yn gwneud gwelliannau gwirioneddol.

Ry’n ni hefyd wedi buddsoddi £110 miliwn i wella trafnidiaeth leol, gyda bysiau gwell, llwybrau ysgol mwy diogel, a tocynnau bws am £1 i’n plant ni.

Ry’n ni’n adeiladu system fodern, gydgysylltiedig  sy’n gweithio i bawb.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, dwi wedi glynu at fy addewid i wrando, dysgu a chyflawni.

Ond dydyn ni ddim wedi gorffen eto. Dim ond y dechrau yw hwn, achos mae mwy i wneud, mwy o leisiau i’w clywed, a mwy o gymunedau i’w cefnogi.

Wnawn ni barhau i fynd. Gyda’n gilydd, gallwn adeiladu Cymru sy’n gryfach, yn decach ac yn fwy cysylltiedig.

First Minister Eluned Morgan’s message on a year as First Minister.

Dilynwch fi ar XFacebookInstagramThreads and Bluesky am y diweddaraf.

Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan 

Y Prif Weinidog, Eluned Morgan, yn Nodi Can Diwrnod yn y Swydd

Mae heddiw’n nodi 100 diwrnod cyntaf ein Prif Weinidog newydd, Eluned Morgan. Yn ystod y cyfnod hwn, mae hi wedi bod ar daith wrando o amgylch Cymru, yn gofyn am eich barn am y pethau sydd bwysicaf i chi. Yn dilyn yr adborth hwn, cyhoeddodd ei blaenoriaethau ar gyfer y llywodraeth hon. Wrth i ni gyrraedd y garreg filltir 100 diwrnod hon, gwnaethom ei gwahodd i fyfyrio ar ei hamser yn y swydd hyd yn hyn a’r hyn y mae wedi’i gyflawni…

Darllenwch mwy

25 Mlynedd o Ddatganoli

Mae’r Prif Weinidog, Vaughan Gething, yn myfyrio ar 25 mlynedd o ddatganoli yng Nghymru a’r hyn y mae hyn yn ei olygu iddo.

Mae ein gwlad wedi bod ar daith datganoli hanesyddol. Mae’n un yr ydym yn falch ohono, ond nid yw’n rhywbeth y dylem fyth ei gymryd yn ganiataol.

Darllenwch mwy

Ffarwelio â’n Prif Weinidog, Mark Drakeford

Ar ôl pum mlynedd fel Prif Weinidog Cymru, mae’n bryd i ni ffarwelio â Mark Drakeford. 

Bu ganddo sawl swydd o fewn Llywodraeth Cymru dros y blynyddoedd. Bu’n Gynghorydd Arbennig i’r cyn Brif Weinidog, Rhodri Morgan, yn Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn 2013, Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yn 2016, ac yn olaf, Prif Weinidog Cymru yn 2018.

Cawsom un cyfweliad olaf gydag ef.

Darllenwch mwy

Beicio i’r gwaith trwy gydol y flwyddyn!

Mae’r mis Beicio i’r Gwaith wedi dod i ben, ond dyw beicio i’r gwaith ddim yn rhywbeth i’w wneud ym mis Medi neu’r haf yn unig. Yma yn y Llywodraeth mae gennym nifer o fentrau i annog beicio i’r gwaith, gan gynnwys y cynllun Beicio i’r Gwaith sy’n helpu staff i brynu beic drwy gynllun aberthu cyflog.

Mae un o’n cydweithwyr, Alex, yn gyfarwydd â theithio i’r swyddfa ar ddwy olwyn ac yn gwneud hyn drwy gydol y flwyddyn. Er i’r pandemig arwain at fwy o weithio hybrid yn Llywodraeth Cymru, mae Alex wedi dod o hyd i ffyrdd o gwmpas hyn drwy sefydlu “cymudo rhithwir” ei hun. Mae’n rhannu gyda ni pam ei fod mor angerddol am hyn a beth mae o’n gwneud i oroesi’r gaeaf…

Darllenwch mwy