Neidio i'r prif gynnwy

Beicio i’r gwaith trwy gydol y flwyddyn!

Mae’r mis Beicio i’r Gwaith wedi dod i ben, ond dyw beicio i’r gwaith ddim yn rhywbeth i’w wneud ym mis Medi neu’r haf yn unig. Yma yn y Llywodraeth mae gennym nifer o fentrau i annog beicio i’r gwaith, gan gynnwys y cynllun Beicio i’r Gwaith sy’n helpu staff i brynu beic drwy gynllun aberthu cyflog.

Mae un o’n cydweithwyr, Alex, yn gyfarwydd â theithio i’r swyddfa ar ddwy olwyn ac yn gwneud hyn drwy gydol y flwyddyn. Er i’r pandemig arwain at fwy o weithio hybrid yn Llywodraeth Cymru, mae Alex wedi dod o hyd i ffyrdd o gwmpas hyn drwy sefydlu “cymudo rhithwir” ei hun. Mae’n rhannu gyda ni pam ei fod mor angerddol am hyn a beth mae o’n gwneud i oroesi’r gaeaf…

Wrth dyfu i fyny yng Nghaerdydd yn yr wythdegau, roedd fy nhad yn beicio i’w waith yng Ngwasanaeth Iechyd Cymru yn Ysbyty Brenhinol Caerdydd. Yn amlwg fe wnaeth hyn adael argraff arna i, ac rydw i wedi bod yn beicio i’r gwaith ers bron i ddau ddegawd. Dyma fi yn croesawu dad adref wrth iddo dychwelyd adref o’r gwaith un diwrnod ar ei feic cymudo Raleigh Racer ffyddlon, gyda ffrâm Reynolds 501!

Yn 2011, ymunais â Llywodraeth Cymru a dechreuais feicio i’r gwaith o’r cychwyn. Dw i wedi symud o amgylch Caerdydd, felly dw i wedi teithio o wahanol leoedd ar draws a thu hwnt i’r ddinas, ym mhob tywydd a thrwy’r gaeafau. Dw i’n mwynhau’r awyr agored – mae’n ffordd amhrisiadwy o ‘ddadgywasgu’ ar y ffordd adref ar ôl diwrnod prysur. Mae hefyd wedi bod yn hwyl arbrofi gyda gwahanol offer i sicrhau cymudo cyfforddus waeth beth fo’r tywydd. Fy mhrif awgrym yw menig a sanau cynnes o ansawdd da!

Mae yna lawer o uchafbwyntiau ac isafbwyntiau, yn enwedig pan gafodd fy meic ei ddwyn o Blas y Parc ar ôl gwaith! Ond yn bennaf oll, mae wedi bod yn ffordd dda o gadw’n heini a chwrdd â llawer o gydweithwyr gwych ar draws y sefydliad trwy ein Grŵp Defnyddwyr Beiciau. Blwyddyn ar ôl blwyddyn, mae’r beic yn dod i’r brig o ran effeithlonrwydd o’i gymharu â dulliau cymudo eraill yn y ddinas.

Roedd y pandemig wedi newid fy nhrefniadau beicio i’r gwaith ac ers i ni symud i weithio o gartref fwy dw i’n beicio i’r swyddfa llai nag o’r blaen. Felly yn lle dw i’n defnyddio beic yn fy nghartref sy’n grêt yn ystod misoedd y gaeaf, lle gallaf ddefnyddio fy awr llesiant i dorri fyny diwrnodau gwaith hir yn ystod yr wythnos gwaith. Dw i hefyd yn gwneud ‘cymudo rhithwir’ weithiau wedi’i ysbrydoli gan gydweithiwr a wnaeth ‘daith gerdded ffug’. Rwyf hefyd wedi taflu fy hun i mewn i amryw o heriau beicio (o fewn fy ngallu), gan gynnwys Reid y Ddraig Macmillan gyda chyn-gydweithiwr ar ôl y pandemig, a oedd yn llawer o hwyl wrth godi bron £30,000 hyd yma ar gyfer Pancreatic Cancer UK er cof am fy fam (www.justgiving.com/team/purplesuzie / www.justgiving.com/movemberformum).

Ers y pandemig, dw i’n beicio i’r gwaith o leiaf unwaith yr wythnos a hefyd yn beicio i’r ysgol gyda fy merch. Yn fy amser hamdden rwy’n cynnull y Grŵp Defnyddwyr Beiciau (BUG) yn Llywodraeth Cymru, sy’n gysylltiedig â Cycling UK ac yn gwirfoddoli i Gyngor Chwaraeon y Gwasanaeth Sifil (CSSC), gan hyrwyddo beicio yng Nghymru. Mae cynlluniau rhagorol ar waith sy’n cefnogi ac yn hyrwyddo beicio i’r gwaith, fel cynllun Cyflogwr sy’n Hyrwyddo Beicio Cycling UK  a’r Siarteri Teithio Iach mewn rhai ardaloedd yng Nghymru.

Mae’r her Love to Ride ym mis Medi, sy’n blatfform newid ymddygiad, yn offeryn defnyddiol arall i annog beicio a ffordd hwyliog o drefnu timau a chynyddu cyfranogiad. Ond dyw beicio ddim yn rhywbeth i’w wneud ym mis Medi yn unig. Gyda’r cit a’r addasiadau cywir, mae dal yn bosib mwynhau beicio i’r gwaith yn ddiogel trwy fisoedd y gaeaf.

Pob hwyl,

Alex

Read this page in English.

Gadael ymateb

Discover more from Llywodraeth Cymru

Subscribe now to keep reading and get access to the full archive.

Continue reading