Nadolig Llawen! Mae hi’r adeg honno o’r flwyddyn eto – mae’r Prif Weinidog yn wynebu’r dasg anodd o ddewis ei gerdyn Nadolig swyddogol. Mae’r gystadleuaeth eleni yn arbennig iawn, oherwydd dyma’r cerdyn olaf gan ein Prif Weinidog presennol, Mark Drakeford…
Mae’r mis Beicio i’r Gwaith wedi dod i ben, ond dyw beicio i’r gwaith ddim yn rhywbeth i’w wneud ym mis Medi neu’r haf yn unig. Yma yn y Llywodraeth mae gennym nifer o fentrau i annog beicio i’r gwaith, gan gynnwys y cynllun Beicio i’r Gwaith sy’n helpu staff i brynu beic drwy gynllun aberthu cyflog.
Mae un o’n cydweithwyr, Alex, yn gyfarwydd â theithio i’r swyddfa ar ddwy olwyn ac yn gwneud hyn drwy gydol y flwyddyn. Er i’r pandemig arwain at fwy o weithio hybrid yn Llywodraeth Cymru, mae Alex wedi dod o hyd i ffyrdd o gwmpas hyn drwy sefydlu “cymudo rhithwir” ei hun. Mae’n rhannu gyda ni pam ei fod mor angerddol am hyn a beth mae o’n gwneud i oroesi’r gaeaf…
Ers 10 mlynedd bellach rydym wedi bod yn dathlu’r diwrnod ar y 15fed o Hydref. Beth bynnag dy sgiliau dechreua bob sgwrs gyda Shwmae neu Su’mae syml, i ddangos fod y Gymraeg yn perthyn i ni i gyd. Sut wyt ti am ddathlu eleni?
Rydym mor falch o’n rhwydwaith PRISM ac o fod yn gyflogwr cynhwysol. I nodi Diwrnod Dathlu Deurywioldeb, rydym wedi croesi Bethan o’n rhwydwaith Staff LHDTRh+ arobryn i ysgrifennu blog i ni.
Yn ddiweddar, cefais y cyfle anhygoel i fynychu Pride Cymru, dathliad bywiog o gariad, derbyniad a chydraddoldeb. Fel aelod balch o PRISM, rhwydwaith gweithwyr LHDTC+ Llywodraeth Cymru, cefais yr anrhydedd o orymdeithio gyda fy nghydweithwyr am y tro cyntaf erioed. Cyn hynny, dim ond mewn ysgolion cynradd ac uwchradd roeddwn i wedi gweithio, a chan nad yw ysgolion yn cymryd rhan mewn gorymdeithiau Pride, roedd hwn yn brofiad newydd sbon i mi.
Mae CyberUK yn cael ei gynnal yr wythnos hon, sef digwyddiad seiberddiogelwch blaenllaw y DU a gynhaliwyd gennym ni yma yng Nghymru y llynedd. Mae gan Gymru amryw o gryfderau mewn perthynas â seiber, ac un ohonynt yw ein cysylltiadau a’n clystyrau agos sy’n annog amrywiaeth ar draws y sector.
Fe wnaethom wahodd Clare Johnson, o Glwstwr Seiber Menywod yng Nghymru, i ysgrifennu blog am amrywiaeth yn y sector seiber.
Dros y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi bod yn tynnu sylw at y gorau o Gymru ar draws Canada! Wrth i flwyddyn Cymru yng Nghanada ddod i ben rydym yn edrych yn ôl ar y cyfan rydym wedi’i gyflawni dros y flwyddyn ddiwethaf!
Rydym wedi cyflawni dros 70 o weithgareddau ar draws saith talaith o amgylch Canada, gan godi proffil Cymru ar draws yr Iwerydd ac ennyn diddordeb miliynau o bobl ar hyd y daith. Rydym wedi ysbrydoli, addysgu a chreu cyfleoedd newydd i Gymru a Chanada gydweithio.
Dyma rai o’n huchafbwyntiau:
Rydym wedi cynnal gweithgareddau sy’n tynnu sylw at y celfyddydau a diwylliant, masnach a buddsoddiad, gwyddoniaeth ac ymchwil, y byd academaidd, twristiaeth, diplomyddiaeth chwaraeon a’n hymrwymiad ar y cyd i gynaliadwyedd a dyfodol gwyrddach.
Heddiw croesawodd @PrifWeinidog Uchel Gomisiynydd Canada yn y DU, @RalphGoodale ar ei ymweliad swyddogol cyntaf â Chymru.
Cafodd y cysylltiadau economaidd, diwylliannol ac economaidd rhwng ein gwledydd sy’n mynd o nerth i nerth eu trafod 🏴 🇨🇦 pic.twitter.com/ge1u396OKu
— Llywodraeth Cymru Rhyngwladol 🏴 (@cymrudrosybyd) December 3, 2021
Lansiwyd gennym gyfres podlediadau SoftPowerCymru sy’n archwilio pŵer chwaraeon o ran meithrin cysylltiadau rhwng gwledydd, gwnaethom groesawu busnesau lleol, gwleidyddion a chysylltiadau eraill yng ngêm Rygbi Menywod Cymru yn erbyn Canada yn Halifax, Nova Scotia a gwnaethom gefnogi partïon gwylio gemau Cwpan y Byd gyda Chymry alltud yn Vancouver, Calgary, Toronto, Ottawa a Halifax.
Gwnaethom gludo dros 2,000 o ymwelwyr i Gymru drwy ddyfais realiti rhithwir yn ein digwyddiad ‘Doors Open Ottawa’, dathlu a hyrwyddo Cerddoriaeth o Gymru yn y Breakout West Festival, M for Montreal a chefnogi taith Côr Cymry Gogledd America yn Alberta, a chyflwyno’r ffilm ‘Donna’ yn Capital Pride.
Rydyn ni’n edrych ymlaen at y flwyddyn i ddod, codi proffil Cymru ar draws yr Iwerydd a chreu cyfleoedd newydd i gydweithio (1/6) pic.twitter.com/Wd1nSANOFL
— Llywodraeth Cymru Rhyngwladol 🏴 (@cymrudrosybyd) January 28, 2022
Yr hyn rydym wedi’i ddysgu eleni yw fod gan ein dwy wlad fwy yn gyffredin nag a ragwelwyd. Yn ystod blwyddyn Cymru yng Nghanada rydym wedi datblygu ac atgyfnerthu ein perthynas gyda Chanada ac wedi creu gwaddol a fydd yn parhau am flynyddoedd i ddod.
Mae hi bellach yn amser i drosglwyddo’r awenau i Cymru yn Ffrainc 2023. Edrychwch ar eu tudalen ar Twitter i wybod mwy.
Os oes gennych ddiddordeb mewn clywed mwy neu gyfrannu at atgyfnerthu’r cysylltiadau rhwng Cymru a Chanada anfonwch e-bost at WalesinCanada@gov.wales.
I nodi Wythnos Wyddoniaeth Prydain, mae Prif Gynghorydd Gwyddonol newydd Cymru, yr Athro Jas Pal Badyal FRS, yn nodi ei weledigaeth i Gymru fod yn genedl wyddoniaeth o’r radd flaenaf sy’n meithrin gwyddonwyr y dyfodol.
Merched tu allan ar ôl sesiwn iechyd rhywiol. Credyd: Teams4U Uganda.
A hithau’n Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, hoffem rannu gyda chi’r gwaith mae Hwb Cymru Affrica wedi bod yn ei wneud i rymuso menywod yn Uganda a Lesotho. Fel cenedl sy’n gyfrifol yn fyd-eang, rydym yn falch o gefnogi’r rhaglen rymuso rhywedd hon a rhannu ein gweledigaeth ar gyfer cydraddoldeb rhyw ledled y byd.
Dyma Beth Kidd, Uwch Reolwr Cymorth Datblygu yn Hwb Cymru Affrica, yn esbonio fwy…