Neidio i'r prif gynnwy

Gorymdaith ogoneddus a disglair yn arddangos amrywiaeth a chadernid

Yn ddiweddar, cefais y cyfle anhygoel i fynychu Pride Cymru, dathliad bywiog o gariad, derbyniad a chydraddoldeb. Fel aelod balch o PRISM, rhwydwaith gweithwyr LHDTC+ Llywodraeth Cymru, cefais yr anrhydedd o orymdeithio gyda fy nghydweithwyr am y tro cyntaf erioed. Cyn hynny, dim ond mewn ysgolion cynradd ac uwchradd roeddwn i wedi gweithio, a chan nad yw ysgolion yn cymryd rhan mewn gorymdeithiau Pride, roedd hwn yn brofiad newydd sbon i mi.

Roedd hi’n ddiwrnod heulog, poeth, llwyfan gwych ar gyfer profiad bythgofiadwy yn llawn chwerthin, cyfeillgarwch, ac ymdeimlad pwerus o falchder. Wrth i’r diwrnod gychwyn, daeth strydoedd Caerdydd yn fyw gyda thon eang o liw, cerddoriaeth, ac egni llawen. Roedd yr orymdaith yn arddangos amrywiaeth a chadernid y gymuned LHDTC+. Yn ein dillad enfys a gyda chwibanau, ymunodd fy nghydweithwyr o PRISM a minnau â’r parêd, gan gynrychioli Llywodraeth Cymru gyda balchder. Gyda’n caneuon balch yn atseinio o’n seinyddion cludadwy, roedd yr awyrgylch yn un o ddathlu pur. Cawsom bopeth o Gloria Gaynor i Diana Ross, a Cascada i Kylie Minogue a llawer mwy.

Hefyd yn ymuno a mi, oedd Catrin a Kieran, dau ffrind a wahoddais. Profiad arbennig o gofiadwy yn ystod yr orymdaith oedd fy ffrind Kieran a minnau yn dal baner fawr yn cynrychioli PRISM. Doedd hynny ddim yn dasg hawdd – yn aml deuai hyrddiad o wynt a fyddai’n bygwth cipio’r faner o’n gafael. Felly, yn llawn brwdfrydedd, roeddwn i’n atgoffa Kieran pe bai am droi ei adenydd yn gynnau, byddai angen iddo ddal y faner yn uwch i bawb ei gweld. Roedd Kieran yn bendant eisiau i’r tir fy llyncu ar y pryd, ond mae safonau’n bwysig ac rwy’n falch ei fod wedi dyfalbarhau.

Fodd bynnag, y tu ôl i’r enfysau a’r rialtwch – mae’n bwysig cydnabod pam ein bod ni yno yn y lle cyntaf. Efallai y bydd rhai pobl yn meddwl tybed pam mae aelodau LHDTC+ yn dal i deimlo’r angen i orymdeithio ar hyd y strydoedd. Wedi’r cyfan, nid yw bod yn hoyw wedi bod yn drosedd yn y DU ers 56 mlynedd ac mae pobl draws wedi gallu newid eu rhywedd cyfreithiol yn y DU ers 2005. Ond nid yw hynny’n golygu nad yw LHDTC+ yn wynebu unrhyw fath o wahaniaethu. Yn ôl adroddiad Stonewall Cymru yn 2017, mae bron i un o bob pedwar person LHDT (23%) wedi profi trosedd neu ddigwyddiad casineb.

Ar ben hynny, mae bron yn annirnadwy meddwl bod rhai pobl LHDTC+ yng Nghymru wedi cael cynnig neu wedi cymryd rhan mewn arferion trosi. Hefyd, ym mis Mai 2023, mae yna 70 o wledydd lle mae cyfunrhywiaeth yn anghyfreithlon, gyda bron eu hanner yn Affrica.

Er bod hyn i gyd yn swnio’n drymaidd, dyna’r union reswm pam rydyn ni’n gorymdeithio’r strydoedd gyda’r fath angerdd. Mae gorymdeithiau balchder bob amser wedi bod yn ddangosiad o’n hawliau ac yn fusnes difrifol, er nad ydyn ni’n gwrthdaro â’r heddlu – ddim bellach beth bynnag. Ond, mae sefyll ochr yn ochr ag unigolion LHDTC+ a’n cynghreiriaid yn ein hatgoffa ni i gyd, er nad ydyn ni wedi cyrraedd pen daith, bod ein cynnydd dros y blynyddoedd yn rhywbeth i’w ddathlu. Mae cenedlaethau o’n blaenau wedi brwydro i ni gael grym a chydraddoldeb, ac mae’n hanfodol nad yw hynny byth yn cael ei ddatod. Felly er ein bod yn gweiddi ar draws y strydoedd i godi llais dros fyd lle nad oes ffiniau i gariad, mae hefyd yn dipyn o barti.

Sean Walker – Aelod PRISM

Read this page in English.

Gadael ymateb