Neidio i'r prif gynnwy

Diwrnod Dathlu Deurywioldeb Hapus!

Rydym mor falch o’n rhwydwaith PRISM ac o fod yn gyflogwr cynhwysol. I nodi Diwrnod Dathlu Deurywioldeb, rydym wedi croesi Bethan o’n rhwydwaith Staff LHDTRh+ arobryn i ysgrifennu blog i ni.

Helo! Bethan ydw i – ymunais â Llywodraeth Cymru ym mis Mai eleni, ar secondiad o Wasanaeth Masnachol y Goron Llywodraeth y DU, ac rwy’n hynod falch o fod yma.

Fel y gallech ddisgwyl, o ystyried bod fy rôl ym maes Cyfathrebu, mae gwelededd yn bwysig iawn i mi – rwy’n gweithio i sicrhau bod negeseuon Llywodraeth Cymru yn cael eu cyfathrebu’n glir ac yn cael eu clywed yn llawn, ym mhob man y mae angen iddyn nhw fod. Ac efallai y bydd y rheiny ohonoch sy’n gweithio o swyddfa CP2 wedi sylwi fy mod i’n eithaf amlwg fy hun, o ystyried fy nghariad at liwiau llachar (yn enwedig coch llachar) a gwahanol gyfwisgoedd anghyffredin.

Yr hyn sydd ddim mor amlwg efallai, os nad ydych chi’n fy adnabod i’n dda, yw fy mod i’n ddeurywiol.

Dyw’r ffaith fod hyn ddim yn amlwg ddim yn anarferol – mewn gwirionedd mae’n fater sy’n cael ei gydnabod ac yn gyfarwydd mewn cylchoedd deurywiol, lle cyfeirir ato fel arfer fel ‘dileu deurywioldeb’ (‘bi erasure’). Mewn geiriau eraill, mae pobl ddeurywiol a phanrywiol * (gweler y diffiniadau isod) yn aml yn cael eu hanwybyddu, eu hanghofio neu eu bychanu mewn trafodaethau am faterion cwiar, er bod mwy ohonon ni fwy nag unrhyw hunaniaeth arall o dan yr ymbarél LHDTC+ yn ôl pob tebyg. Efallai nad yw hynny’n syndod, o gofio, os ydyn ni mewn perthynas gymysg o ran rhywedd, ein bod yn aml yn ‘ymddangos yn syth’ i bobl o’r tu allan – ond os ydyn ni mewn perthynas o’r un rhyw, rydyn ni’n ‘ymddangos yn hoyw’. Gair i gall: pa bynnag berthynas rydyn ni’n digwydd bod ynddi (hyd yn oed os nad ydyn ni mewn perthynas o gwbl) rydyn ni’n dal i fod yn ddeurywiol! Dim tîm pêl-droed yw hwn – pan mae’n dod i’r bobl rydyn ni’n cael ein denu atyn nhw ac yn ffurfio perthynas â nhw, rydyn ni’n dewis person, nid ochr.

Mae’r Diwrnod Dathlu Deurywioldeb yn cael ei gynnal ledled y byd bob blwyddyn ar 23 Medi. Mae’n gyfle i atgoffa’r byd ein bod ni’n bodoli – ynghyd â dangos beth yw beth o ran y stereoteipiau sy’n tueddu i godi pan nad ydych chi mor weladwy ag y gall rhai grwpiau eraill fod. Er enghraifft: na, dydyn ni ddim ‘yn gyfrinachol yn hoyw’/’dim ond yn gwneud hyn am ei fod yn ffasiynol’/’yn ddryslyd’/ac ati…

Eleni, ar y pumed ar hugain Diwrnod Dathlu Deurywioldeb blynyddol, rwy’n falch iawn o fod yn Hyrwyddwr Deurywioldeb newydd y Rhwydwaith PRISM.

Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at adeiladu ar yr holl waith gwych y mae eraill wedi’i wneud – bydd hyn yn cynnwys parhau â’n Grŵp Cymorth Deurywiol+ ar gyfer holl aelodau staff Llywodraeth Cymru sy’n nodi eu bod yn unrhyw le o dan yr ‘ymbarél deurywiol’. Mae’n lle synhwyrol a diogel i gwrdd â’ch cydweithwyr deurywiol+, waeth a ydych chi’n teimlo y gallwch fod ‘allan’ yn y gwaith ai peidio.

Gan fy mod i ar secondiad gan Lywodraeth y DU, rydw i hefyd yn parhau i gynnal sesiynau cymdeithasu ar gyfer holl weision sifil LHDTC+ yng Nghymru ar hyn o bryd – ac mae hynny’n cynnwys staff Llywodraeth Cymru – yn fy rôl barhaus fel Cynrychiolydd Cymru ar Rwydwaith LHDTC+ Gwasanaeth Sifil y DU.

Mae ein sesiwn gymdeithasu nesaf yng Nghaerdydd ar 28 Medi, felly waeth a ydych chi’n uniaethu fel LHDTC+ neu fel cynghreiriad, cysylltwch â ni drwy e-bostio PRISM@llyw.cymru os ydych chi’n meddwl yr hoffech chi ymuno â ni!

Mae Stonewall yn diffinio Deurywioldeb (Bi) fel term ymbarél a ddefnyddir i ddisgrifio cyfeiriadedd rhamantus a/neu rywiol tuag at fwy nag un rhywedd. Gall pobl ddeurywiol ddisgrifio eu hunain gan ddefnyddio un neu fwy o blith amrywiaeth eang o dermau, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, deurywiol, pan, cwiar, a rhai hunaniaethau nad ydyn nhw’n unrhywiol ac nad ydyn nhw’n monoramantaidd arall. Mae Pan yn cyfeirio at berson nad yw ei atyniad rhamantus a/neu rywiol tuag at eraill wedi’i gyfyngu gan ryw neu rywedd.

Read this page in English.

Gadael ymateb