
Ers 10 mlynedd bellach rydym wedi bod yn dathlu’r diwrnod ar y 15fed o Hydref. Beth bynnag dy sgiliau dechreua bob sgwrs gyda Shwmae neu Su’mae syml, i ddangos fod y Gymraeg yn perthyn i ni i gyd. Sut wyt ti am ddathlu eleni?
Mae Mentrau Iaith Cymru ar hyd a lled a Cymru wedi trefnu digwyddiadau i ddathlu’r diwrnod eleni. Dyma rai gweithgareddau mae’r Mentrau Iaith yn eu cynnal: https://mentrauiaith.cymru/diwrnod-shwmae-sumae-dathlur-10/
Dilyna #ShwmaeSumae23 ar y cyfryngau cymdeithasol am ragor o wybodaeth.
Hefyd rho gynnig ar ddefnyddio dy sgiliau yn y caffi, yn y swyddfa, yn y siop neu yn y dafarn. Clicia ar y ddolen ‘Say it in Cymraeg in the…’ ar y dde am restr o eirfa syml i ddefnyddio yn y llefydd yma.
Beth am ddefnyddio heddiw i addunedu i wneud rhagor o ddefnydd o’r Gymraeg yn y gwaith? Ein nod yw dod yn sefydliad dwyieithog, lle gall pawb ddefnyddio’u sgiliau Cymraeg o ddydd i ddydd.
Oes cyfleoedd yn eich sefydliad i ddefnyddio’r Gymraeg? Yn y Llywodraeth mae ganddyn ni Rhwydwaith Cymraeg sydd â’i sianel Teams ei hun – lle i rannu gwybodaeth, arfer dda ac ymarfer dy sgiliau mewn awyrgylch gyfeillgar ac anffurfiol.
Defnyddio’r Gymraeg yn y gwaith yw un o’r ffyrdd mwyaf arwyddocaol i gynyddu dy hyder yn yr iaith.
Cymraeg, rho gynnig arni!
Hysbysiad: Happy Shwmae Su’mae Day 2023! | Welsh Government