
I nodi Wythnos Wyddoniaeth Prydain, mae Prif Gynghorydd Gwyddonol newydd Cymru, yr Athro Jas Pal Badyal FRS, yn nodi ei weledigaeth i Gymru fod yn genedl wyddoniaeth o’r radd flaenaf sy’n meithrin gwyddonwyr y dyfodol.
Yr wythnos hon, rydym yn nodi Wythnos Gwyddoniaeth Prydain 2023, dathliad 10 diwrnod o wyddoniaeth. Rydym yn codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd gwyddoniaeth a’i heffaith ar ein bywydau bob dydd, gan arddangos pob math o wyddoniaeth, technoleg, peirianneg, a mathemateg (STEM), ac ennyn diddordeb pobl drwygweithgareddau, digwyddiadau, a thrafodaethau ymarferol.
Mae prinder gwyddonwyr a pheirianwyr yn y DU. Mae cwmnïau’n crefu am sgiliau STEM ar bob lefel. Mae Wythnos Wyddoniaeth Prydain yn cynnig cyfle gwych i ni ysbrydoli pobl o bob oed a chefndir i ymgysylltu â gwyddoniaeth ac annog pobl ifanc i ystyried gyrfa ym maes STEM.
Felly, pam gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, neu fathemateg? Mae ‘na gyfleoedd hynod gyffrous sy’n talu’n dda ar gyfer pobl ifanc ym maes STEM. Mae hyn yn gofyn am astudio gwyddoniaeth yn yr ysgol, ac yna symud ymlaen i brentisiaeth neu gwrs prifysgol. Mae annog pobl ifanc o gefndir incwm is i ennill cymwysterau mewn gwyddoniaeth yn un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol i annog symudedd cymdeithasol, hunan-ffyniant, a lles cymunedol.
Mae gweithio mewn gwyddoniaeth yn cynnig cyfle i deithio dramor, dysgu am ddiwylliannau eraill a chydweithio â gwyddonwyr ledled y byd. Mae ymchwil wyddonol yn ymdrech ryngwladol, a’r unig ffordd effeithiol o fynd i’r afael â heriau byd-eang sy’n bwysig i lawer o bobl ifanc – tlodi, newid hinsawdd, ynni cynaliadwy, diogelwch bwyd, gofal iechyd, a cholli bioamrywiaeth.
Fel Athro Cemeg ym Mhrifysgol Durham ac Chymrawd y Gymdeithas Frenhinol, rwyf wedi gweithio ym maes y gwyddorau arwyneb a nanotechnoleg. Mae dylunio arwynebau yn sail i ddiwydiant byd-eang sydd werth biliynau o ddoleri. Er enghraifft, glendid ffonau clyfar, ymwrthedd dyfeisiau biofeddygol i facteria, cyflymder disgiau caled cyfrifiadurol, a hyd yn oed padiau brêc ar geir – mae pob un yn cael eu llywodraethu gan eu cemeg arwyneb.
Mae’r grŵp ymchwil rwy’n ei arwain yn canolbwyntio ar ddyfeisio arwynebau newydd masnachol a helpu i liniaru tlodi mewn gwledydd incwm isel. Mae hyn wedi cynnwys datblygu atebion i ddarparu dŵr yfed glân, cynaeafu dŵr, a chynnig gofal iechyd rhad. Mae tri chwmni newydd wedi’u sefydlu i fasnacheiddio ymchwil patent o fy labordy.
Cefais fy ysbrydoli i ddod i Gymru oherwydd rwy’n credu, fel gwlad fach, fod gennym botensial enfawr i arwain y byd o ran datblygu technolegau cynaliadwy er lles yr holl ddynolryw.
Yn fy rôl fel Prif Gynghorydd Gwyddonol newydd Cymru, fy nod yw sicrhau’r gorau o’r cyfraniad mae gwyddoniaeth yn ei wneud i fywydau’r bobl yng Nghymru trwy roi arweiniad arbenigol wrth ddatblygu polisi gwyddoniaeth ac ymchwil. Rwyf am gefnogi prifysgolion Cymru i fod o fudd i’n cymdeithas a thu hwnt, fel rydw i wedi gwneud gyda fy ymchwil fy hun.
Fel pennaeth y proffesiwn gwyddoniaeth yng Nghymru, mae gen i rôl allweddol hefyd o ran hyrwyddo rôl cyngor gwyddoniaeth o ansawdd uchel i Weinidogion Cymru wrth iddynt ddatblygu a chyflawni polisïau sy’n dod â ffyniant a lles i’n cymunedau.
Mae Cymru’n wynebu ystod amrywiol o heriau amgylcheddol, economaidd, cymdeithasol ac iechyd nad ydynt yn unigryw i Gymru; maent yn aml yn fyd-eang. Bydd yr heriau hyn yn galw am ragor o gydweithredu rhwng gwledydd a sectorau (gan gynnwys y llywodraeth, y byd academaidd, trydydd sector, busnes a diwydiant) ac mae gan Gymru gyfraniad pwysig i’w wneud. Rhaid i gydweithio fod yn effeithiol – gan rannu’r risg a rhannu’r llwyddiant hefyd.
Ni all unrhyw wlad, sector, sefydliad, na chwmni wneud popeth. Felly, fel sy’n wir am bob gwlad arall, rhaid i Gymru benderfynu sut i dargedu ei hadnoddau a’i hymdrech am yr effaith fwyaf cadarnhaol, i’r trigolion (ein pobl ein hanifeiliaid a’n planhigion) a’r gymuned fyd-eang ehangach. Mae Strategaeth Arloesi y Llywodraeth Cymru, a lansiwyd yn ddiweddar, yn ceisio mynd i’r afael â’r holl agweddau hyn.
Bydd angen penderfyniadau – a bydd llawer o’r rhain yn cynnwys dewisiadau anodd rhwng opsiynau a gofynion sy’n cystadlu. Mae penderfyniadau da yn gofyn am ddealltwriaeth gadarn a thystiolaeth o’r dirwedd ymchwil, datblygu, ac arloesedd, yng Nghymru a chyd-destun ehangach y system fyd-eang y mae Cymru wedi’i gwreiddio ynddi.
Bydd yr heriau’n ymwneud â chyfleoedd Cymru i gael effaith gadarnhaol ac i atgyfnerthu ein safle fel partner dibynadwy a gwerthfawr. Mae gwaith diweddar gan Elsevier yn dangos dawn Cymru am gydweithio, ac mae’r cydweithrediad hwn yn wedi esgor ar enwebiadau am ymchwil gwyddonol o bedwar ban byd.
I lwyddo, rhaid inni sicrhau bod ymchwil wyddonol sylfaenol yn troi’n atebion sy’n gwneud gwahaniaeth yn y byd go iawn. Rhaid canolbwyntio ar yrru datblygiad darganfyddiadau newydd i fyny’r lefelau parodrwydd technoleg (TRLs), fel bod manteision darganfyddiadau o’r fath yn cael eu gwireddu i bawb.
Er mwyn helpu i gyflawni pum blaenoriaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Ymchwil, Datblygu ac Arloesi (RD&I), a osodwyd gan y Prif Weinidog yn 2021, rwyf wedi gosod pedair blaenoriaeth a fydd yn tanio’r uchelgais i Gymru fod yn wirioneddol flaenllaw yn y byd mewn gwyddoniaeth ac arloesi:
- Meithrin gwyddonwyr yfory drwy gyfoethogi STEM drwy roi cyfle i bob plentyn gymryd rhan mewn gweithgareddau STEM.
- Cryfhau’r sylfeini ar gyfer rhagoriaeth mewn ymchwil STEM yng Nghymru
- Denu a chadw gwyddonwyr sy’n arwain y byd
- Annog cyfleoedd mewn cydweithredu effeithiol mewn gwyddoniaeth gymhwysol i roi’r sgiliau angenrheidiol i wyddonwyr o Gymru, er mwyn dod yn dechnolegol barod mewn ymchwil, datblygu, ac arloesi.
- Mae gan wyddoniaeth rôl ganolog i’w chwarae er lles pawb mewn cymdeithas os am gyflawni’r heriau hyn yn llwyddiannus.
Mae gan wyddoniaeth rôl ganolog i’w chwarae er lles pawb mewn cymdeithas os am gyflawni’r heriau hyn yn llwyddiannus.
Mae ein Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol unigryw yn parhau i gael cydnabyddiaeth a chlod rhyngwladol. Mae gan wyddoniaeth gyfraniad gwirioneddol, a allweddol, o ran gwireddu dyheadau’r Ddeddf nodedig hon, nid dim ond yng Nghymru ond er budd y gymuned fyd-eang ehangach.
Edrychaf ymlaen yn fawr at weithio gyda chydweithwyr ar draws y llywodraeth, busnes, diwydiant, ysgolion, a’r byd academaidd i gyflawni ein huchelgeisiau.
Yr Athro Jas Pal Badyal FRS
Prif Gynghorydd Gwyddonol Cymru