
A hithau’n Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, hoffem rannu gyda chi’r gwaith mae Hwb Cymru Affrica wedi bod yn ei wneud i rymuso menywod yn Uganda a Lesotho. Fel cenedl sy’n gyfrifol yn fyd-eang, rydym yn falch o gefnogi’r rhaglen rymuso rhywedd hon a rhannu ein gweledigaeth ar gyfer cydraddoldeb rhyw ledled y byd.
Dyma Beth Kidd, Uwch Reolwr Cymorth Datblygu yn Hwb Cymru Affrica, yn esbonio fwy…
Partneriaeth a ffurfiwyd yn 2015 yw Hwb Cymru Affrica sy’n gweithio ar draws cymdeithas sifil. Mae’n dod ag elusennau, unigolion a sefydliadau ynghyd i gefnogi Cymru sy’n gyfrifol yn fyd-eang gan gydweithredu â phobl Affrica. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf rydyn ni wedi cynnal rhaglen Grymuso Rhywedd sy’n canolbwyntio ar ehangu’r partneriaethau rhwng Cymru ac Affrica. Rydym wedi cefnogi nifer fach o brosiectau yn Uganda a Lesotho trwy raglen grant.
Yn Uganda, mae Maint Cymru wedi bod yn gweithio gyda thri sefydliad sy’n bartneriaid — Menter Tyfu Coed Mount Elgon, Masaka and District Landcare Chapter, a Sefydliad Trawsnewid Rhyngwladol Kenya – i gynyddu cydraddoldeb rhwng y rhywiau yn ardaloedd Mbale a Masaka yng nghyd-destun y newid yn yr hinsawdd a rheoli adnoddau naturiol. Mae’r prosiect hwn wedi cefnogi menywod gwledig gyda hyfforddiant, rhwydweithio a mynediad at adnoddau wedi’u teilwra i hyrwyddo cyfranogiad a chryfhau bywoliaethau. Trwy integreiddio rhywedd i weithgareddau sy’n gysylltiedig ag amaethyddiaeth, mae wedi galluogi menywod i weithredu ar eu liwt eu hunain i greu newid.

Mae Bees for Development a Sefydliad Cenedlaethol Uganda ar gyfer Datblygu Cadw Gwenyn hefyd wedi bod yn gweithio yn i gynyddu grym economaidd menywod trwy gadw gwenyn. Mae’r prosiect wedi meithrin 100 o fenywod a’u teuluoedd i ddechrau cadw gwenyn yn ardal Adjumani gan herio’r normau rhyw mewn cadw gwenyn yn y cymunedau targed a chyfrannu at leihau tlodi a hybu cydraddoldeb rhwng y rhywiau. Mae’r prosiect hefyd yn ysgogi, hyfforddi, ac ardystio 10 o fenywod i ddod yn Feistri Gwenynfa ac yn cynyddu nifer y menywod mewn arweinyddiaeth dechnegol a pholisi o fewn y sector. Bydd yr arweinwyr hyn yn fodelau rôl i fenywod eraill.
Mae Teams4U a’u sefydliad partner, Teams4U Uganda, yn cefnogi merched bregus i fynd ‘nôl i addysg trwy ailadeiladu rhwydweithiau cymorth cryf gan gymheiriaid yn y gymuned. Maent yn taclo materion iechyd atgenhedlu, tabŵs a normau ac arferion niweidiol a wnaed yn waeth gan y pandemig coronafeirws. Mae’r prosiect yn hyfforddi athrawon mewn 20 o ysgolion yn ardaloedd Bukedea, Kumi a Katakwi i gynnal cefnogaeth rhwng cyfoedion trwy glybiau ieuenctid. Mae hefyd wedi cynnal grwpiau trafod gyda rhieni i annog agweddau ac ymddygiadau mwy cefnogol tuag at ferched glasoed. Mae padiau misglwyf y gellir eu hailddefnyddio yn cael eu cynhyrchu’n lleol a’u dosbarthu i ddisgyblion oedran mislif.

Yn Lesotho, mae Dolen Cymru a Nairasha Legal Support wedi gweithio i gryfhau’r gallu i orfodi’r gyfraith i ymateb i drais ar sail rhyw mewn pedair ardal, ac i wella’r modd y cyflwynir gwasanaethau i ddioddefwyr a goroeswyr. Drwy lunio llawlyfrau sylfaenol a chyflwyno cyfres o sesiynau hyfforddi, mae’r prosiect hwn wedi gwella sgiliau’r heddlu i ymateb yn well i achosion o drais ar sail rhyw ac wedi galluogi arweinwyr cymunedol i ddwyn yr heddlu i gyfrif.
Mae’r rhaglen grantiau hon wedi bod yn hanfodol i godi ymwybyddiaeth dynion – a menywod – am hawliau merched a chydraddoldeb yn Uganda a Lesotho. Trwy ennyn parch cynyddol eu cymheiriaid gwrywaidd, mae menywod wedi gallu cael cymorth a gwasanaethau oedd ddim ar gael iddynt o’r blaen. Mae hyn yn arbennig o bwysig o ran hawliau tir, gan fod llawer o’r prosiectau’n gweithio mewn cymunedau patriarchaidd lle nad oes gan fenywod fynediad at dir sy’n hanfodol i gael yr adnoddau a’r gweithgareddau sy’n creu incwm.
Mae’r rhaglen Grymuso Rhywedd hefyd wedi bod yn ganolog i ddangos sut mae Cymru yn gweithredu fel cenedl sy’n gyfrifol yn fyd-eang ac yn cyflawni ei hymrwymiadau o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru).
Beth Kidd,
Uwch Reolwr Cymorth Datblygu yn Hwb Cymru Affrica
