Neidio i'r prif gynnwy

Dydd Gŵyl Dewi Hapus gan y Prif Weinidog

Dydd Gŵyl Dewi hapus i chi. Gobeithio cewch chi ddiwrnod da ble bynnag yr ydych chi eleni.

Mae heddiw yn gyfle i ni ddod at ein gilydd a dathlu ein Cymreictod. Cyfle i ddangos i’r byd pwy ydym ni a beth sy’n bwysig i ni.

Mae Cymru yn gartref i fusnesau byd-eang, syniadau rhagorol a llond gwlad o garedigrwydd. Mae gennym fynyddoedd epig, arfordir dramatig a dinasoedd byrlymus.

Fel cenedl, rydym yn ymfalchïo yn ein gwerthoedd blaengar ac agored. Ein cymunedau clos, ein hymdeimlad cryf o gyfiawnder a thegwch i bawb. Ac ein huchelgais i fod y wlad fwyaf cyfeillgar yn Ewrop i bobl LHDTC+. Rydym hefyd yn Genedl o Noddfa, sy’n rhoi croeso cynnes i bobl sy’n ffoi rhag rhyfel ac yn ceisio lle diogel i fyw.

Rydym yn arwain y byd o ran cynaliadwyedd, wrth symud tuag at Gymru Sero Net. Rydym gyda’r gorau yn y byd am ailgylchu; ac yn prysur blannu Coedwig Genedlaethol ar draws ein gwlad gyfan. Y newid hinsawdd yw her ein cyfnod – i bawb ar y blaned. Ond mae hefyd yn gyfle i greu economi gref a chyfiawn i gymdeithas.

Yng Nghymru, gall busnesau, pobl greadigol ac arloeswyr lwyddo. Mae ein tir a’n mor yn ein helpu i gynhyrchu bwyd a diod arbennig o dda, i’w rannu gyda’n ffrindiau, teulu ac ymwelwyr. O gytiau gwerthu bwyd unigryw i fwytai moethus a’u sêr Michelin.

Mae gennym hanes hir, diwylliant bywiog ac unigryw, ac iaith i’w thrysori – Cymraeg. Rydym yn falch o’n dwyieithrwydd, yn anelu am darged o filiwn o siaradwyr ac eisiau dyblu’r defnydd dyddiol o’r iaith erbyn 2050.

Dros y misoedd diwethaf, llwyddodd tim pêl-droed dynion Cymru i gyrraedd Cwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958. Ni, gyda phoblogaeth o ychydig dros 3 miliwn, oedd y wlad leiaf i gyrraedd y rowndiau terfynol. Mae lle gennym hefyd yn rowndiau terfynol cwpan hoci dynion y byd; cwpan pel-rwyd y byd, cwpan rygbi… Mae Cymru’n wlad o chwaraeon ac o ganu, ond llawer mwy na hynny hefyd.

Rydym yn genedl sy’n arloesol, yn gynhwysol a, yn fwy na dim, yn garedig. Ble bynnag y byddwch ar ddydd Gŵyl Dewi, – mwynhewch!

Mark Drakeford,

Prif Weinidog Cymru

Read this page in English.

Gadael ymateb