
Nadolig Llawen! Mae hi’r adeg honno o’r flwyddyn eto – mae’r Prif Weinidog yn wynebu’r dasg anodd o ddewis ei gerdyn Nadolig swyddogol. Mae’r gystadleuaeth eleni yn arbennig iawn, oherwydd dyma’r cerdyn olaf gan ein Prif Weinidog presennol, Mark Drakeford…
Bob Nadolig, dw i’n anfon miloedd o gardiau at bobl yng Nghymru ac ar draws y byd – gan gynnwys at arweinwyr byd! Felly, mae’n rhaid i’r cerdyn hwn fod yn arbennig.
Felly, bob blwyddyn, dw i’n gofyn i bobl ifanc Cymru ddylunio’r cerdyn. Rydyn ni’n lansio cystadleuaeth bob mis Rhagfyr ac yn gofyn i ddisgyblion ysgol anfon yr hyn y byddan nhw wedi’i ddylunio ataf i, fel arfer yn seiliedig ar thema arbennig. Mae athrawon wedi dweud wrtha i fod y plant wir yn mwynhau ac wrth eu boddau o gael y cyfrifoldeb o greu dyluniad a fydd yn mynd i gartrefi ledled y byd.
Thema’r gystadleuaeth eleni oedd ‘Dymuniadau’r Nadolig’, ac roedd yn agored i blant oed cynradd sy’n mynd i ysgolion arbennig yng Nghymru. Taliesin o Ysgol Llannon wnaeth ennill y gystadleuaeth y llynedd, o dan y thema ‘Nadolig Gwyrdd‘, a lansiwyd yn dilyn Uwchgynhadledd COP26. Yn 2021, wrth inni groesawu miloedd o bobl i Gymru o Wcráin, y thema oedd ‘Croeso Nadoligaidd’. Y flwyddyn honno, Harry o Ysgol Gatholig y Santes Fair yn Llanelli wnaeth ennill.
Mae bob amser yn anodd dewis un enillydd oherwydd dw i’n derbyn cannoedd o gynigion ac maen nhw i gyd yn wych. Ar ôl ystyried yn ofalus, dewisais gerdyn Kai Lloyd, sy’n 10 oed, o Ysgol Tŷ Coch ym Mhontypridd. Gwnaeth dyluniad Kai wir ddal fy llygad i. Roedd ei gerdyn yn fendigedig ac yn greadigol, ac yn dangos llawer o bobl hapus o amgylch coeden Nadolig liwgar iawn. Eglurodd ei fod yn dangos ei hoff beth am y Nadolig, sef treulio amser gyda’i deulu. Dw i’n gwybod y bydd y cerdyn hwn yn dod â gwên i wynebau pawb fydd yn ei agor.
Roedd athrawes Kai, Rachael Rogers, a’r prifathro, Simon Wilson, o Ysgol Tŷ Coch mor falch ohono. Dywedon nhw ei fod wedi gweithio’n galed gan ddangos sgiliau creadigol go iawn wrth feddwl am beth oedd y Nadolig yn ei olygu iddo. Mae ei waith yn enghraifft o’r creadigrwydd a’r uchelgais sydd i’w gweld mewn ysgolion ar hyd a lled y wlad.
Diolch i’r holl blant a gymerodd ran yn y gystadleuaeth cardiau Nadolig eleni – yr un olaf i mi fel Prif Weinidog. Diolch yn fawr iawn i’r holl blant sydd wedi dylunio cardiau i mi dros y pum mlynedd diwethaf.
Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chi i gyd!
Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru