Neidio i'r prif gynnwy

Mis Hanes LHDTC+ 2024 Hapus!

Rydym yn falch o’n grŵp PRISM yma yn Llywodraeth Cymru, sy’n rhwydwaith staff arobryn ar gyfer pobl LHDTC+. I ddathlu Mis Hanes LHDT 2024, gofynnon ni i un o’n haelodau, Phil, rannu ei feddyliau gyda ni ar sut mae’r gweithle wedi newid i bobl LHDTC+ dros y blynyddoedd…

Wrth i mi eistedd ‘ma ac yn myfyrio dros pedwar deg mlynedd fy ngyrfa, mae’n fy nharo faint sydd wedi newid ym myd pobl LHDT+ yn y gweithle.

Dw i wedi colli fy ngwallt (a rhaid fy mod wedi colli rhai ohono fe yn y gwaith…), dyn ni wedi cael hawliau cyflogaeth mewn gwaith, dyn ni wedi cael partneriaeth sifil a phriodas cyfartal – popwch y cyrc! Gadewch i’r partïon ddechrau!!

Pan ddechreuais fy ngyrfa nol yn y 80au, doedd dim amddiffyniad yn y gyfraith i bobl LHDT+ mewn perthynas cael eich diswyddo achos cyfeiriadedd rhywiol.  Mae’n anodd o gredu’r ffaith nawr ond roedd hi’n bosib llwyr i rywun ddweud wrthoch: “does dim dyfodol i ti yn y sefydliad hwn achos dych chi ddim yn gallu cadw’n dawel am eich cyfeiriadedd rhywiol felly bydd hi’n well ichi ffeindio rhywle arall i weithio”.  Dyna beth ges i fy nweud gair am air pan symudais yn ôl i Gaerdydd yn gyntaf yn ôl ym 1989 yn gweithio i sefydliad mawr ac yn flaengar.

Felly gwnaeth y pwysigrwydd o rwydweithiau staff ddod yn glir; roedden i’n brwydro am hawliau sylfaenol.

Nawr, mae pethe wedi newid.  Mae gennym hawliau.  Ar y cyfan, dyw pobl ddim yn gallu cael gwared arnoch chi ar sail eich cyfeiriadedd rhywiol neu dybiaethau am eich cyfeiriadedd rhywiol yn bellach, felly pam mae angen cael rhwydweithiau staff o hyd…?

Wel, mae dal angen cydgefnogaeth arnom.  Mae gwaith yn gwneud mwy synnwyr pan ti’n gallu rhannu syniadau a straeon â phobl sydd yn fwy tebyg ichi.  Mae rhai pobl yn camddeall beth sy’n addas ac yn dderbyniol i ddweud ac i wneud yn y gweithle felly mae’n bwysig i fod rhan o rywbeth yn fwy.

Hefyd – mae cymdeithasu.  Diolch byth am gymdeithasu.  Yr amseron lle dach chi’n gallu ymlacio, rhannu profiadau, rhoi nerth i’ch gilydd ac yn y blaen.  Mae bywyd gwaith yn gallu bod yn heriol – am yr amseroedd hynny, diolch byth am rwydweithiau staff!

Ers imi fod yn Llywodraeth Cymru, mae PRISM wedi rhoi llawer o gyfleoedd imi gwrdd â phobl, cynrychioli staff y Gwasanaeth Sifil ac yn teimlo fel rhan o rywbeth “mwy”.

Phil,

Aelod Rhwydwaith PRISM Llywodraeth Cymru

Dysgwch mwy am ein rhwydweithiau staff ac am weithio i Lywodraeth Cymru.

Read this page in English.

Gadael ymateb

Discover more from Llywodraeth Cymru

Subscribe now to keep reading and get access to the full archive.

Continue reading