
Ar ôl pum mlynedd fel Prif Weinidog Cymru, mae’n bryd i ni ffarwelio â Mark Drakeford.
Bu ganddo sawl swydd o fewn Llywodraeth Cymru dros y blynyddoedd. Bu’n Gynghorydd Arbennig i’r cyn Brif Weinidog, Rhodri Morgan, yn Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn 2013, Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yn 2016, ac yn olaf, Prif Weinidog Cymru yn 2018.
Cawsom un cyfweliad olaf gydag ef.
Diolch i chi, Brif Weinidog, am gymryd yr amser i wneud un cyfweliad olaf gyda ni. Yn gyntaf, beth fyddwch chi’n ei golli fwyaf am fod yn Brif Weinidog?
Rwy’n credu mai’r peth y byddaf yn ei golli fwyaf yw’r cyfleoedd gwych i mi gwrdd â phobl. Mae pob diwrnod yn wahanol, ac mae pob diwrnod fel arfer yn gyfle i ddysgu rhywbeth newydd gan rywun sy’n gwneud rhywbeth hynod, mewn gwahanol rannau o Gymru. Rwy’n siŵr y byddaf yn dal i gwrdd â phobl ar ôl bod yn Brif Weinidog, ond byddaf yn colli’r cyfleoedd y mae wedi dod â mi fel hynny.
Beth ydych chi fwyaf balch o’i gyflawni yn ystod eich cyfnod fel Prif Weinidog?
Mae’n anodd nodi un peth yn unig, a dydw i ddim yn awyddus i edrych yn ôl – mae’n well gen i edrych ymlaen. Ond yr hyn yr wyf wedi ceisio ei wneud fel Prif Weinidog yw defnyddio’r cyfle hwnnw i wneud y pethau anodd; y pethau heriol. Nid dim ond gorffwys ar fy rhwyfau a gwneud y pethau sy’n gyfforddus, ond gwneud penderfyniadau heriol, weithiau yn y fan a’r lle. Dyna‘r pethau a fydd â buddion hirdymor ac a fydd yn talu ar eu canfed ym mywydau’r bobl. Y pethau fydd yn cael effaith y tu hwnt i fy amser i fel Prif Weinidog.
Rydych chi wedi cwrdd â chymaint o bobl o bob rhan o’r byd – pwy yw’r person mwyaf enwog rydych chi wedi’i gyfarfod?
Rwyf wedi cyfarfod â phob math o bobl enwog iawn o bob cefndir, o bobl fel Gareth Bale yn y byd chwaraeon i’r diweddar Frenhines yn gynnar yn fy nghyfnod fel Prif Weinidog, a Hilary a Bill Clinton pan ddaethant i ymweld hefyd. Mae yna lawer o bobl, ar hyd a lled Cymru, rydw i wedi cael y fraint o’u cyfarfod, ac yn eu ffordd eu hunain, mae pob un ohonyn nhw’n sefyll allan.
Mae wedi bod yn bum mlynedd anodd, a dweud y lleiaf. Beth yw’r her fwyaf a wynebwyd gennych?
Heb os, yr her fwyaf oedd Coronafeirws; roedd angen gwneud penderfyniadau ychwanegol a oedd yn cyffwrdd â bywyd pob person ar adeg pan oedd ofn gwirioneddol ein bod yn byw gyda chlefyd, heb unrhyw frechiad na gwellhad. Doeddem ni ddim yn gwybod pa mor beryglus oedd. Fy nod oedd ceisio gwneud yn siŵr ein bod bob amser yn dod â chymaint o bobl o amgylch y bwrdd â phosibl, ac yn deall, y gorau gallem, effaith ein penderfyniadau ar fywydau pobl, ac yna’n gwneud popeth y gallem , yn gwneud ein gorau glas, i gadw pobl Cymru yn ddiogel ar yr adeg fwyaf peryglus yn eu bywydau.
Os gallwch chi ddewis un, beth yw eich moment mwyaf cofiadwy?
Rwyf wedi cael llawer, llawer o eiliadau cofiadwy, fel y gallwch ddychmygu. Mae rhai ohonyn nhw’n drist iawn. Rwyf wedi mynychu angladdau, ond hefyd wedi cael rhai achlysuron gwych, fel Cwpan y Byd a dathliadau chwaraeon. Rwyf wedi meddwl tipyn am hyn, ac un achlysur sy’n byw’n bwerus iawn yn fy meddwl yw’r adeg pan gefais wahoddiad i Aberfan i nodi’r digwyddiadau erchyll yno. Cefais fy nghyflwyno i ddau athro sydd yn eu hwythdegau bellach, ond oedd yn eu hugeiniau ar y diwrnod ofnadwy hwnnw pan lithrodd y mynydd i lawr a llyncu’r ysgol gan gipio cymaint o fywydau. Ac yn y foment honno, yn y cyfarfod hwnnw â’r bobl hynny a oedd wedi bod yno eu hunain, mewn rhywbeth sydd wedi gadael ei farc ar y ffordd yr ydym yn meddwl am ein treftadaeth ddiwydiannol, roeddwn yn wir yn teimlo bod hanes Cymru yn atseinio dros y oesoedd.
Nid oes amheuaeth nad yw bod yn Brif Weinidog yn rôl sy’n cymryd llawer o amser. Sut byddwch chi’n treulio’ch amser nawr?
Wel, rydw i’n mynd i fod yn Aelod o’r Senedd dros Orllewin Caerdydd, ac mae honno’n swydd amser llawn. Rwy’n edrych ymlaen at allu gwneud mwy yn fy milltir sgwâr fy hun. Mae fy etholwyr yng Ngorllewin Caerdydd wedi gorfod rhoi lan gyda fi fel Prif Weinidog, y Gweinidog Iechyd, y Gweinidog Llywodraeth Leol ac yn y blaen. Nawr byddaf yn gallu neilltuo mwy o amser i’r rhan honno o fy ngwaith. Dwi hefyd yn gobeithio y bydd gen i fwy o amser i wneud pethau syml fel jyst bod allan yn yr awyr iach. Rwyf wedi treulio llawer o fy amser fel Prif Weinidog yn gweithio tu mewn, gan syllu drwy’r ffenest tra bo pobl eraill allan yn mwynhau eu hunain yn yr heulwen. Felly rwy’n gobeithio cael ychydig mwy o hynny.
Felly ydy hynny’n golygu mwy o arddio hefyd?
Yn bendant mwy o arddio, gwylio criced, mynd am dro a treulio mwy o amser gyda fy nheulu. Mae yna lawer o bethau rydw i’n edrych ymlaen at eu gwneud.
Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i Brif Weinidog Cymru yn y dyfodol?
Wel, fy nghyngor i yw bod yn feiddgar, i fachu ar y cyfle sydd gennych chi, i wneud y pethau rydych chi’n meddwl sydd bwysicaf. Oherwydd y ffordd y mae’r llywodraeth yn gweithio, rydych bob amser yn gallu manteisio ar gyngor rhagofalus; cyngor sy’n dweud wrthych am beidio â mynd mor bell ag yr hoffech fynd neu beidio â mynd mor gyflym ag yr hoffech fynd. Eich swydd chi fel arweinydd gwleidyddol yw rhoi rhywfaint o wrthbwysau yn y system honno, a bod yn uchelgeisiol, bod yn egnïol, bod yn benderfynol a bod yn feiddgar.
A oes gennych unrhyw neges ffarwel ar gyfer pobl Cymru?
Fy neges i bobl yng Nghymru yw i fod hyderus. Cael hyder yn y bobl yr ydym; yn y lle yr ydym. Mae datganoli wedi rhoi’r cyfle i ni fod yn gyfrifol am gymaint o’n tynged ein hunain. Ond mae gan ddyfodol Cymru gymaint o bosibiliadau pwysig. Rhaid gwneud yn siŵr bod ein hiaith yn ffynnu; ein bod yn defnyddio’r adnoddau naturiol sydd gennym i ymladd newid hinsawdd, i greu swyddi mewn rhannau o Gymru lle mae swyddi wedi bod yn brin. Gall fod yn hawdd cael eich dychryn mewn byd sy’n llawn heriau. Ond fy neges i bobl Cymru, yw bod yn hyderus yn eich gallu eich hun a’ch gallu eich hun i lunio’r dyfodol hwnnw.
Mae fy nghyfnod fel Prif Weinidog, dros y pum mlynedd diwethaf, bellach wedi dod i ben. Mae wedi bod yn gyfnod heriol, o ystyried y digwyddiadau rydym wedi’u hwynebu. Ond hoffwn ddiolch i’r holl bobl Cymru am eu cyfraniadau rhyfeddol i’n gwlad – nhw sydd wedi creu’r genedl sydd gennym heddiw.
Os oes gen i un neges ar gyfer pobl Cymru, hoffwn i ni fod yn ymwybodol o’n cryfderau; y pethau rhyfeddol y gallwn ni eu gwneud, yn y wlad ryfeddol rydyn ni’n byw ynddi. Gyda’n gilydd, rydym bob amser yn gryfach, i lunio’r dyfodol llwyddiannus yr ydym ei eisiau i’n holl ddinasyddion ni, yma yn ein gwlad ein hunain..
Diolch o galon i chi gyd,
Mark
Hysbysiad: Saying goodbye to our First Minister, Mark Drakeford | Welsh Government