Neidio i'r prif gynnwy

Rhaid inni wneud rhagor i sicrhau bod casineb yn hen hanes

Yn ystod Mis Hanes LHDTC+, rydyn ni’n myfyrio ar ba mor bell rydyn ni wedi dod yn yr ymdrech dros hawliau LHDTC+ ac rydyn ni’n dathlu bywydau’r gweithredwyr a’r cynghreiriaid LHDTC+ a ddaeth o’n blaenau ni.

Rydyn ni’n gwybod na allwn ni laesu dwylo. Yn anffodus, rydyn ni’n byw mewn oes lle y gall deimlo fel ein bod mewn perygl o golli ein hawliau. Fel pobl LHDTC+, rydyn ni i gyd, yn rhy aml, yn parhau i wynebu gwahaniaethu ac aflonyddu.

Rhaid inni ddysgu gwersi a chynyddu ein hymdrechion tuag at ragor o gydraddoldeb.

Yng Nghymru, rydyn ni’n sefyll o blaid undod yn hytrach nag ymraniad, cynhwysiant yn hytrach nag allgáu a gobaith yn hytrach na chasineb. Mae pawb yn haeddu teimlo’n ddiogel i fod yn nhw eu hunain, yn rhydd rhag ofn a gwahaniaethu.

Rwyf am weld Cymru lle nad oes angen i bobl fel minnau feddwl a yw’n ddiogel dal dwylo gyda’n partner yn gyhoeddus; Cymru lle nad yw difrïo na sylwadau gwawdlyd – boed hynny ar-lein neu yn y stryd – yn beth cyffredin mwyach, a Chymru lle mae casineb yn hen hanes.

Ychydig dros ddeunaw mis yn ôl, cafodd y Dr Gary Jenkins ei lofruddio mewn ymosodiad homoffobig yng nghanol ein prifddinas. Mae’n cael ei gofio gan anwyliaid fel dyn caredig a hynod hael. Roedd ei farwolaeth yn atgof erchyll a thrasig o’r casineb mae ein cymunedau LHDTC+ yn parhau i’w wynebu.

Ddeugain mlynedd yn ôl, roedd pobl hoyw yn dioddef anfri ac ymosodiadau rhagfarnllyd. Heddiw, mae pobl draws yn destun llif tebyg o ymosodiadau wedi eu hysgogi gan gasineb. Mae ein cymunedau traws yn brifo, mae ofn arnyn nhw, ac maen nhw’n dioddef niwed. Fel cymdeithas, gallwn ni ac mae’n rhaid inni wneud yn well na hyn.

Mae eu brwydr, ynghyd â’r tristwch a’r anghyfiawnder mawr sy’n dal i gael eu teimlo yn dilyn marwolaeth y Dr Gary Jenkins, yn ein hatgoffa’n greulon fod gennym ffordd bell iawn i fynd yn yr ymgyrch dros gydraddoldeb o hyd.

Nid yw ymestyn hawliau i un grŵp yn golygu tynnu hawliau o un arall. Nid ydyn ni’n credu y bydd gwella hawliau i fenywod traws yn niweidio hawliau i fenywod a merched cisryweddol.

Rydyn ni’n sefyll gyda’n cymunedau LHDTC+ i gyd ac yn parhau i fod yn ymroddedig i gefnogi pobl draws ac anneuaidd. Yn ddi-os, ein man cychwyn yw bod dynion traws yn ddynion, bod menywod traws yn fenywod a bod hunaniaethau anneuaidd yn ddilys.

Yn anad dim, rydyn ni wedi nodi ein gweledigaeth a’n huchelgais ar gyfer Cymru yn glir. Drwy ein Cynllun Gweithredu LHDTC+, ein nod yw gwneud Cymru y genedl fwyaf cyfeillgar i bobl LHDTC+ yn Ewrop.

Wrth ei lansio, fe’i galwais yn gynllun â “gobaith yn ganolog iddo”. Dyma gynllun sy’n ceisio newid bywydau nid dim ond newid deddfwriaeth, a dyna pam mae’n ymestyn ar draws y Llywodraeth i sicrhau ei fod yn fwy na rhestr o ddymuniadau, ond yn hytrach yn gamau gweithredu mesuradwy a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.

Rydyn ni’n ymroddedig i sicrhau newid ystyrlon i gymunedau LHDTC+.

Mae’r cynllun hwn yn cryfhau amddiffyniadau i bobl LHDTC+, yn hyrwyddo cydraddoldeb i bawb, ac yn helpu i gydlynu camau gweithredu ar draws y Llywodraeth, cymunedau, a’r wlad.

Roedd cyhoeddi’r cynllun yn gam allweddol yn ein taith ond gadewch imi eich sicrhau bod ein gwaith i wella cydraddoldeb i bobl LHDTC+ eisoes wedi dechrau.

Rwy’n gobeithio, drwy lansio’r Cynllun Gweithredu LHDTC+ yn ystod Mis Hanes LHDTC+, ein bod hefyd yn talu teyrnged i’r gweithredwyr a’r cynghreiriaid, yr ymgyrchwyr, a’r rhai sy’n creu newid, y rhai sydd wedi byw drwy’r cyfan a’r rhai a gollodd eu bywydau yn llawer rhy gynnar.

Y deyrnged fwyaf y gallwn ei thalu i’r arloeswyr a fraenarodd y ffordd, yw parhau i siarad ar goedd, sefyll gyda’n gilydd a chwarae ein rhan ein hunain i sicrhau dyfodol tecach lle rydyn ni’n teimlo’n ddiogel, yn cael ein cefnogi a’n dathlu, gyda’n hawliau wedi eu sicrhau.

Hannah Blythyn, Y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol

Read this page in English.

Gadael ymateb