
Un o fy mlaenoriaethau fel y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yw creu ‘Cymru sy’n falch o’r mislif’. Yr wythnos hon, fe wnaethom lansio ein cynllun ‘Cymru sy’n Falch o’r Mislif’, sy’n ymwneud â newid y diwylliant o ran y mislif.
Ni ddylai neb deimlo cywilydd neu swildod am y mislif, ac ni ddylai neb fod o dan anfantais o’i herwydd. Ein gweledigaeth yw dileu tlodi mislif a rhoi diwedd ar bob stigma sy’n gysylltiedig ag ef.
Darllenwch fwy i ddysgu am ein prif nodau ar gyfer ‘Cymru sy’n Falch o’r Mislif’…
1. Bydd y mislif yn cael ei ddeall yn llawn, yn cael ei dderbyn, ac yn bwnc sgwrsio arferol.
- Bydd y stigma, y tabŵau a’r mythau sy’n bodoli yn cael eu herio drwy adnoddau addysgol. Bydd hyn yn arwain at Gymru lle nad oes neb yn teimlo cywilydd neu swildod am y mislif a gallant siarad yn agored ac yn hyderus amdano, p’un a ydynt yn cael mislif ai peidio.
- Bydd pawb yn deall eu mislif yn llwyr ac yn gwybod beth sy’n arferol iddynt.



2. Bydd nwyddau mislif ar gael i bawb, gan ddod â thlodi mislif i ben.
- Bydd mynediad hawdd, urddasol ac agored at gynnyrch diogel o ansawdd da ac o’u dewis, pryd a lle bo angen, gan helpu pobl i reoli eu mislif mewn preifatrwydd, gydag urddas ac mewn ffordd iach.
- Bydd nwyddau mislif am ddim yn parhau i fod ar gael ym mhob ysgol yng Nghymru ac ar draws ystod o leoliadau cymunedol gan gynnwys y canlynol, ymysg eraill: banciau bwyd, llyfrgelloedd, canolfannau hamdden, canolfannau i deuluoedd, hybiau cymunedol a gwasanaethau ieuenctid.
- Ni fydd neb yn gorfod colli’r ysgol, gwaith na chwaraeon oherwydd nad oes ganddynt fynediad at nwyddau mislif (gwyliwch ein fideo gyda Thîm Pêl-rwyd y Celtic Dragons isod).
3. Bydd dealltwriaeth o’r cylch mislif.
- Bydd dealltwriaeth o’r mislif yn ymestyn y tu hwnt i’r dyddiau o’r mis pan fydd unigolyn yn colli gwaed i gynnwys y cylch mislif cyfan, gan gydnabod bod menywod, merched a phobl sy’n cael mislif yn profi effeithiau ac anghenion sy’n gysylltiedig â’r cylch (corfforol a seicolegol) drwy gydol eu cylchoedd.
- Bydd menywod, merched a phobl sy’n cael mislif yn gwybod beth yw’r ffordd orau i reoli’r mislif er mwyn sicrhau nad yw’n cael effaith negyddol ar eu bywyd.
4. Bydd dealltwriaeth o’r menopos.
- Bydd effaith bosibl mislif a sut y gall newid yn ystod y perimenopos, y menopos ac o ganlyniad i faterion iechyd ehangach yn cael ei deall yn eang. Ymatebir i’r effaith hon yn ddiogel ac yn anfeirniadol o fewn lleoliadau addysg, cyflogaeth ac iechyd.
5. Gwasanaethau seiliedig ar iechyd.
- Bydd menywod, merched a phobl sy’n cael mislif yn teimlo y gallant gael mynediad at wasanaethau iechyd yn ymwneud â’u mislif a materion cysylltiedig, a byddant yn hyderus y bydd y gwasanaethau hyn yn sensitif ac yn cael eu llywio yn ôl rhyw a rhywedd.
- Byddant yn hyderus o ran ceisio cymorth a chyngor meddygol, os oes angen ac yn rhydd rhag unrhyw anghydraddoldebau iechyd wrth geisio cyngor neu gymorth meddygol.
- Caiff yr arfer hanesyddol o dderbyn yr hyn a allai fod yn symptomau sy’n peri pryder mewn perthynas â’r mislif ei herio.
6. Bydd ystod ehangach o nwyddau mislif yn cael eu defnyddio.
- Bydd cyfyngu ar effaith amgylcheddol negyddol llawer o nwyddau tafladwy.
- Bydd menywod, merched a phobl sy’n cael mislif yn deall y gwahanol fathau o nwyddau sydd ar gael, sut i’w defnyddio a sut i gael gwared arnynt yn gywir, ac yn gallu dewis y nwyddau mwyaf priodol ar eu cyfer eu hunain.
Jane Hutt, Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
