Neidio i'r prif gynnwy

Diwrnod ym Mywyd Prentis Llywodraeth Cymru

Erioed wedi meddwl sut brofiad yw gweithio i Lywodraeth Cymru? I ddathlu #WythnosPrentisiaethau, rydym wedi cyfweld ag un o’n prentisiaid er mwyn rhoi blas i chi o’i phrofiad hi…

Mae ein prentisiaethau yn amrywio ar draws sawl gwahanol gynllun, o ddigidol a thechnoleg, i gyllid a busnes. Maent wedi’u lleoli mewn llu o adrannau gwahanol ledled y Llywodraeth, gan roi’r cyfle i chi ddysgu wrth hyfforddi a datblygu eich sgiliau mewn gweithle sy’n wahanol i unrhyw un arall yng Nghymru.

Os hoffech ddysgu rhagor, cariwch ymlaen darllen! Ac os rydych yn gweld eich bod â diddordeb mewn ymgeisio, cliciwch yma i ganfod yr amrywiaeth o gynlluniau Prentis sydd ar gael eleni.


Helo Megan! Gallwch chi sôn ychydig wrthym amdanoch chi’ch hun, eich cefndir a beth eich denodd i ymgeisio am brentisiaeth yma?

Dwi’n 23 oed ac yn byw mewn pentref bychan yng ngorllewin Cymru o’r enw Pontrhydfendigaid.  Dwi’n mwynhau bywyd heini wrth redeg pan allaf a mynd â Pippin, fy dachshund bychan, am dro. Dwi’n ffodus iawn i fyw mewn ardal gyfoethog ei llwybrau cyhoeddus a golygfeydd godidog, gan gynnwys balchder y pentref – Abaty Ystrad Fflur. Ond mae fy niddordeb fwyaf oll yn cynnwys gadael adref yn gyfan gwbl. Yn 2022 llwyddais i ymweld â 5 wlad wahanol yn Ewrop gyda fy mhartner. Dwi wir yn angerddol dros ddysgu am ddiwylliant, hanes a threftadaeth – heb anghofio bwyta’r bwyd lleol!

Pan gwblheais y chweched, doedd gen i ddim syniad beth oeddwn am wneud felly ymlwybrais i’r byd manwerthu, gan ddilyn gyda chyfnod byr fel cynghorydd fferyllfa a chlerc presgripsiwn. Heb unrhyw weledigaeth glir o le roeddwn yn gweld fy ngyrfa yn mynd yn y meysydd yma, teimlais fod angen newid cyfeiriad. Roeddwn yn adnabod rhai pobl oedd yn gweithio yn Llywodraeth Cymru, ac roedd yr amrywiaeth o bethau mae Llywodraeth Cymru yn eu gwneud wedi bod o ddiddordeb i mi erioed. Pan ddywedon nhw fod y cynllun prentisiaeth ar y safle recriwtio, roeddwn yn gwybod bod rhaid imi ymgeisio.

Ym mhle ydych chi wedi’ch lleoli a beth ydych chi’n ei wneud?

Dwi wedi’n lleoli yn ein swyddfa yn Aberystwyth, ac er fy mod yn gweithio o adref yn bennaf dwi dal yn ceisio mynd i’r swyddfa o leiaf unwaith yr wythnos i gwrdd â phobl ac adeiladu fy rhwydwaith personol. Dwi’n gweithio ym Marchnata Busnesau, yn cynorthwyo’r tîm i ddenu busnesau i ddod i Gymru ac arddangos Cymru ar draws y byd fel y lle i ddod a chynnal busnes.

Mae llawer o’m hamser yn cael ei dreulio yn darparu cymorth i’m tîm. Gall hyn fod yn cynorthwyo cydweithwyr wrth gyfathrebu â rhanddeiliaid allanol, trefnu cyfarfodydd, paratoi a storio dogfennau. Dwi’n gweithio’n agos â’m rheolwr llinell, sef y Rheolwr Digwyddiadau Busnes i Fusnes. Rwy’n ei chynorthwyo gyda’i gwaith ar draws blaenoriaethau strategol i ddarparu rheolaeth lawn o ddigwyddiadau gan gynnwys adnabod, datblygu a darparu digwyddiadau sy’n hyrwyddo Cymru fel cyrchfan busnes. Dwi hefyd yn creu cynnwys ar gyfer cyfryngau cymdeithasol Masnach a Buddsoddi, megis ar Linkedin, Facebook, Twitter ac Instagram.

Sut ydych yn gweld eich siwrnai o fewn Llywodraeth Cymru hyd yn hyn?

Mae fy siwrnai hyd yn hyn wedi bod yn bositif iawn. Yn ystod fy wythnos gyntaf fe wnes i a’m rheolwr llinell fynychu digwyddiad yn Llundain, oedd yn gyffrous iawn.  Roeddwn wrth fy modd â’r hyblygrwydd oedd gennyf yr wythnos honno i gyflawni’r gwaith pwysig rydym yn ei wneud ochr yn ochr â gweithgareddau wythnos prentisiaethau. Dwi wedi cwrdd â phobl hyfryd, yn enwedig fy nhîm sydd wedi fy nghysuro tra’n fy helpu i ddeall byd Llywodraeth Cymru – sydd weithiau yn gallu fod yn gymysgedd heriol o derfynau diwedd y dydd, gyda thamaid o Gwestiynau Llafar ac Ysgrifenedig y Cynulliad.

Dwi’n gweld fod pawb yn gyfeillgar, ac am fy helpu i lwyddo – o ystyried fy mod wedi dod o gefndir manwerthu, roeddwn wedi synnu â hyn. Mae wedi rhoi ymdeimlad o sicrwydd i mi nad wyf wedi ei deimlo o’r blaen. Dwi wir yn edrych ymlaen at weithio gyda fy nhîm ac eraill ar draws y sefydliad wrth i mi ddatblygu trwy fy mhrentisiaeth.

Beth wnaeth eich ysbrydoli i fod yn brentis ac adeiladu ar eich datblygiad proffesiynol parhaus?

Dwi’n mwynhau gweithio a dysgu ar yr un pryd, dyna’r ffordd orau dwi’n ymgyfarwyddo fel arfer; mae gwneud peth ymchwil academaidd ar bwnc cyn ei ddechrau’n iawn, wedi fy helpu i ddeall y naws.

Cyn belled dwi wir wedi mwynhau’r elfen cyfryngau cymdeithasol sydd i’m rôl oherwydd mae wedi fy ngalluogi i ddefnyddio peth o’m sgiliau tu allan i’r gwaith, ac mae fy nhîm wedi ymateb yn bositif i fy awgrymiadau a ffyrdd o gynyddu ein presenoldeb ar-lein. Y maen nhw’n dweud fod pob diwrnod yn ddiwrnod ysgol, ac mae hynny bendant yn wir yn ystod prentisiaeth. Y mae wedi fy helpu i ddeall sut rydw i’n dysgu hefyd, doeddwn byth wedi meddwl yr oeddwn yn ddysgwr ymarferol ac wedi cymryd yn ganiataol y gallwn ddysgu popeth oedd angen drwy ddarllen mewn llyfr neu gyfnodolyn. Fodd bynnag, dwi wedi sylweddoli drwy ddilyn y cynllun prentisiaeth bod modd dysgu trwy fod yn ymarferol a’i wneud eich hun; sy’n cynnwys dysgu o’ch camgymeriadau ar hyd y ffordd!

Sut ydych chi’n gweld gwneud eich gwaith prentisiaeth ochr yn ochr â’ch rôl?

Dwi’n gweld fod dysgu wrth wneud y swydd bob dydd wedi mynd llaw yn llaw gan fod llawer o’r gwaith dwi’n ei wneud yn rhan o’r brentisiaeth.  O hynny, ar ôl cyflawni darn o waith, dwi’n gallu coladu ychydig yn rhagor o ddarnau tystiolaeth heb sylweddoli’n iawn. Mewn gwirionedd dwi wedi cyflawni tipyn o bethau yn fy modiwl prentisiaeth yn barod! Mae rhai adrannau o’m modiwlau lle mae angen imi chwilio am wybodaeth neu wneud ychydig o ymchwil, ond dwi’n mwynhau’r elfen hynny oherwydd dwi’n mwynhau darllen a deall pynciau mewn manylder.

Agwedd arall o’r prentisiaeth dwi’n ei fwynhau ydy mae’n rhoi’r cyfle imi stopio ac adolygu’r hyn rydwyf wedi’i gwneud a gweld sut mae fy ngwaith yn cyfrannu’n at waith ehangach Llywodraeth Cymru. Dwi erioed wedi gwneud hynny yn fy ngwaith lle rwy’n mynd yn ôl ac adolygu – y mae’n rhoi pethau mewn cyd-destun ac yn hwb i ddangos sut rydych yn cyfrannu at waith y sefydliad.

Beth sydd nesa’ i chi?

Dwi’n gobeithio parhau i ddysgu wrth imi ddatblygu drwy fy mhrentisiaeth gyda Llywodraeth Cymru – dwi’n dysgu rhywbeth newydd bob dydd. Mae yna ddigonedd o gyfleoedd ar gael o fewn y sefydliad, felly bydda i fyth yn brin o lwybrau newydd.  Ar ôl fy mhrentisiaeth dwi’n gobeithio aros gyda’r sefydliad, naill ai yn parhau gyda’m rôl gyffrous o fewn marchnata busnesau neu gan archwilio opsiynau eraill sydd ar gael ar draws y sefydliad. Dwi’n positif y bydd y sgiliau y mae Llywodraeth Cymru wedi fy nghynorthwyo i ddatblygu yn fy helpu yn y dyfodol gyda pha bynnag gyrfa dwi’n ei ddewis.

Read this page in English.

Mae Megan yn un o’n prentisiaid yma yn Llywodraeth Cymru.

1 sylwadau

  1. Hysbysiad: A Day in the Life of a Welsh Government Apprentice | Welsh Government

Gadael ymateb

Discover more from Llywodraeth Cymru

Subscribe now to keep reading and get access to the full archive.

Continue reading