Neidio i'r prif gynnwy

Saith cwestiwn am derfynau cyflymder diofyn 20mya newydd Cymru

Ni oedd y wlad gyntaf yn y DU i basio deddfwriaeth i ostwng y terfyn cyflymder cenedlaethol diofyn ar ffyrdd preswyl a strydoedd prysur i gerddwyr o 30mya i 20mya pan bleidleisiodd y Senedd o blaid hynny ym mis Gorffennaf eleni. Mae’r gwaith bellach yn mynd rhagddo i sicrhau bod Cymru’n barod am y newid yma, wrth i’r terfynau dechrau newid o fis Medi nesaf.

Dyma saith peth efallai na wyddoch am y terfyn cyflymder diofyn newydd o 20mya.  

1. Bydd y terfyn cyflymder diofyn yn gwella diogelwch?

Bydd, a mae’r dystiolaeth yn glir. Mae gostwng terfynau cyflymder yn lleihau gwrthdrawiadau ac yn achub bywydau. Mae gwaith ymchwil blaenorol wedi dangos bod 40% yn llai o wrthdrawiadau mewn ardaloedd 20mya, o’u cymharu ag ardaloedd 30mya. Yng Nghymru, drwy gyflwyno 20mya yn eang, amcangyfrifwyd y byddai 6 i10 o fywydau’n cael eu hachub a 1200 i2000 o anafusion yn cael eu hosgoi bob blwyddyn. Mae atal yr anafusion hyn yn werth rhwng £58m a £94m bob blwyddyn.

Yn ogystal â gwneud gwrthdrawiadau’n llai difrifol pan fyddant yn digwydd, mae’r cyflymder arafach hefyd yn cynyddu’r siawns o osgoi gwrthdrawiad yn y lle cyntaf. Yn ei dro, mae hynny’n lleihau’r baich ar y GIG. Gwell rhwystro’r clwy na’i wella!


2. Bydd y terfyn cyflymder diofyn yn gwella’r amgylchedd ac yn helpu i greu cymunedau mwy diogel?

Pa bynnag gar sydd gennych, mae angen mwy na dwywaith cymaint o ynni i gyrraedd 30mya, o’i gymharu â chyrraedd 20mya. Mewn gwirionedd, mae tystiolaeth yn awgrymu o ganlyniad i arddulliau gyrru llyfnach, lleihau brecio a chyflymu, gwell llif traffig, a gostyngiadau posibl o ran y defnydd o danwydd, mae 20mya yn cynhyrchu llai o lygredd aer na 30mya.

Mae pobl a holwyd yn dweud bod cyflymder traffig yn rhwystr rhag cerdded a beicio ar gyfer teithiau byr, felly drwy ostwng y terfyn cyflymder, rydym yn helpu i greu amgylchedd mwy diogel, tawelach, a mwy dymunol lle mae pobl yn teimlo’n fwy diogel wrth gerdded a beicio. Felly, mae’n lleihau llygredd aer ymhellach ac o fudd i iechyd pobl a’r economi leol. Bydd cymunedau Cymru’n datblygu i fod yn llefydd gwell i fyw ynddynt.

3. Ydy pobl yn cefnogi’r terfyn cyflymder?

Mae pobl sy’n byw mewn cymunedau lle mae 20mya eisoes yn y terfyn cyflymder diofyn yn gadarnhaol am y newid. Yn ôl tystiolaeth arolwg a gynhaliwyd ar ran Llywodraeth Cymru, roedd y mwyafrif o bobl yn cefnogi’r terfyn cyflymder is newydd – dywedodd bron i ddwy ran o dair o’r bobl a holwyd y bydden nhw’n cefnogi terfyn cyflymder o 20mya yn yr ardal maen nhw’n byw a 55% yn dweud y byddai ‘strydoedd yn llawer neisach i gerddwyr sydd â therfyn cyflymder o 20mya’. Dywedodd 62% o bobl hefyd eu bod eisiau i ‘yrwyr arafu ychydig ar ein ffyrdd’.



4. Bydd pobl yn dilyn y terfyn cyflymder?

Gosodwyd terfyn cyflymder o 30mya ar gyfer ardaloedd preswyl cyn yr Ail Ryfel Byd, pan oedd llawer llai o geir ar y ffyrdd, a gosodwyd terfynau cyflymder heb yr holl gyfoeth o waith ymchwil a data sydd gennym nawr. Mae gwaith ymchwil yn dangos bod y mwyafrif o yrwyr yn cadw at derfynau cyflymder ar strydoedd preswyl.

5. Ydy’r terfyn cyflymder yn gyffredinol?

Ar hyn o bryd, 30mya yw’r terfyn cyflymder diofyn ar gyfer strydoedd sydd â goleuadau stryd, ond mae amrywiadau i’r terfyn hwnnw wedi’u marcio gan arwyddion ar y ffordd. Yn yr un modd, o dan y ddeddfwriaeth newydd 20mya, gall cynghorau lleol ddefnyddio’u gwybodaeth leol i gadw terfyn o 30mya lle mae achos dros wneud hynny. Bydd y ffyrdd 30mya hyn yn cael eu marcio gan arwyddion yn yr un modd ag y defnyddir amrywiadau ar y terfyn cyflymder diofyn presennol.


6. Pwy arall sy’n gwneud hyn?

Mae manteision lleihau cyflymder yn cael eu cydnabod ledled y byd. Gwnaeth 120 o wledydd lofnodi Datganiad Stockholm ar Ddiogelwch Ffyrdd yn 2020 yn ddiweddar, gan gytuno y bydd lleihau’r terfyn cyflymder i 20mya yn gwella diogelwch ar y ffyrdd. Yn 2021, gosododd Sbaen derfynau cyflymder mewn strydoedd trefol i 30kmya (sy’n cyfateb i 20mya) ac erbyn hyn mae gan wledydd Ewropeaidd eraill derfynau 30kmya ar gyfer y rhan fwyaf o’u ffyrdd trefol/pentrefol. Yn nes at adref, mae ardaloedd fel canol Llundain, Gororau’r Alban, Swydd Gaerhirfryn a Swydd Gaer  wedi gwneud 20mya y terfyn cyflymder diofyn ar gyfer strydoedd preswyl.

7. Pryd bydd y terfyn cyflymder diofyn newydd yn dod i rym?  

Bydd y terfyn gyflymder diofyn newydd o 20mya yn dod i rym mis Medi 2023. Gellir dadlau mai hwn fydd y newid mwyaf i ffyrdd Cymru ers i wisgo gwregys diogelwch gael ei wneud yn orfodol yn 1983. Mae’n newid mawr, ond dros amser bydd fel gwisgo gwregys diogelwch, bydd addasu eich gyrru i’r terfyn cyflymder newydd yn dod yr un mor naturiol ag y mae gyrru ar gyflymder o 30mya nawr!  

Lee Waters, Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd

Oes gennych mwy o gwestiynau am y terfyn cyflymder 20mya? Darllenwch ein cwestiynau cyffredin yma.

Read this page in English.

Gadael ymateb

Discover more from Llywodraeth Cymru

Subscribe now to keep reading and get access to the full archive.

Continue reading