Neidio i'r prif gynnwy

Mae Hanes Pobl Dduon yn Hanes Cymru

Charlotte yn Adelaide, De Awstralia. Llun gan Naomi Jellicoe.

Charlotte Williams ydw i. Yn 2020 arweiniais ar waith addysgu hanes a chyfraniad Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn y cwricwlwm newydd. Yn 2022 roeddwn i’n hapus bod Llywodraeth Cymru yn gwneud hi’n orfodol i ddysgu’r safbwyntiau yma i bob ysgol yng Nghymru. 

Hoffwn fanteisio ar y cyfle i ateb ambell gwestiwn ar y mater holl bwysig hwn. 

Pam ydy hwn yn bwysig?

Allai ddim cofio derbyn un llyfr i astudio, un llyfr hanes, un nofel neu un llun mewn cylchgrawn a wnaeth adlewyrchu presenoldeb pobl fel fi yma yng Nghymru. Mae’n cael effaith mawr ar blant o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig gyda’u hunan-barch, eu hyder, eu diddordeb yn dysgu a’u cyrhaeddiad.

Pam fod hyn yn bwysig? 

Mae pobl yn gofyn hyn i mi yn aml. Mae fy holl addysg ers yn bump oed pan wnes i fynd i’r ysgol gynradd wedi bod yng Nghymru. Os ydw i’n meddwl yn ôl dros fy 15 mlynedd o addysg ffurfiol, allai ddim cofio derbyn unrhyw ddeunudd, boed hynny yn addysgol neu adloniant, a oedd yn adlewyrchu presenoldeb pobl fel fi yma yng Nghymru.  

Mae’n cael effaith mawr ar blant o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig gyda’u hunan-barch, eu hyder, eu diddordeb yn dysgu a’u cyrhaeddiad. Ond mae’n cael effaith enfawr ar bob plentyn yn yr ysgol. 

Chlywais i ddim byd am Gymru yn y byd, am y diwydiant llechi, y diwydiant glo, y diwydiannau haearn a’r diwydiannau gwlân, a sut wnaethon nhw gysylltu Cymru mewn llwybrau masnach ar draws y byd. Chlywais i ddim am genhadon a aeth â negeseuon i diroedd eraill yn dilyn llwybrau trefedigaethol nac am yr holl ymfudo sydd i deithio a frolio o Gymru sy’n gwneud Cymru y gymdeithas amlddiwylliannol gyfoethog mae o heddiw. 

Hanes Cymru yw hanes pobl dduon, a dyma dwi eisiau i bob plentyn mewn ysgol yng Nghymru gael y cyfle i archwilio. Addysg gyfoethog yw addysg sy’n ymgysylltu â’r safbwyntiau amrywiol hyn. 

Sut mae hyn o fudd i’n plant? 

Mae plant heddiw yn disgwyl llawer mwy nag oeddwn i. Mae ein plant yn disgwyl, ac yn haeddu, addysg ddiddorol ac eang sy’n eu paratoi’n dda ar gyfer y byd y maent yn byw ac yn gweithredu ynddo. Mae plant heddiw wedi’u cysylltu’n fyd-eang. Yn aml mae’n rhaid iddyn nhw wneud dyfarniadau cadarn a moesegol am wahaniaeth ac amrywiaeth. Mae angen iddyn nhw ddeall am y diwylliannau, ac mae angen iddyn nhw ddeall sut a pham y daeth Cymru yn genedl amrywiol ei bod hi. 

Mae ymchwil yn dweud wrthym fod plant sy’n agored i safbwyntiau mwy amrywiol yn dod yn fwy cynhwysol yn eu hagweddau. Felly mae addysg fel hyn yn cyfrannu at waredu Cymru o hiliaeth. Mae’r math hwn o wybodaeth yn rhoi hyder i blant ofyn cwestiynau, i fod yn chwilfrydig am wahanol ffyrdd o weld a gwybod eu byd.  

Ydy ein hathrawon yn barod i addysgu hyn? 

Mae athrawon yn paratoi ac yn codi i gyflymu, gan ymgysylltu â dysgu proffesiynol eu hunain er mwyn iddynt allu cyflawni hyn. 

Mae ysgolion yn edrych ar eu polisïau a’u harferion ac yn ymgysylltu â gweithredoedd gwrth-hiliol. Mae rhieni a gofalwyr hefyd yn cyfrannu eu gwybodaeth a’u profiad i drawsnewid a chyfoethogi’r cwricwlwm.  

Mae’n mynd i gymryd ymdrech gref i wireddu’r delfryd hwn a bod o fudd i bob plentyn a pherson ifanc ar draws ysgolion yng Nghymru.  

Yr Athro Charlotte Williams 

Cadeirydd Gweithgor Cymunedau, Cyfraniadau a Chynefin Pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn y Cwricwlwm Newydd 

Ymunwch â’r sgwrs gan ddefnyddio’r hashnod #CymruWrthHiliol.

Read this page in English.

Charlotte yn rhoi gwobr i athrowau yng Ngwobrau Addysgu Proffesiynol Cymru yng Nghaerdydd.

1 sylwadau

  1. Hysbysiad: Black History is Welsh History | Welsh Government

Gadael ymateb

Discover more from Llywodraeth Cymru

Subscribe now to keep reading and get access to the full archive.

Continue reading