Neidio i'r prif gynnwy

“Mae atal ac ymyrraeth gynnar mor hanfodol” – Diwrnod Iechyd Meddwl Y Byd

Heddiw yw Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd, sef diwrnod i gydnabod pwysigrwydd iechyd meddwl da a’r gwaith parhaus i amddiffyn a chefnogi iechyd meddwl pobl ledled y byd. Mae diwrnodau fel hyn yn gyfle i atgoffa ein hunain o werth bod yn fwy agored am iechyd meddwl a lles ein hunain ac eraill.

Er bod iechyd meddwl yn parhau’n her enfawr i’n gymdeithas, rydym wedi gweld  erydiad graddol, ond sylweddol, o’r stigma oedd arfer ei amgylchynu. Mae stigma ond yn gwaethygu gofid ac yn rhwystro pobl rhag gofyn am gymorth. Mae dileu stigma yn ein galluogi ni i fynd i’r afael ag achosion sylfaenol iechyd meddwl gwael yn haws.

Mae trafferthion iechyd meddwl yn aml yn dechrau yn ystod plentyndod. Dyna pam mae atal ac ymyrraeth gynnar mor hanfodol. Yng Nghymru, rydyn ni’n mynd ati i greu fframwaith ar sefydlu dull ysgol gyfan, system gyfan wrth edrych ar ôl iechyd meddwl a lles plant. Mae pobl ifanc wedi dweud wrthon ni nad ydyn nhw eisiau i ni feddygoli tyfu. Rydyn ni’n eu cefnogi i deimlo eu bod yn gallu siarad, gofalu am iechyd meddwl eu hunain a phobl eraill, a sut i ddod o hyd i help os oes angen.

Rydym newydd treblu cyllid ar gyfer llesiant staff fel rhan o ‘ddull ysgol gyfan’ o ymdrin ag iechyd meddwl. Darllenwch mwy yma.

Rydym yn gweithredu ein ‘dull ysgol gyfan’ o ran iechyd meddwl, gyda rhwydweithiau cymorth cydlynol i blant os oes ei angen arnynt, a’n fframwaith NEST/Nyth, yn dylunio gwasanaethau lleol gyda dull “dim drws anghywir” a chreu ‘nythod’ o oedolion dibynadwy o gwmpas ble mae plant yn treulio eu bywydau  – eu cartref, eu hysgol, eu clwb ieuenctid, eu clwb chwaraeon. Rydym wedi ymrwymo i’r egwyddor hon ac wedi mwy na dyblu gwariant ar gefnogaeth iechyd meddwl i mewn ac allan o ysgolion yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf yn unig, gyda’n buddsoddiad yn tyfu yn y blynyddoedd nesaf.

Rwy’n falch bod llawer mwy o bwyslais ar iechyd a lles yn ein cwricwlwm newydd nag erioed o’r blaen. Erbyn hyn mae dyletswydd gyfreithiol ar ysgolion i ystyried iechyd meddwl a lles emosiynol plant wrth benderfynu sut mae’r cwricwlwm yn cael ei ddysgu, a allai fod yn drawsnewidiol i lawer o bobl ifanc y mae eu cyflawniadau a’u cyfleoedd yn cael eu cyfyngu gan eu trafferthion meddyliol.

Mae CALL 24/7 yn ddarparu cymorth emosiynol pob dydd yr wythnos.

Bydd dysgwyr, ar yr adeg briodol ac yn y ffordd iawn, yn dysgu am iechyd meddwl a phryd, a sut, i ofyn am gymorth.   Bydd plant yn datblygu ymwybyddiaeth o sut maen nhw’n teimlo a strategaethau am ddelio ag emosiynau anodd neu ddryslyd.  Byddant mewn gwell sefyllfa gyda’r sgiliau a’r gwydnwch i’w helpu i oresgyn yr heriau niferus y bydd bywyd yn siŵr o daflu eu ffordd.

Bydd y camau hyn ynghyd, a’u cymryd ar y cyd fel cymdeithas, yn helpu i ddarparu lles gwell i’n pobl ifanc heddiw, ac yn y dyfodol.

Lynne Neagle, Y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant

Read this page in English.

Gadael ymateb

Discover more from Llywodraeth Cymru

Subscribe now to keep reading and get access to the full archive.

Continue reading