Neidio i'r prif gynnwy

Cymru yng Nghanada – Blwyddyn i’w Chofio

Dros y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi bod yn tynnu sylw at y gorau o Gymru ar draws Canada! Wrth i flwyddyn Cymru yng Nghanada ddod i ben rydym yn edrych yn ôl ar y cyfan rydym wedi’i gyflawni dros y flwyddyn ddiwethaf!

Rydym wedi cyflawni dros 70 o weithgareddau ar draws saith talaith o amgylch Canada, gan godi proffil Cymru ar draws yr Iwerydd ac ennyn diddordeb miliynau o bobl ar hyd y daith. Rydym wedi ysbrydoli, addysgu a chreu cyfleoedd newydd i Gymru a Chanada gydweithio.

Dyma rai o’n huchafbwyntiau:

Rydym wedi cynnal gweithgareddau sy’n tynnu sylw at y celfyddydau a diwylliant, masnach a buddsoddiad, gwyddoniaeth ac ymchwil, y byd academaidd, twristiaeth, diplomyddiaeth chwaraeon a’n hymrwymiad ar y cyd i gynaliadwyedd a dyfodol gwyrddach.

Gwnaethom fynychu a chynrychioli Cymru yn COP15 yn Montreal, lansio trydydd galwad ar y cyd Cymru-Quebec am gynigion, meithrin cysylltiadau newydd o ran llesiant a datblygu cynaliadwy trwy ymweliad Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol â Chanada a gwnaethom gynnal nifer o gyfarfodydd ar lefel uchel gyda’r llywodraeth. 

Lansiwyd gennym gyfres podlediadau SoftPowerCymru sy’n archwilio pŵer chwaraeon o ran meithrin cysylltiadau rhwng gwledydd, gwnaethom groesawu busnesau lleol, gwleidyddion a chysylltiadau eraill yng ngêm Rygbi Menywod Cymru yn erbyn Canada yn Halifax, Nova Scotia a gwnaethom gefnogi partïon gwylio gemau Cwpan y Byd gyda Chymry alltud yn Vancouver, Calgary, Toronto, Ottawa a Halifax.

Gwnaethom gludo dros 2,000 o ymwelwyr i Gymru drwy ddyfais realiti rhithwir yn ein digwyddiad ‘Doors Open Ottawa’, dathlu a hyrwyddo Cerddoriaeth o Gymru yn y Breakout West Festival, M for Montreal a chefnogi taith Côr Cymry Gogledd America yn Alberta, a chyflwyno’r ffilm ‘Donna’ yn Capital Pride.

…a llawer iawn mwy wrth gwrs!

Yr hyn rydym wedi’i ddysgu eleni yw fod gan ein dwy wlad fwy yn gyffredin nag a ragwelwyd. Yn ystod blwyddyn Cymru yng Nghanada rydym wedi datblygu ac atgyfnerthu ein perthynas gyda Chanada ac wedi creu gwaddol a fydd yn parhau am flynyddoedd i ddod.

Mae hi bellach yn amser i drosglwyddo’r awenau i Cymru yn Ffrainc 2023. Edrychwch ar eu tudalen ar Twitter i wybod mwy.  

Os oes gennych ddiddordeb mewn clywed mwy neu gyfrannu at atgyfnerthu’r cysylltiadau rhwng Cymru a Chanada anfonwch e-bost at WalesinCanada@gov.wales.

Read this page in English.

Gweithio mewn partneriaeth i Rymuso Menywod Uganda a Lesotho

A hithau’n Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, hoffem rannu gyda chi’r gwaith mae Hwb Cymru Affrica wedi bod yn ei wneud i rymuso menywod yn Uganda a Lesotho. Fel cenedl sy’n gyfrifol yn fyd-eang, rydym yn falch o gefnogi’r rhaglen rymuso rhywedd hon a rhannu ein gweledigaeth ar gyfer cydraddoldeb rhyw ledled y byd.

Dyma Beth Kidd, Uwch Reolwr Cymorth Datblygu yn Hwb Cymru Affrica, yn esbonio fwy…

Darllenwch mwy