Neidio i'r prif gynnwy

Dathlu blwyddyn o ymgyrch Cymru yn yr Almaen

Yn 2018, sefydlom ddwy swyddfa yn yr Almaen, un ym Merlin lle rwy’n gweithio gyda fy nghydweithiwr Martha, a’r llall yn Nusseldorf, o dan arweiniad Marc, cydweithiwr arall.

Rydym yn rhan o rwydwaith o 20 swyddfa ledled y byd sy’n gweithio i gyflawni nodau ein Strategaeth Ryngwladol, sef:

  • Codi proffil rhyngwladol Cymru
  • Cynyddu allforion a mewnfuddsoddiad
  • Arddangos Cymru yn wlad sy’n gyfrifol yn fyd-eang

Pam yr Almaen?

Mewn sawl ffordd, mae’r Almaen yn gymar pwysig i Gymru. Yn economaidd, mae’n gyson yn un o’r marchnadoedd allforio mwyaf ar gyfer nwyddau o Gymru, ac mae dros 100 o gwmnïau o’r Almaen wedi’u lleoli yng Nghymru hefyd, gan gyflogi dros 10,000 o bobl.

Ond mae’n fwy na busnes yn unig. Mae yna dros 11,000 o bobl o’r Almaen wedi ymgartrefu yng Nghymru, a gyda dros 26 o drefniadau gefeillio rhwng trefi a dinasoedd, rhai yn ddegawdau lawer o oed, mae ein cysylltiadau wedi’u hen sefydlu.

Cymru yn yr Almaen 2021

Fis Ionawr diwethaf, lansiwyd ein hymgyrch blwyddyn o hyd er mwyn arddangos y berthynas rhwng y ddwy wlad. Er gwaethaf y ffaith ein bod yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, llwyddom i ddangos ein bod wedi ymrwymo i’n perthynas gyda’n cymdogion agosaf.

Aethom ati i feithrin partneriaethau newydd. Wrth adlewyrchu’n ôl, rwy’n falch iawn o’r hyn yr ydym wedi’i gyflawni drwy gydweithio yn ystod blwyddyn a oedd yn anodd i bawb.

Drwy gydweithio â nifer o randdeiliaid amrywiol, rydym wedi tanio trafodaethau newydd. Er enghraifft, fe wnaeth Clwstwr ac MFG Baden-Württemberg sefydlu partneriaeth newydd er mwyn annog cydweithrediad rhwng ein diwydiannau creadigol. Canolbwyntiwyd ar lenyddiaeth Gymraeg gyfoes yn ystod seminar llenyddol blynyddol yr Almaen a gynhaliwyd gan y British Council gan gysylltu awduron gyda chyhoeddwyr, cyfieithwyr a newyddiadurwyr o’r Almaen a thu hwnt.

Mewn busnes, fe wnaethom gefnogi cwmnïau o Gymru gydag ymweliadau marchnad i’r Almaen, yn ogystal â chynrychioli Cymru mewn sioeau marchnad allweddol gan gynnwys Medica, SemiCon, Europa a Ffair Lyfrau Frankfurt.

Mae ein dull unigryw ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol wedi rhoi cyfle inni hefyd i feithrin cysylltiadau newydd, a gwelir diddordeb cynyddol o’r Almaen yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol wedi ymweld â Changhellfa’r Almaen ac fe wnaeth aelodau o’r Academi Arweinwyr Ifanc gymryd rhan yn uwchgynhadledd One Young World ym Munich yn yr haf, gan ymgysylltu â phobl ifanc eraill er mwyn mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.

Mae’r cysylltiadau pobl-i-bobl hyn wedi bod yn rhan bwysig o’r flwyddyn. Er gwaethaf y pandemig sydd wedi cyfyngu ar y gallu i deithio, rydym wedi cynnal digwyddiadau digidol er mwyn hybu cysylltiadau â ffrindiau Cymru yn yr Almaen. Mae’r rhain yn cynnwys cynnal noson rwydweithio gyda chyn-fyfyrwyr prifysgolion Cymru o’r Almaen, digwyddiad coginio ar ddydd Gŵyl Dewi ac yn ddiweddar, taith werdd drwy Gymru yn fyw o’r Ardd Fotaneg Genedlaethol.

Fe wnaeth Llysgennad blaenorol yr Almaen ar gyfer y DU, Ei Ardderchogrwydd Andreas Michaelis, ymweld â Chymru yn ogystal, yn gyntaf yn ddigidol ac yna’n bersonol yn ddiweddarach. Yn rhan o etifeddiaeth Cymru yn yr Almaen, bydd llysgenhadaeth yr Almaen yn cynnal ei ffair yrfaoedd flynyddol yng Nghaerdydd – y tro cyntaf i’r digwyddiad hwn gael ei gynnal tu allan i Lundain.

Mae’n anodd crynhoi blwyddyn o weithgareddau i un blog, felly yn sicr, mae yna gysylltiadau eraill rwyf wedi’u hanghofio, ond nid ydynt yn llai pwysig. Rwy’n edrych ymlaen at weld y cydweithrediadau hyn yn datblygu, yn ogystal â chreu cyfleodd newydd er mwyn galluogi pobl Cymru i ymgysylltu’n rhyngwladol.

Beth nesaf?

Mae fy nghyfnod yn yr Almaen yn dirwyn i ben ac rwy’n dychwelyd i fyw gartref. Mae wedi bod yn fraint aruthrol cael cynrychioli Cymru yn yr Almaen, gwlad y bu i mi ymweld â hi gyntaf fel myfyriwr cyfnewid yn 1983!

Wrth i mi baratoi i basio’r baton i rywun arall, rydym hefyd yn trosglwyddo o’r ymgyrch Cymru yn yr Almaen 2021 i’r ymgyrch Cymru yng Nghanada 2022.

Bydd fy nghydweithwyr Andrew ac Yacine ym Montreal yn mynd ati i ddatblygu’r gwaith yr ydym wedi ei gwblhau eleni, gan amlygu’r cysylltiadau sy’n tyfu rhwng Cymru a Chanada. Bydd y gwaith hefyd yn amlygu’r nifer o gyfleoedd sydd ar gael i fusnesau, prifysgolion a sefydliadau diwylliannol ar draws yr Iwerydd.

Samantha Dimond

Pennaeth yr Almaen, Llywodraeth Cymru

Dilynwch ein trydar Cysylltiadau Rhyngwladol ac ein swyddfeydd yn yr Almaen.

Read this page in English.

1 sylwadau

  1. Hysbysiad: Celebrating a year of Wales in Germany! | Welsh Government

Gadael ymateb

Discover more from Llywodraeth Cymru

Subscribe now to keep reading and get access to the full archive.

Continue reading