Neidio i'r prif gynnwy

Diwrnod Hanesyddol i Blant Cymru!

Mae heddiw yn ddiwrnod hanesyddol ar gyfer hawliau plant yma yng Nghymru, ac yn ddiwrnod rwy’ wedi aros yn hir i’w weld. Efallai ei fod wedi cymryd dros 20 mlynedd o ymgyrchu i wneud cosbi plant yn gorfforol yn anghyfreithlon, ond mae’r diwrnod wedi cyrraedd o’r diwedd ac ni allwn fod yn hapusach.

O heddiw ymlaen, nid yw’r amddiffyniad o gosb resymol yn bodoli. Mae’r hen amddiffyniad cyfreithiol, 160 oed hwn wedi’i gyfyngu i’r llyfrau hanes. Ni fydd unrhyw un yn gallu defnyddio’r amddiffyniad hwn os canfyddir ei fod wedi cosbi plentyn yn gorfforol.

Mae plant bellach yn cael yr un amddiffyniad rhag ymosodiad ag oedolion, gan wneud y gyfraith yn haws i bawb – plant, rhieni a gweithwyr proffesiynol – ei deall. 

Ers y gallaf gofio, rwyf wedi bod yn gofyn; “Sut y gall fod yn iawn i berson mawr daro person bach?”. Doedd hynny ddim yn gwneud synnwyr i mi erioed, ac wnes i byth ddeall pam oedd y gyfraith yn esgusodi hyn o dan unrhyw amgylchiadau. Fel mam, a nawr fel mam-gu i 8 o wyrion, rwy’n gwybod nad yw gofalu am blant bob amser yn hawdd. Ond roedd y syniad o daro plentyn yn rhywbeth na allwn byth ei gyfiawnhau.  

Weithiau mae’n anodd cael plant i wneud y pethau y mae angen iddynt eu gwneud – gwisgo efallai, ac mae’n rhaid i chi fynd yn groes i’w hewyllys, ar adegau, i’w cadw’n gynnes, i’w galluogi i fynd allan ac yn y blaen. Nid yw’r newid yn y gyfraith yn atal unrhyw un o’r gweithgareddau hyn – dim ond y defnydd o gosb gorfforol sy’n cael ei effeithio, fel smacio.

Ac i fod yn glir, nid yw pob ymyriad corfforol i gadw plant yn ddiogel rhag niwed yn gosb gorfforol. Mae dal plentyn yn ôl rhag rhedeg i’r ffordd neu atal plentyn rhag anafu ei hun neu eraill, neu ei atal rhag rhoi ei law mewn tân neu ar arwyneb poeth yn rhianta da, nid yw’n cyfrif fel cosb.

Mae’n bwysig nodi nad yw disgyblaeth a chosb gorfforol yn un peth. Mae angen disgyblaeth ar bob plentyn; mae hynny’n ymwneud â darparu ffiniau, arweiniad a chymorth i blentyn wrth iddo ddysgu ymddygiad priodol. Fodd bynnag, ni ddylai cosb gorfforol fod yn nodwedd o ddisgyblaeth.

Rydym bellach yn gwybod y gall cosb gorfforol gael effeithiau negyddol hirdymor ar gyfleoedd bywyd plentyn, nid yw’n ffordd effeithiol o wella ymddygiad plant ac nid yw’n helpu plant i ddysgu am hunanreolaeth nac ymddygiad priodol.

Os ydych chi’n meddwl tybed sut i ddisgyblu plentyn heb orfod troi at gosb gorfforol, mae digon o gefnogaeth ar gael. Lle gwych i ddechrau yw Magu Plant. Rhowch amser iddo. Mae’n cynnig awgrymiadau ymarferol a chyngor arbenigol am ffyrdd cadarnhaol o annog ymddygiad da yn ogystal â dewisiadau eraill yn lle cosbi gorfforol. Mae tudalen i rieni hefyd ar gael, sy’n darparu dolenni at gymorth pellach a llinellau cymorth.

Mae gwybodaeth, cyngor a chymorth rhianta ar gael gan awdurdodau lleol, bydwragedd, ymwelwyr iechyd, meddygon teulu a chan lawer o sefydliadau’r trydydd sector. Mae cymorth hefyd ar gael drwy ein rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf, a hefyd Dechrau’n Deg (os ydych yn rhiant i blentyn ifanc mewn ardal Dechrau’n Deg).

Mae heddiw’n ddiwrnod da i blant ac i hawliau plant. Mae’n ddiwrnod lle gallwn dynnu llinell o dan y gorffennol a’i gwneud yn glir nad yw trais byth yn dderbyniol. Mae heddiw’n ddiwrnod da i Gymru.

Julie Morgan

Dirprwy Gweinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol

I gael rhagor o wybodaeth ewch i llyw.cymru/stopiocosbicorfforol

Read this page in English.

Gadael ymateb

Discover more from Llywodraeth Cymru

Subscribe now to keep reading and get access to the full archive.

Continue reading