Neidio i'r prif gynnwy

Nadolig Llawen a Diwrnod Mudwyr Hapus – Neges gan Aled Edwards

Rydyn ni wedi ymrwymo i fod yn Genedl Noddfa go iawn. I’r holl ffoaduriaid a cheiswyr lloches sy’n dod i Gymru: Mae’n anrhydedd eich bod wedi dewis ein gwlad i ailadeiladu eich bywydau ac rydym am eich cefnogi.

Mae croesawu pobl newydd i Gymru yn rhan annatod o bwy ydym ni fel cenedl. Rydym yn darparu noddfa i’r rhai sydd ei angen a chyfleoedd i’r rhai sydd â’r sgiliau i gyfrannu at ein heconomi a’n cymunedau. Mae Cymru’n gyfoethocach am gyfraniad mudwyr mewn termau economaidd, diwylliannol a chymdeithasol.

Mae’n fraint bod cynifer o Ddinasyddion yr UE wedi dewis ceisio Statws Sefydlog ac aros gyda ni yma yng Nghymru. Rydym yn parhau i gefnogi’r rhai sydd eto i wneud cais am Statws Sefydlog i gyflwyno ceisiadau hwyr ac i roi cyngor i’r rhai sy’n dod o hyd i faterion nas rhagwelwyd ar ôl i’r UE ymadael. Bydd wastad croeso i Ddinasyddion yr UE yma yng Nghymru.

Mae’n anrhydedd i ni fod dinasyddion Affganistan sydd wedi cyrraedd Cymru yn ystod y misoedd diwethaf yn dysgu Cymraeg a Saesneg, a bod rhai teuluoedd wrthi’n dewis addysg cyfrwng Cymraeg. Mae mudo’n cyfoethogi ein diwylliant yn hytrach na’i danseilio.

Mae’r Canon Aled Edwards, Prif Weithredwr Cytûn, yn un o nifer o bobl yng Nghymru sy’n ymwneud â’n huchelgeisiau Cenedlaethol Noddfa. Isod mae’n rhannu neges o obaith gyda ni i nodi Diwrnod Rhyngwladol Mudwyr:


“Un ohonom ni”

Wrth i’r Nadolig agosáu, yn y cyfnod anodd hwn, mae arwyddion o obaith yn dal yno i’w gweld yn ein Cymru fodern, llawn amrywiaeth sy’n elwa cymaint o fewnfudiad. Eleni, cawsom  ddathlu sawl mynegiant diwylliannol o’r ffordd y mae Cymru wedi’i chyfoethogi gan amrywiaeth. Mae cerflun Betty Campbell sy’n sefyll yn falch yng nghanol dref Caerdydd wedi ysbrydoli llawer, fel gwnaeth y murlun ‘My Cymru, My Shirt’.

Murlun ‘My Cymru, My Shirt’ o Nicole Ready, a grëwyd gan Yusuf Ismail a Shawqi Hasson, cyfarwyddwyr creadigol a ffotograffwyr o Dre-biwt.

Mae Cymru hefyd wedi troi ei llaw at y grefft o groesawu pobl. Ers Awst – mewn ffordd nodedig – buom yn croesawu pobl o Afghanistan ac yn cymryd cam arall tuag at ddod yn genedl noddfa. Mae llawer mwy o fynegiant o obaith i’w cael, ond mae heriau yn parhau ym maes cyfiawnder hiliol ac yn yr ymdrech i groesawu newydd-ddyfodiaid i’n gwlad ni.

Mae Cymru dal i ddilyn rhai traddodiadau. Ar ddydd Sul ychydig o ddiwrnodau yn ôl, daeth cynulleidfa ynghyd mewn capel ar gyrion Caerdydd i fwynhau drama’r geni’n cael ei pherfformio gan blant yr ysgol leol. Mae geiriau ac enwau yn bwysig. Mae’r gair “Adfent” yn dod o le gwahanol a phobl wahanol. Ystyr y gair Lladin adventus yw “dyfodiad”. Dros y canrifoedd, cafodd y gair hwn ei dderbyn yn llawen i’r Saesneg ac i’r Gymraeg. Mae arfer hynafol Cristnogion Sbaen a Gâl o ddefnyddio Adfent fel amser i baratoi ar gyfer bedydd wedi diflannu braidd o’n cof, ond mae’r syniad yna o “ddyfodiad” wedi parhau. Heb fewnfudiad pobl a’u geiriau, byddai’r gred Gristnogol wedi hen ddiflannu i’r gorffennol pell.

Gan ddilyn galwad traddodiadol Adfent, fe wnaeth unigolion a theuluoedd dod at ei gilydd i gofio hanes y Nadolig. Ymgasglu yn ofalus wnaethon nhw y bore hwnnw. M Llythyren o’r wyddor Roegaidd a ddefnyddiwyd i roi enw ar bresenoldeb diangen arall. Rydym wedi’i alw’n Omicron. Yn wyneb coronafeirws, mae’r GIG wedi’i gwasanaethu’n dda gan ein gweithwyr iechyd. Rydym wedi’u alw’n arwyr. Mae rhai ohonynt o wledydd eraill wedi’u hanrhydeddu am eu gwasanaeth. Yn anffodus, bydd rhai’n cael eu cofio am iddynt orfod talu’r pris eithaf, mewn niferoedd mor anghymesur, am eu gwasanaeth. Yn aml, rhoddir enwau byr i’r dynion a menywod yma – ond dylem gofio eu henwau a bywydau cyflawn am byth.

Yn gynharach eleni, siaradodd Aled am sut y croesawodd Cymru ffoaduriaid o Affganistan.

Y bore hwnnw, defnyddiwyd geiriau cyfarwydd Cymraeg i adrodd hanes y Nadolig. Disgrifiwyd profiadau bywydau cyfoes; tlodi, digartrefedd, erledigaeth a ffoaduriaid sy’n gadael eu cartrefi i ffoi rhyfel a mynd i wledydd eraill. Roedd Iesu yn geisiwr lloches yn y pen draw. Ymgasglodd ffrindiau mewn capel i ddathlu gobaith geni’r baban a ddaeth yn un ohonom ni. Gyda chaniatâd, fe wnes i rannu stori teulu o ffoaduriaid Affganistan sydd wedi cael cynnig bywyd newydd yng Nghymru. Rydyn ni’n ffrindiau nawr. Rhannais lun o’u bachgen bach newydd; un ohonom ni. Fel dywedodd ei dad; arwr Cymraeg.

Daeth alaw i’r meddwl. Nôl yn 1995, ysgrifennodd Eric Bazillion gân – ni fwriadodd erioed i ‘One of Us’ i fod yn “beth crefyddol”, pan fentrodd ofyn y cwestiwn; a allai Duw fod yn un ohonom ni?

“If God had a name, what would it be?

And would you call it to his face?”

Mae’r gân am rywbeth sy’n newid y ffordd rydych chi’n gweld y byd. Gall fod yn unrhyw beth neu unrhyw un. Mae’r bobl sydd wedi dewis gwneud Cymru yn gartref yn dda am wneud hynny. Dyna yw un o’u rhoddion i ni. Os meiddiwn ei dderbyn.

Beth bynnag yw eich ffydd, dymunwn Nadolig diogel a heddychlon i chi gyd ar ôl y flwyddyn anodd yma.

Y Canon Aled Edwards OBE

Read this page in English.

1 sylwadau

  1. Hysbysiad: Merry Christmas and Happy International Migrants Day – A Message from Aled Edwards | Welsh Government

Gadael ymateb

Discover more from Llywodraeth Cymru

Subscribe now to keep reading and get access to the full archive.

Continue reading