Rydyn ni wedi ymrwymo i fod yn Genedl Noddfa go iawn. I’r holl ffoaduriaid a cheiswyr lloches sy’n dod i Gymru: Mae’n anrhydedd eich bod wedi dewis ein gwlad i ailadeiladu eich bywydau ac rydym am eich cefnogi.
Darllenwch mwy2021
Enillydd Cerdyn Nadolig y Prif Weinidog yw…

Mae’r diwrnod yr wyf yn beirniadu fy nghystadleuaeth cerdyn Nadolig blynyddol bob amser yn un cyffrous ond heriol i mi fel Prif Weinidog. Bob blwyddyn rwy’n anfon miloedd o gardiau Nadolig i bobl o bob cwr o’r byd, gan gynnwys i’r Frenhines, ac i Arlywydd ac Is-arlywydd yr Unol Daleithiau. Rwy’n hoffi sicrhau bod y cerdyn Nadolig yn un arbennig iawn, felly rwy’n gofyn am gymorth gan blant ysgolion Cymru.
Darllenwch mwyY llais ifanc Cymraeg sy’n arwain trafodaethau newid hinsawdd Cymru

Dw i’n sefyll ar Blatfform 2 yng Ngorsaf Drenau Casnewydd. Mae’n 10am ar 1 Tachwedd, a dw i’n teimlo rhuthr o adrenalin yn rasio drwy fy nghorff. Ar ôl dwy flynedd o waith caled, ymgyrchu a chynllunio – mae’r foment wedi cyrraedd o’r diwedd. Rwy’n anadlu’n ddwfn wrth imi gamu i mewn i’r trên a gadael i bwysigrwydd yr hyn dw i ar fin ei wneud suddo i mewn.
Darllenwch mwy“Trais gan ddynion yw trais yn erbyn menywod” – Nazir Afzal ar Ddiwrnod Rhuban Gwyn

Yn rhy aml, mae trais yn erbyn menywod yn cael ei gyflwyno fel problem diogelwch menywod yn hytrach na’r hyn yw e mewn gwirionedd: trais gan ddynion. Mae’r sgwrs yn troi i fod ynghylch goleuo strydoedd a larymau er mai’r lle peryclaf i fenyw yw ei chartref ei hun.
Darllenwch mwyDathlu hawliau plant! Rhoi terfyn ar gosbi corfforol yng Nghymru.
Mae’r Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol yn rhannu beth mae rhoi terfyn ar gosbi corfforol o blant yn ei olygu iddi…
Mae hawliau’r plentyn wrth wraidd y dathliadau a gynhelir ar Ddiwrnod Byd-eang y Plant ar 20 Tachwedd. Cyn hir, bydd Cymru ymhlith y 60 a mwy o wledydd ledled y byd sydd wedi rhoi sylw arbennig i hawliau’r plentyn drwy ddeddfu yn erbyn cosbi plant yn gorfforol. Bydd y gyfraith yn newid yng Nghymru ar 21 Mawrth 2022 pan gaiff yr hen amddiffyniad cosb resymol ei ddileu, ac nid cyn amser yn fy marn i.
Darllenwch mwyRydym newydd gyhoeddi ein cynllun Cymru Sero-Net, ond beth mae yn ei olygu mewn gwirionedd?
Mae Christine Wheeler, sy’n arwain ar Newid Hinsawdd o fewn Llywodraeth Cymru, yn ei egluro inni…

Heddiw rydym wedi cyhoeddi ein cynllun Cymru Sero-Net, gan ganolbwyntio’r gweithredu rhwng 2021 a 2025. Ond rwy’n clywed llawer o bobl yn holi, beth mae ‘sero-net’ yn ei olygu mewn gwirionedd? Yn ei hanfod, mae’n golygu cydbwyso faint o nwyon tŷ gwydr a roddwn i’r atmosffer gyda’r rhai a gymerwn allan. Ein nod yw cyrraedd sero net erbyn 2050.
Darllenwch mwyPeidiwch â dioddef trosedd casineb mewn distawrwydd – mae cymorth ar gael
Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb 9-16 Hydref 2021

Fy enw i yw Noah a fy rhagenw i yw ‘fe’. Do’n i ddim yn ymwybodol iawn o beth mae Cymorth i Ddioddefwyr yn ei wneud cyn imi gael fy atgyfeirio atyn nhw. Er syndod imi, maen nhw’n gwneud llawer mewn gwirionedd. Oeddet ti’n gwybod eu bod nhw’n cofnodi troseddau casineb yn ddienw fel nad oes rhaid i ti siarad â’r heddlu? Mae hyn yn golygu ei fod yn dal i gael ei gofnodi yn yr ystadegau fel bod yr awdurdodau’n gallu sylweddoli problem pa mor fawr yw troseddau casineb? Chefais i ddim fy ngwthio erioed i fynd at yr heddlu na gwneud dim byd ro’n i’n anghyfforddus yn ei wneud.
Darllenwch mwyCroeso i flog Llywodraeth Cymru!

Roeddem am greu lle lle gallwn roi gwybod i chi’n fanylach am bopeth rydym yn ei wneud i wneud Cymru’n genedl fwy ffyniannus, cyfartal, gwyrddach ac iachach a sut mae’n effeithio arnoch chi.
Darllenwch mwy