Mae’r Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol yn rhannu beth mae rhoi terfyn ar gosbi corfforol o blant yn ei olygu iddi…
Mae hawliau’r plentyn wrth wraidd y dathliadau a gynhelir ar Ddiwrnod Byd-eang y Plant ar 20 Tachwedd. Cyn hir, bydd Cymru ymhlith y 60 a mwy o wledydd ledled y byd sydd wedi rhoi sylw arbennig i hawliau’r plentyn drwy ddeddfu yn erbyn cosbi plant yn gorfforol. Bydd y gyfraith yn newid yng Nghymru ar 21 Mawrth 2022 pan gaiff yr hen amddiffyniad cosb resymol ei ddileu, ac nid cyn amser yn fy marn i.
Rwyf wedi bod yn ymgyrchu dros ddileu amddiffyniad cosb resymol ers mwy nag 20 mlynedd, yn rhinwedd fy swydd fel Aelod Seneddol yn San Steffan i ddechrau, ac fel Aelod o’r Senedd yng Nghymru ar ôl hynny.
Rwy’n fam fy hun ac yn fam-gu i wyth o wyrion. Bues yn gweithio fel gweithiwr cymdeithasol am 15 mlynedd cyn ymuno â byd gwleidyddiaeth, felly mewn rhyw ffordd neu’i gilydd, rwyf wedi bod yn ymwneud â chynnal hawliau plant ers y cychwyn cyntaf.
Ers cyn cof rwyf wedi bod yn gofyn, “Sut y gallai hi byth fod yn iawn i rywun mawr daro rhywun bach?” Nid wyf erioed wedi deall pam mae’r gyfraith fel petai’n esgusodi hyn o dan unrhyw amgylchiadau, gan ganiatáu i rieni, neu i rywun sy’n gweithredu fel rhiant, honni bod cosbi eu plant yn gorfforol yn “rhesymol”.
Nod y newid yn y gyfraith yw helpu i ddiogelu hawliau plant. Mae’n datblygu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i hawliau plant o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.
Rydym ni fel Llywodraeth am barchu hawliau plant drwy wneud yn siŵr bod plant yng Nghymru yn cael eu hamddiffyn rhag ymosodiadau llawn gymaint ag oedolion. Drwy’r newid hwn yn y gyfraith, ni fydd hawl i rieni nac oedolion eraill sy’n gweithredu fel rhiant gosbi plant yn gorfforol yng Nghymru mwyach.
Rwy’n deall y gall rhai pobl deimlo’n bryderus os cawsant eu smacio fel plentyn, neu os ydynt wedi smacio eu plant eu hunain – a yw’r ddeddfwriaeth hon yn golygu y cânt eu beio, neu y codir cywilydd arnynt am hynny? Nac ydyw. Nid beirniadu pethau a ddigwyddodd yn y gorffennol yw nod y ddeddfwriaeth hon. Oes wahanol oedd honno, gyda disgwyliadau gwahanol. Mae mwy o ymchwil a chyngor proffesiynol ar gael i rieni heddiw, heb os.
Mae dewisiadau cadarnhaol y gellir eu defnyddio yn lle cosb gorfforol er mwyn rhoi i blant yr arweiniad, y ffiniau a’r ddisgyblaeth sydd eu hangen arnynt. Mae angen i ni hefyd sicrhau bod rhieni’n cael yr wybodaeth a’r cyngor a fydd yn eu helpu i fanteisio ar y dewisiadau hynny yn lle troi at ddefnyddio cosb gorfforol. Mae’r ymgyrch Magu Plant. Rhowch amser iddo yn lle gwych i ddechrau.
Rwy’n falch bod hawliau plant yn cael eu cydnabod fwyfwy yn rhyngwladol, ac, yn enwedig, bod cymaint o wledydd wedi cymryd camau, neu wrthi’n cymryd camau, i roi terfyn ar gosbi corfforol. Gwnaeth Sweden ddeddfu yn erbyn cosbi corfforol dros ddeugain mlynedd yn ôl bellach, a gwnaeth yr Alban yr un peth y llynedd. O edrych ar wledydd â systemau cyfreithiol tebyg i’n system ni, megis Iwerddon, Malta a Seland Newydd, mae’n debyg na chafodd heddluoedd na gwasanaethau cymdeithasol y gwledydd hynny eu llethu gan achosion ar ôl i’r gyfraith newid yn eu gwledydd nhw.
Rwy’n gwybod bod nifer o unigolion a sefydliadau wedi bod yn ymgyrchu ers degawdau i wneud yn siŵr bod plant yn cael eu hamddiffyn rhag ymosodiadau llawn gymaint ag oedolion. Rwy’n falch iawn bod hyn yn digwydd, gan gynnig gobaith a diogelwch cyfreithiol i genedlaethau o blant y dyfodol yng Nghymru.
Mae’r oes wedi newid. Mae agweddau wedi newid.
Does dim lle i gosbi corfforol mewn Cymru fodern.
Julie Morgan
Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol
Am ragor o wybodaeth ewch i llyw.cymru/StopioCosbiCorfforol.

Hysbysiad: High 5 for children’s rights! Ending physical punishment in Wales. | Welsh Government