Neidio i'r prif gynnwy

“Trais gan ddynion yw trais yn erbyn menywod” – Nazir Afzal ar Ddiwrnod Rhuban Gwyn

Yn rhy aml, mae trais yn erbyn menywod yn cael ei gyflwyno fel problem diogelwch menywod yn hytrach na’r hyn yw e mewn gwirionedd: trais gan ddynion. Mae’r sgwrs yn troi i fod ynghylch goleuo strydoedd a larymau er mai’r lle peryclaf i fenyw yw ei chartref ei hun.

Mae’r drafodaeth ers i Sarah Everard gael ei llofruddio gan heddwas cyflogedig wedi bod ynghylch casineb yn erbyn menywod yn ein sefydliadau yn bennaf, yn hytrach na chasineb yn erbyn menywod yn ein cymdeithas yn fwy eang. Dyna pam mae’n rhaid i ddynion arddel y drafodaeth hon, rhaid i ddynion fynd i’r afael â gwreiddiau ymddygiad treisgar a rhaid i ddynion ei herio. Mae ymgyrch y Rhuban Gwyn yn un rhan o hynny.

Fel llysgennad, rydych nid yn unig yn dangos eich parodrwydd i hyrwyddo’r gwaith anhygoel sy’n cael ei wneud gan sefydliadau sy’n cael eu harwain, gan amlaf, gan fenywod, ond rydych hefyd yn dangos y byddwch chi eich hunan yn gosod esiampl, gan herio rhagfarn ar sail rhyw a chasineb yn erbyn menywod pan fyddwch yn ei weld neu’i glywed, ac yn gweithio i newid pobl eraill.

Mater o hawliau dynol, cydraddoldeb a thegwch yw hwn. Dyma ddyngarwch ar waith.

Ni ddylai menywod ddioddef am un diwrnod yn rhagor. Mae gormod o waed wedi’i golli. Dynion sy’n gyfrifol am fwy na 90% o drais yn erbyn menywod, ond rydym hefyd yn gyfrifol am dros 90% o drais yn erbyn dynion a phlant. Dyw hi ddim yn ddigon da i ddweud mai dim ond “rhai dynion” sy’n ymddwyn fel hyn, oherwydd mae tawelwch dynion eraill ar y mater yn creu amgylchedd lle gall dynion treisgar ffynnu.

Rydym yn cymryd cyfrifoldeb oherwydd mai dyna’r peth cywir i’w wneud.

Nazir Afzal

Cynghorydd Cenedlaethol ar Drais yn erbyn Menywod a Cham-drin Domestig

Read this page in English.


Gadael ymateb

Discover more from Llywodraeth Cymru

Subscribe now to keep reading and get access to the full archive.

Continue reading