Neidio i'r prif gynnwy

Y llais ifanc Cymraeg sy’n arwain trafodaethau newid hinsawdd Cymru

Dw i’n sefyll ar Blatfform 2 yng Ngorsaf Drenau Casnewydd. Mae’n 10am ar 1 Tachwedd, a dw i’n teimlo rhuthr o adrenalin yn rasio drwy fy nghorff. Ar ôl dwy flynedd o waith caled, ymgyrchu a chynllunio – mae’r foment wedi cyrraedd o’r diwedd. Rwy’n anadlu’n ddwfn wrth imi gamu i mewn i’r trên a gadael i bwysigrwydd yr hyn dw i ar fin ei wneud suddo i mewn.

Does gen i fawr o syniad beth i’w ddisgwyl yn ystod y 12 diwrnod nesaf, ond gwn y bydda’ i’n cynrychioli Llysgenhadon Hinsawdd Ieuenctid Cymru yn COP26 am y 12 diwrnod nesaf. Am y 12 diwrnod nesaf, bydda’ i’n cael y cyfle i fod yn yr ystafell ‘lle mae popeth yn digwydd’, ymhlith arweinwyr y byd, negodwyr, cynrychiolwyr, cyrff anllywodraethol ac actifyddion llawn angerdd. Gwn hefyd fod y 12 diwrnod hyn yn hynod bwysig. Y rheswm am hyn yw bod cynadleddau fel COP yn rhoi cyfle unigryw i arweinwyr y byd, a’u cynrychiolwyr, ddod ynghyd i drafod sut byddan nhw’n sicrhau bod y blaned a chenedlaethau’r dyfodol yn ganolog i bob penderfyniad. Mae COP26 yn arbennig o bwysig oherwydd, wrth i amser fynd yn ei flaen, mae newid yn yr hinsawdd yn dod yn llai o ddamcaniaeth ac yn fwy o realiti i filiynau o bobl ledled y byd.

A minnau’n berson 17 oed o dde Cymru, dechreuais i deimlo’n fwyfwy fel twyllwr wrth imi gerdded tuag at fynedfa’r Parth Glas y diwrnod wedyn. Beth pe taswn i ddim yn ffitio i mewn ymhlith y dynion mewn siwtiau? Ond, atgoffais i fy hun yn gyflym pam roeddwn i yno. Fel aelod o Lysgenhadon Hinsawdd Ieuenctid Cymru, doeddwn i ddim yn mynd i COP er mwyn ‘ffitio i mewn’.  Roeddwn i yno i sicrhau bod llais pobl ifanc Cymru, sydd mor aml yn cael ei anwybyddu, yn cael ei glywed ar bob lefel. Fel Cadeirydd Llysgenhadon Ieuenctid Hinsawdd, roeddwn i’n mynd i hyrwyddo a rhannu ein maniffesto gerbron y byd, gan nodi pwyntiau gweithredu yn cynnwys pethau fel sicrhau dim datgoedwigo, gwneud ‘Ffoadur Hinsawdd’ yn statws cyfreithlon, adfer mawndiroedd a gwneud busnesau’n atebol. Ond y prif beth a oedd yn cadw fy nhraed ar y ddaear, wrth imi fynd drwy’r mesurau diogelwch, oedd meddwl am fy rheswm dros ymuno â Llysgenhadon Hinsawdd Ieuenctid: Roeddwn i am sbarduno’r newid sydd ei angen, dim jyst er fy mwyn fy hun, ond er mwyn y bobl ledled y byd sydd wedi cael eu hanwybyddu – y rhai agored i niwed yn y gymdeithas sydd wedi cael eu gadael i amddiffyn eu hunain wrth iddyn nhw wynebu canlyniadau ein gweithredoedd anghyfrifol a barus.

Wrth i fy hamser yn COP fynd yn ei flaen, yr unig ymadrodd sy’n disgrifio’r profiad yw  ‘emosiynol dros ben!’ Yn anffodus, roedd y cytundeb a gafodd ei wneud yn ystod COP yn destun siom imi – doedd dim sôn am olew a nwy, a doedd dim sicrwydd y byddai’r rhai sy’n dioddef, a’r rhai sydd â’r atebion ar lawr gwlad, yn cael eu cefnogi. Beth bynnag, creodd y bobl cwrddais i â nhw a’r pethau a ddysgais i argraff fawr arna i’.

Drwy gwrdd â’r Wampis, sef pobl frodorol o Perw, roeddwn i’n gallu meddwl a dysgu nad mater o ddewis yw gweithredu ar newid yn yr hinsawdd ar gyfer rhai, ond yn fater o fyw neu farw. Cefais fy ysbrydoli gan eu hoptimistiaeth barhaus a’u penderfyniad i newid y sefyllfa. Drwy gwrdd ag actifyddion ifanc eraill, gwelais i beth yw argyhoeddiad ac arweinyddiaeth ddi-ofn. Drwy siarad â’r Gweinidog Hinsawdd a Phrif Weinidog Cymru, ces i ymdeimlad o obaith wrth weld y rhai dw i’n ymddiried ynddyn nhw i arwain fy ngwlad yn deall difrifoldeb yr argyfwng hinsawdd a’r angen i weithredu. Er bod y cytundeb a gafodd ei wneud yn COP yn destun siom, creodd yr effaith y gall actifyddion ei chael, pan fydd eu llywodraeth yn barod i wrando arnynt, argraff enfawr arna’ i, a chadarnhaodd hyn fy malchder yn y ffaith fy mod yn dod o Gymru, a fy argyhoeddiad, er ein bod yn wlad fach, ein bod ni hefyd yn wlad gref iawn.

Gwnewch addewid i ddangos sut y byddwch yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd yma.

Yn bwysicach byth, ar ddiwedd y profiad roeddwn i’n teimlo’n fwy penderfynol nag erioed o wneud cyfraniad at y newid sydd ei angen. Er mwyn mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, mae angen i bawb ddod ynghyd. Mae angen i bawb ddefnyddio eu llais er mwyn y blaned. Yr unig ffordd o newid y sefyllfa yw deall y mater o bob safbwynt, ac felly hoffwn i annog pawb i ddefnyddio eu llais, i fynnu eich bod yn presennol wrth y ford, ac i weithio gydag arweinwyr y byd (ond hefyd sicrhau eu bod yn atebol) sydd â’r pŵer i weithredu er mwyn diogelu’r hyn sy’n golygu cymaint ichi. Yn ein dwylo ni mae’r argyfwng hinsawdd, oherwydd yn y pen draw mae eich llais chi yr un mor bwysig ac angenrheidiol â’r rhai rydyn ni’n ystyried bod y pŵer yn eu dwylo nhw – gwnewch yn siŵr eich bod yn dweud eich dweud!

Poppy Stowell-Evans

Llysgennad Hinsawdd Ieuenctid Cymru

Read this page in English.

@WGClimateChange / @NewidHinsawdd

1 sylwadau

  1. Hysbysiad: Meet the young Welsh voice leading Wales’ climate talks | Welsh Government

Gadael ymateb

Discover more from Llywodraeth Cymru

Subscribe now to keep reading and get access to the full archive.

Continue reading