Neidio i'r prif gynnwy

Rydym newydd gyhoeddi ein cynllun Cymru Sero-Net, ond beth mae yn ei olygu mewn gwirionedd?

Mae Christine Wheeler, sy’n arwain ar Newid Hinsawdd o fewn Llywodraeth Cymru, yn ei egluro inni…

Heddiw rydym wedi cyhoeddi ein cynllun Cymru Sero-Net, gan ganolbwyntio’r gweithredu rhwng 2021 a 2025.  Ond rwy’n clywed llawer o bobl yn holi, beth mae ‘sero-net’ yn ei olygu mewn gwirionedd?  Yn ei hanfod, mae’n golygu cydbwyso faint o nwyon tŷ gwydr a roddwn i’r atmosffer gyda’r rhai a gymerwn allan. Ein nod yw cyrraedd sero net erbyn 2050.

Rhaid i’r cydbwysedd fod yn iawn yng Nghymru (ffocws y Cynllun hwn), ond mae’n mynd y tu hwnt i hyn hefyd. Mae angen i ni sicrhau mai dim ond ein cyfran deg o adnoddau’r blaned ehangach yr ydym yn ei defnyddio – felly cadwch lygad am adroddiad sy’n dod allan ar y pwnc hwnnw y flwyddyn nesaf. Heb y cydbwysedd hwn, bydd ein planed yn parhau i gynhesu, bydd lefelau’r môr yn parhau i godi a byddwn yn cael tywydd mwy eithafol. Felly mae’n fater difrifol, ond mae rhesymau dros fod yn obeithiol.

Rydym wedi dangos y gallwn newid – mae Cymru eisoes yn arwain y ffordd mewn meysydd fel ailgylchu, lle rydym yn un o’r tair gwlad ailgylchu orau yn y byd (ac ni allem fod wedi gwneud hynny heb gymorth pawb). Yn union fel mewn ailgylchu, gall y Llywodraeth osod yr amodau ar gyfer newid, ond ni allwn wneud hynny ar ein pen ein hunain. Mae angen inni weld degawd o weithredu, lle mae pawb yn chwarae eu rhan i’n helpu i greu Cymru wyrddach.

Gall gweithredu ar eich pen eich hun deimlo braidd yn anobeithiol weithiau, ond pan fyddwch yn lluosi’r newidiadau hynny gyda miliwn, neu dair miliwn (poblogaeth fras Cymru) – mae’n ychwanegu at rywbeth sy’n werth ei gael. Gall newidiadau bach, fel y ffordd rydym yn cynhesu ein cartrefi, sut rydym yn teithio o gwmpas, yr hyn rydym yn ei brynu a sut rydym yn gweithio wneud gwahaniaeth mawr.

Mae’r cynllun rydym wedi’i gyhoeddi yr wythnos hon yn dangos yr hyn y byddwn yn ei wneud. Mae ganddo 123 o bolisïau a chynigion, ond dyma rai o’m huchafbwyntiau. Rhwng nawr a 2025 byddwn yn:

  • Adeiladu 20,000 o gartrefi cymdeithasol carbon isel newydd i’w rhentu
  • Buddsoddi mewn opsiynau teithio sy’n annog pobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn fwy a chefnogi pobl i gerdded a beicio
  • Plannu mwy o goed – gan gynnwys sut rydym yn cefnogi cymunedau i greu 30 o goetiroedd newydd a chysylltu cynefinoedd
  • Dod â deddfau newydd i rym er mwyn atal pobl rhag defnyddio plastigau untro sy’n aml yn cael eu taflu fel sbwriel
  • Cefnogi arloesedd ym maes technoleg ynni adnewyddadwy megis ffermydd gwynt
  • Datblygu sgiliau gwyrdd a darparu hyfforddiant fel y gall bobl fanteisio ar y cyfleoedd economaidd y mae’r newidiadau yn eu rhoi inni, mewn meysydd megis gweithgynhyrchu a thai

Rydym yn gwybod nad oes gennym yr holl atebion ond drwy weithio gyda phobl ledled Cymru a dysgu oddi wrthynt, gallwn ddod o hyd i atebion arloesol i’r heriau sy’n ein hwynebu. Beth am edrych ar Gaffi Re:Make yng Nghasnewydd er enghraifft. Mae’n brosiect gwych sy’n dangos pobl leol yn dod at ei gilydd i wneud gwahaniaeth gwirioneddol yn eu hardal.

Dyma rai o’r camau rydym yn eu cymryd i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd. Ond mae angen i bob un ohonom ofyn i ni’n hunain, pa gamau wyf o yn eu cymryd?

Gallwch wneud addewid i ddangos i ni beth rydych yn bwriadu ei wneud.

Diolch i bawb sydd eisoes wedi ymgysylltu â ni ar yr argyfwng hinsawdd. Byddem wrth ein bodd i chi barhau i siarad â ni ac anfon eich syniadau drwy ein sianeli cyfryngau cymdeithasol.

Christine Wheeler

Dirprwy Gyfarwyddwr, Newid yn yr Hinsawdd ac Effeithlonrwydd Ynni, Llywodraeth Cymru

Read this post in English.

@NewidHinsawdd / @WGClimateChange

Gadael ymateb