Neidio i'r prif gynnwy

Peidiwch â dioddef trosedd casineb mewn distawrwydd – mae cymorth ar gael

Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb 9-16 Hydref 2021

Fy enw i yw Noah a fy rhagenw i yw ‘fe’. Do’n i ddim yn ymwybodol iawn o beth mae  Cymorth i Ddioddefwyr yn ei wneud cyn imi gael fy atgyfeirio atyn nhw. Er syndod imi, maen nhw’n gwneud llawer mewn gwirionedd. Oeddet ti’n gwybod eu bod nhw’n cofnodi troseddau casineb yn ddienw fel nad oes rhaid i ti siarad â’r heddlu? Mae hyn yn golygu ei fod yn dal i gael ei gofnodi yn yr ystadegau fel bod yr awdurdodau’n  gallu sylweddoli problem pa mor fawr yw troseddau casineb? Chefais i ddim fy ngwthio erioed i fynd at yr heddlu na gwneud dim byd ro’n i’n anghyfforddus yn ei wneud.

Cefais gynnig cymorth gan gynnwys galwad ffôn wythnosol gan fy ngweithiwr achos. Cymerodd ychydig o amser i mi ymddiried yn fy ngweithiwr achos, ond blodeuodd y berthynas ac aeth fy sesiynau o fod yn brofiad newydd i fod yn rhywbeth roeddwn yn edrych ymlaen ato. Roedd y gefnogaeth hon mor sylfaenol wrth fy helpu i fynd drwy beth oedd yn digwydd. Fe wnaethon nhw roi cyngor imi ar fy hawliau, gwrando arnaf yn siarad am bethau ac roedden nhw fel craig ro’n i’n gallu angori fy hun iddi yng nghanol y storm. Os nad oedd fy ngweithiwr achos ar gael, roeddwn yn gallu ffonio’r swyddfa a siarad â rhywun arall.

Fe wnes i grio sawl gwaith wrth alw’r swyddfa a wnaeth neb erioed fy meirniadu am y peth, achos roedden nhw’n malio amdanaf i ac roedd hynny’n golygu cymaint. Nid rhif mewn system oeddwn i, roeddwn i’n berson ac i’r staff gwirioneddol dda yn Cymorth i Ddioddefwyr y mae’r diolch fy mod i’n teimlo felly. Mae popeth yn gyfrinachol ac roedd hynny’n golygu y gallwn ymddiried ynddyn nhw. Dros amser, fe wnes i gyfarwyddo mwy â siarad â nhw ac ymddiried ynddynt a dyna pam y gallaf i eu cynrychioli nhw nawr a dweud y gallaf argymell Cymorth i Ddioddefwyr gan fy mod wedi gweld faint o les y maen nhw’n gallu ei wneud i ddioddefwyr troseddau casineb.

Dw i’n gwybod y gall fod yn frawychus a trawmatig a gwneud i chi deimlo eich bod ar eich pen eich hun pan fyddwch yn dioddef trosedd gasineb. Mae llawer o bobl o hyd sydd ddim yn ei ddeall a gall hynny arwain at droseddau casineb yn cael eu bychanu neu arwain at bobl yn dweud wrthych chi am “gael drosto fe”. Mae Cymorth i Ddioddefwyr yn deall troseddau casineb. Maen nhw’n gallu cydymdeimlo a fydden nhw byth yn bychanu’r hyn rwyt ti wedi bod drwyddo na sut rwyt ti’n teimlo. ‘Dyn nhw ddim yn barnu, maen nhw’n gwrando. Ti’n dweud wrthyn nhw sut ti’n teimlo ac maen nhw’n derbyn mai ti yw’r un sy’n adnabod dy hun orau. Gall Cymorth i Ddioddefwyr fod yno i dy helpu i roi gwybod i’r heddlu beth sydd wedi digwydd, neu maen nhw’n derbyn yn llwyr os nad wyt ti eisiau mynd at yr heddlu. Ni fyddi di o dan unrhyw bwysau i wneud unrhyw beth nad wyt ti’n gyfforddus yn ei gylch.

Yn olaf, cofia nad ydy’r troseddwyr yn dy dargedu di gyda’u casineb oherwydd dy fod yn ei haeddu. Dwyt ti ddim yn ei haeddu. Ti’n berson anhygoel, unigryw, gwerthfawr sy’n haeddu byw heb gasineb. Dal dy ben yn uchel a bod yn falch o dy hunaniaeth.

Paid â dioddef yn dawel. Paid â dioddef ar dy ben dy hun achos mae cefnogaeth i gael. Cysyllta â Chymorth i Ddioddefwyr. Maen nhw yno i ti.

Noah

Read this post in English.


Buom yn ymweld â Chymorth i Ddioddefwyr yn gynharach eleni i gael gwybod am y cymorth amhrisiadwy y maent yn ei ddarparu:

Nid oes lle i gasineb yma yng Nghymru. Rydym eisiau gwneud Cymru’n lle diogel lle mae pawb yn rhydd i fod yn nhw eu hunain. Mae troseddau casineb yn fygythiad gwirioneddol i bobl yn y wlad hon ac rydym yn gweithio i ddod â hyn i ben.

Yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2021, dangosodd ystadegau Swyddfa Gartref y DU fod dros 124,000 o droseddau casineb wedi’u cofnodi gan yr heddlu yng Nghymru a Lloegr. Mae nifer y troseddau casineb a gofnodwyd wedi parhau i godi bob blwyddyn ers dechrau cadw cofnodion.

Mae hon yn wythnos bwysig i godi ymwybyddiaeth o droseddau casineb. Mae’n gyfle i feddwl ac i gofio’r rhai a gollodd eu bywydau, a darparu gwybodaeth a chefnogaeth i’r rhai sydd ei angen.

Dysgwch fwy am droseddau casineb a’n hymgyrch #casinebynbrifo.

Os ydych wedi dioddef trosedd gasineb, ffoniwch 999 mewn argyfwng neu cysylltwch â Chymorth Dioddefwyr Cymru ar 0300 3031 982. Gallant ddarparu cyngor a chymorth cyfrinachol am ddim.

Dywedodd Jessica o Cymorth i Ddioddefwyr Cymru:

“Rydym yn annog pobl sydd wedi profi neu wedi bod yn dyst i Drosedd Gasineb i roi gwybod i’r Heddlu, neu i Ganolfan Adrodd Trydydd Parti fel y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Cymorth ac Adrodd am Droseddau Casineb Cymru.

“Mae mor bwysig bod eich llais yn cael ei glywed ac i wybod nad ydych chi ar eich pen eich hun. Mae gan bawb yr hawl i deimlo’n ddiogel i fod yn bwy ydyn nhw.”

1 sylwadau

  1. Hysbysiad: Hate Hurts Wales | Welsh Government

Gadael ymateb

Discover more from Llywodraeth Cymru

Subscribe now to keep reading and get access to the full archive.

Continue reading