
Roeddem am greu lle lle gallwn roi gwybod i chi’n fanylach am bopeth rydym yn ei wneud i wneud Cymru’n genedl fwy ffyniannus, cyfartal, gwyrddach ac iachach a sut mae’n effeithio arnoch chi.
Ac roeddem am siarad â chi mewn ffordd fwy modern a sgyrsiol, i ffwrdd o’r penawdau, y cyfryngau cymdeithasol a chynadleddau i’r wasg. Rydym yn teimlo’n gyffrous iawn am y blog ac yn siarad â chi mewn ffordd nad ydym erioed wedi’i wneud o’r blaen.
Dyma’r mathau o bethau y byddwch yn dod o hyd i ni yn sôn amdanyn nhw ar y blog:
- Sut rydym yn creu Cymru fwy cyfartal, lle mae pawb yn cael eu derbyn am pwy ydyn nhw.
- Pam mae arnom angen gwell gwasanaethau cyhoeddus, sy’n helpu pawb sydd eu hangen, pan fydd eu hangen arnynt, lle mae eu hangen arnynt.
- Ein taith i fod yn genedl wirioneddol gynaliadwy, gan reoli ein hadnoddau er lles pawb a’u diogelu ar gyfer y dyfodol. Mae hyn yn golygu cymryd camau yn erbyn llygredd plastig, harneisio grym amgylchedd naturiol Cymru a manteisio ar botensial technolegau newydd.
- Sut rydym yn bwriadu cael pawb allan i’r awyr iach ac i symud, heb anghofio bod ein hiechyd meddwl yr un mor bwysig â’n hiechyd corfforol. Mae hyn yn golygu mynd i’r afael â gordewdra ledled y wlad, tra’n ymdrechu i gael amgylchedd iachach a gwyrddach i bob un ohonom fyw ynddo.
Byddwn yn postio am ystod o bynciau ac mae’r blog wedi’i rannu yn ôl themâu i’ch galluogi i ddod o hyd i beth bynnag y mae gennych ddiddordeb ynddo.
Wrth i’r blog dyfu, byddwn yn cynnwys postiadau gan “flogwyr gwadd” yn ogystal â phobl ledled Cymru y mae ein polisïau’n effeithio arnynt.
Os byddwch yn tanysgrifio i’r blog, cewch eich hysbysu pan fydd rhywbeth newydd yn cael ei bostio bob tro.
Cyn rhoi sylw, y cyfan a ofynnwn yw eich bod yn dilyn ein rheolau tŷ.
Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol i gael rhagor o wybodaeth a diweddariadau:
Hysbysiad: Welcome to the Welsh Government Blog! | Welsh Government