
Blwyddyn Newydd Dda! Adnabod rhywun sydd eisiau dysgu Cymraeg fel adduned blwyddyn newydd? Mae nifer ein dysgwyr ar gynnydd gyda 740% yn rhagor o staff yn dysgu ers 2020! Mae’r Gymraeg yn werthfawr i ni yn y Llywodraeth ac mae cymorth ar gael i bawb ddatblygu eu sgiliau, gan gynnwys Sarah…
Mae fy nhaith gyda’r Gymraeg wedi bod yn brofiad gydol oes. Cefais fy magu yng Nghymru, felly roedd yr iaith wastad yn bresennol yn fy mywyd i ryw raddau. Ond cefais fy magu yn sir eithaf Seisnigaidd sef Bro Morgannwg, doedd fy rhieni ddim yn siaradwyr Cymraeg ac roedd fy addysg i gyd drwy’r Saesneg. Treuliais fy mlynyddoedd yn y brifysgol dros y ffin cyn i’r hiraeth fy nhynnu yn ôl i Gymru yn fuan ar ôl graddio. Mae seiniau’r Gymraeg wastad wedi bod yn gyfarwydd, roeddwn i’n gweld y Gymraeg mewn enwau lleoedd ac arwyddion ffyrdd, dysgais ambell beth yn yr ysgol gynradd, ond roedd Cymraeg wastad yn teimlo fel rhywbeth ‘arall’, ar wahân i fy hunaniaeth fy hun, yn fyd dirgel nad oeddwn i’n rhan ohono. Aeth ychydig o blant o’r gymdogaeth i’r ysgol gynradd Gymraeg ‘leol’ (mewn gwirionedd taith bws 5 milltir i ffwrdd yn hytrach nag un o’r bedair ysgol gynradd cyfrwng Saesneg yn fy nhref o fewn radiws o filltir) ac mewn gwirionedd, rwy’n cofio meddwl bod hynny’n rhyfedd. Mae hyn yn dweud y cyfan am fy nghanfyddiad o’r iaith a sut roedd yn berthnasol i fi bryd hynny. Hyd yn oed wrth i fy addysg fynd rhagddo, a chymryd TGAU Cymraeg, ac yna ymlaen i Safon Uwch, roedd yna dal deimlad ei fod yn rywbeth ‘arall’.
Ar ôl symud yn ôl i dde Cymru ar ôl graddio, dechreuais weithio ym myd y cyfryngau yng Nghaerdydd. Ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach ac wedi i mi weithio ar brosiectau sain ar gynyrchiadau Cymraeg roeddwn wedi darganfod, mewn gwirionedd, fod y Gymraeg yn perthyn i mi hefyd. Ac nid dim ond er mwyn ennill cymhwyster oedd hyn, roeddwn i eisiau siarad yr iaith a bod yn rhan o’r diwylliant cyfoethog sydd ynghlwm wrthi. Pan ddechreuais fy ngyrfa yn Llywodraeth Cymru, cymerais fantais o’r cyfle i ddysgu a dechrau mynychu dosbarthiadau wythnosol. Mae wedi bod ychydig yn ‘stop start’ ers hynny, gyda seibiant wrth gwblhau fy MSc ac yn ystod cyfnodau mamolaeth, ond fe wnes i ail gydio ynddo eto 2 flynedd yn ôl gydag arddeliad.
Erbyn hyn mae gen i’r cymhelliant ychwanegol o gefnogi fy mhlant trwy eu haddysg Gymraeg a rhannu’r byd diwylliannol Cymraeg hwn gyda nhw sy’n dreftadaeth iddynt.
Rwy’n falch iawn fy mod wedi cyrraedd lefel lle gallaf ddeall y mwyafrif helaeth o drafodaethau a chymryd rhan mewn sgyrsiau eithaf cymhleth gyda geirfa amrywiol, ac rwyf bellach yn mynychu digwyddiadau diwylliannol ac yn teimlo fy mod yn perthyn, boed yn gyngerdd ysgol, neu Eisteddfod yr Urdd. Fel llywodraethwr yn ysgol fy mhlant fe wnes i hyd yn oed ddilyn sesiwn adborth arolwg Estyn a gyflwynwyd yn Gymraeg! Wrthweithio ym myd Addysg mae digon o gyfle wedi bod i alw ar fy ngwybodaeth Gymraeg. Mae’n helpu fy ngwaith gydag ysgolion a rhanddeiliaid eraill, gallaf fynd i’r afael â materion yn gyflymach heb orfod dibynnu ar eraill mwyach i gyfieithu ymholiad Cymraeg, anaml y bydd angen i mi ddibynnu ar gyfieithu ar y pryd i ddilyn siaradwyr mewn digwyddiadau, ac mae gen i well dealltwriaeth o gyd-destun a chefndir ein rhanddeiliaid sy’n siarad Cymraeg.
Rwyf wedi gweld fformat y cwrs Dysgu Cymraeg yn effeithiol iawn wrth arwain y dysgu i fod yn siaradwr yr iaith, ond byddwn yn priodoli rhan sylweddol o’m cynnydd i’r sesiynau sgwrsio wythnosol gyda fy mentor Cymraeg, Esyllt. (Byddaf yn ddiolchgar am byth am yr holl amser y mae hi wedi gwirfoddoli, ac am fy nghefnogi yr holl ffordd dros y ddwy flynedd ddiwethaf!) Dod o hyd i fentor yw fy ‘top tip’ i unrhyw un sy’n dysgu iaith.
Fodd bynnag, mae gen i gryn bellter o hyd i deithio o ran defnyddio fy Nghymraeg yn y gwaith. Rwy’n teimlo fy mod i fel plentyn yn ei arddegau, ar y cam lletchwith hwnnw o ran caffael iaith, pan fyddaf yn swnio’n ddealladwy ac aeddfed un funud, ond yn ‘monosyllabig’ y funud nesaf, fel fod fy ymennydd yn dal i wneud y cysylltiadau cywir. Ddim yn wych pan fyddwch chi eisiau trafod pethau ar sail broffesiynol! Yr hyn rwy wedi sylweddoli o’r diwedd, serch hynny, yw mai dysgu iaith yw ei defnyddio, ac mae’n rhaid i mi fod yn ddewr yn amlach. Hyd yn hyn, rwy wedi cael dim byd ond cefnogaeth ymhlith cydweithwyr sy’n siarad Cymraeg , a rheolwyr sy’n awyddus i ddod o hyd i gyfleoedd i mi barhau i symud ymlaen.
Mae’n thema gyffredin, rwy’n clywed dysgwyr eraill yn dweud yr un peth yn rheolaidd, nad ydyn nhw’n teimlo’n ddigon hyderus i fynd allan yna a dechrau ei defnyddio. Efallai y gallwn fod yn ddewr, cymryd y naid gyda’n gilydd a pherchnogi’r iaith yn llwyr! Rho gynnig arni!
Sarah
Os ydych chi’n adnabod rhywun sydd eisiau dysgu Cymraeg, rhannwch y blog yma gyda nhw a danfonwch nhw i Dysgu Cymraeg / Learn Welsh.